Mae'n bosib y gallwch gael taliad untro neu daliadau rheolaidd am 52 wythnos os ydych wedi cael profedigaeth.
Cyfandaliad untro yw'r Taliad Profedigaeth, ac fe'i seilir ar gyfraniadau yswiriant gwladol (YG) eich diweddar ŵr neu'ch diweddar wraig. Arferid ei alw'n Daliad Gweddw.
Taliad rheolaidd yw'r Lwfans Profedigaeth, a delir am 52 wythnos ar ôl profedigaeth. Fe'i seilir ar gyfraniadau yswiriant gwladol (YG) eich diweddar ŵr neu'ch diweddar wraig. Arferid ei alw'n Bensiwn Gweddw.
Dim ond yng Nghymru, Lloegr a'r Alban y gellir cael y Taliad Profedigaeth a'r Lwfans Profedigaeth.
Defnyddiwch y ddolen briodol isod i wefan y Ganolfan Byd Gwaith am fwy o wybodaeth ac i lwytho ffurflen hawlio ar fformat PDF.
Gallwch hawlio Lwfans Profedigaeth a Thaliad Profedigaeth. Mae nodiadau gyda'r ffurflen i'ch helpu i'w llenwi ac i ddweud wrthych i ble y dylech ei hanfon.
Dylech wneud cais ar unwaith. Os na wnewch chi hyn, efallai y byddwch chi'n colli eich budd-dal.
Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld y ffurflen. Ceir gwybodaeth am sut i lwytho hwn am ddim ar banel de'r dudalen hon.