Ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch yn rhoi'r gorau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, ond ni fyddwch yn awtomatig yn rhoi'r gorau i dalu Treth Incwm. Os yw eich incwm trethadwy - gan gynnwys eich pensiwn - yn fwy na'ch lwfansau di-dreth, byddwch chi'n parhau i dalu treth.
Efallai fod Cyllid a Thollau EM eisoes wedi cysylltu â chi i'ch helpu i ganfod a ddylech chi fod yn talu treth ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. Efallai eich bod wedi cael 'Ffurflen Ymholiad Pensiwn' (P161). Mae'n bwysig eich bod yn llenwi hon er gwybodaeth i Gyllid a Thollau EM er mwyn sicrhau eich bod yn talu'r dreth gywir ac yn cael eich lwfansau sy'n gysylltiedig ag oed. Os ydych chi o fewn mis i gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ac nad ydych wedi clywed gan Gyllid a Thollau EM llwythwch y ffurflen oddi ar y we neu cysylltwch â nhw i ofyn am y ffurflen.
I ganfod a ydych yn drethdalwr, dilynwch y tri cham hyn:
Os yw'ch incwm trethadwy yn fwy na'ch lwfansau di-dreth, rydych yn drethdalwr a rhaid i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM. Os yw eich lwfansau di-dreth yr un fath neu'n fwy na'ch incwm trethadwy, does dim rhaid i chi wneud dim. Os ydych yn credu na ddylech fod yn talu treth ond eich bod yn gwneud, gallwch hawlio arian yn ôl.
Mae rhai mathau o incwm yn drethadwy a rhai mathau nad ydynt yn cael eu trethu byth. Dim ond eich incwm trethadwy a'ch lwfansau di-dreth mewn blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill) y mae angen i chi eu cymharu i weld a ydych yn drethdalwr ai peidio.
Ceir manylion y mathau mwyaf cyffredin o incwm trethadwy ac incwm anhrethadwy isod. Fodd bynnag, dylech hefyd edrych ar y rhestr lawn o incwm trethadwy ac anhrethadwy drwy ddilyn y ddolen ar ddiwedd yr adran hon.
Mae eich incwm trethadwy'n cynnwys:
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil a bod gennych incwm o gynilion, buddsoddiadau neu eiddo a ddelir yn enwau'r ddau ohonoch, rydych fel arfer yn cael eich trin fel petaech yn cael hanner yr incwm yr un. Felly dim ond ar eich hanner chi y mae'n rhaid i chi dalu treth. Os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, dim ond eich cyfran chi o'r incwm ar y cyd yr ydych yn ei gyfrif .
Os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, dim ond eich cyfran chi o'r incwm ar y cyd yr ydych yn ei gyfrif.
Mae'r incwm nad yw byth yn cael ei drethu'n cynnwys:
Eich lwfansau di-dreth yw'r incwm a gewch heb orfod talu treth arno. Maent yn cynnwys y Lwfans Personol a'r Lwfans Person Dall.
Mae pawb yn cael y Lwfans Personol Sylfaenol, ond os ydych yn 65 neu'n hŷn a bod eich incwm o dan lefelau penodol, mae'r gyfradd yn codi.
| Cyfraddau'r Lwfans Personol | 2008-2009 | Terfyn incwm (gweler y nodyn) |
|---|---|---|
| Y swm sylfaenol i rywun dan 65 | £6,035 | dim |
| 65 i 74 oed | £9,030 | £21,800 |
| 75 oed neu hŷn | £9,180 | £21,800 |
Nodyn: Os yw'ch incwm trethadwy yn uwch na'r 'terfyn incwm', bydd y swm sydd gennych dros y terfyn hwnnw yn cael ei haneru (£1 am bob £2) ac yn cael ei dynnu oddi ar y lwfans sy'n gysylltiedig ag oed nes cyrhaeddir y lwfans cyfradd sylfaenol. (Cewch y lwfans sylfaenol bob tro, beth bynnag yw lefel eich incwm.)
Felly, er enghraifft, os ydych yn 66 oed gydag incwm o £22,300 (£500 dros y terfyn), byddai £250 yn cael ei dynnu oddi ar eich lwfans ar sail oed o £9,030 gan adael £8,780.
Os ydych yn 66 oed a chydag incwm o £30,800 (£9,000 dros y terfyn), byddai eich lwfans ar sail oed o £9,030 yn gostwng £4,500 (h.y. £9,000/2) yn £4,530. Fodd bynnag, allwch chi ddim cael llai na'r lwfans sylfaenol felly cewch £5,435.
Os ydych chi'n cael eich cyfrif yn ddall a'ch bod ar gofrestr leol o bobl ddall, neu os ydych chi'n byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon ac na allwch wneud unrhyw waith lle mae gallu gweld yn hanfodol, gallwch hawlio Lwfans Person Dall. Fel eich Lwfans Personol, mae hwn yn incwm y gallwch ei gael heb dalu treth arno. Ar gyfer 2008-2009 y lwfans yw £1,800.
Tynnwch eich lwfansau di-dreth o'ch incwm trethadwy - os oes unrhyw beth ar ôl byddwch yn cyfrif fel trethdalwr a rhaid i chi gysylltu â'ch Swyddfa Dreth os nad ydych eisoes yn talu treth. Os nad oes dim yn weddill, ni ddylech fod yn talu treth, ac efallai fod ad-daliad yn ddyledus i chi
Cofiwch ei bod yn bosib eich bod yn gymwys i gael lwfansau eraill megis y Lwfans Pâr Priod a'r Gostyngiad ar Daliadau Cynnal. Gall y rhain leihau eich bil treth, neu mewn rhai achosion, gallant olygu nad oes gennych ddim o gwbl i'w dalu - dilynwch y ddolen isod i ddysgu mwy.
Os byddwch yn cael pensiwn personol (gan gynnwys blwydd-dal ymddeol) neu bensiwn cwmni neu'n gwneud gwaith rhan-amser ac o ganlyniad yn talu treth drwy'r system Talu Wrth Ennill, mae'n bosib y gall eich Swyddfa Dreth gasglu unrhyw dreth ychwanegol sy'n ddyledus gennych yn y ffordd honno (gan gynnwys treth ar Bensiwn y Wladwriaeth). Fel arall byddant yn gofyn i chi lenwi ffurflen P810, sef Adolygiad Treth, i roi gwybod am eich incwm neu i dalu treth drwy Hunanasesu.
Fel arfer bydd rhif ffôn a chyfeiriad eich Swyddfa Dreth ar unrhyw lythyrau neu ffurflenni yr ydych wedi'u cael gan Gyllid a Thollau EM. Neu, os gwyddoch enw eich Swyddfa Dreth, gallwch chwilio am y manylion cysylltu ar-lein. Gallwch hefyd ofyn yn un o Ganolfannau Ymholiadau lleol Cyllid a Thollau EM.
Os ydych yn meddwl eich bod yn talu gormod o dreth neu na ddylech fod yn talu treth o gwbl, mae camau y gallwch eu cymryd i hawlio ad-daliad.