Cynhelir arwerthiannau'r heddlu o eiddo coll neu eiddo wedi'i atafaelu yn lleol a mater i'r heddluoedd unigol yw'r drefn hysbysebu. Mae adrannau a gweinyddiaethau'r llywodraeth yn gwneud eu trefniadau'u hunain hefyd.
Er enghraifft, mae gan y Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) wefan arbennig ar gyfer cael gwared ar stoc dros ben, ac mae DVLA yn cynnal arwerthiannau rheolaidd o rifau cofrestru cerbydau.