Gwefan llywodraeth y DU ar gyfer ei dinasyddion yw Directgov, sy'n darparu gwybodaeth a gwasanaethau ar-lein i'r cyhoedd i gyd yn yr un lle.
I chwarae’r fideo hwn, mae arnoch angen Adobe Flash Player fersiwn 9 neu uwch ar eich cyfrifiadur, ac mae’n rhaid i chi fod wedi galluogi JavaScript ar eich porwr. Mae ein tudalen Help gyda ffeiliau fideo yn cynnig cyngor os nad ydych yn siŵr sut mae gwneud hyn. Mae’r meddalwedd Flash yn rhad ac am ddim.
Nod Directgov yw darparu mynediad hawdd i wybodaeth a gwasanaethau'r llywodraeth. Mae'n gwneud hyn drwy weithio'n agos gydag adrannau gweinidogol a chyrff cyhoeddus anadrannol i ddarparu gwybodaeth bwysig i gyd yn yr un lle.
Dyma enghreifftiau o'r pynciau y gall Directgov gynnig help ar eu cyfer:
Gallwch ddod o hyd i wasanaethau a gwybodaeth benodol drwy chwilio neu gallwch bori yn ôl pynciau, megis:
a dod o hyd i wybodaeth yn ôl grwpiau gwahanol, er enghraifft:
Mynediad at wasanaethau ar-lein y llywodraeth
Gallwch gyflawni amryw o wasanaethau ar-lein y llywodraeth, megis:
Gallwch ddod o hyd i restr o gyfryngau, gwasanaethau a ffurflenni'r llywodraeth sydd ar gael ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod.
Mae Directgov yn gweithio'n agos gydag adrannau'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus anadrannol i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr a hwylus i ddinasyddion.
Er mwyn helpu i sicrhau bod gwybodaeth a gwasanaethau'r llywodraeth ar gael i gymaint o bobl â phosib, caiff gwefannau eraill eu hannog i naill ai cynnwys dolen i Directgov neu i ddefnyddio cynnwys Directgov.
Swyddi Directgov
Mae Directgov yn prysur ehangu, a cheir swyddi gwag mewn amryw o feysydd cyffrous. Mae’r meysydd hyn yn cynnwys:
Os ydych yn awyddus i weithio i Directgov dilynwch y ddolen isod i weld ein swyddi gwag ar hyn o bryd.
Dolenni i Directgov
Mae Directgov yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gael dolen at dudalennau gwybodaeth Directgov. Nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i greu dolen i Directgov, ond gallwn ni ddarparu'r geiriau a'r graffeg ar eu cyfer.
Defnyddio cynnwys Directgov
Caiff yr holl wybodaeth ar wefan Directgov ei gwarchod gan Hawlfraint y Goron. Mae hyn yn golygu y gellir atgynhyrchu'r wybodaeth yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod y caiff ei gopïo’n gywir ac nad yw’n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.
I gael mwy o wybodaeth am ddefnyddio cynnwys Directgov, dilynwch y ddolen isod.
Rydym yn monitro gweithgarwch ar wefan Directgov yn rheolaidd - nifer yr ymweliadau, nifer y defnyddwyr unigryw, nifer y ceisiadau am dudalennau - er mwyn cael amcangyfrif o faint o bobl sy'n defnyddio'r wefan ac i gael gwybod pa dudalennau yw'r rhai mwyaf poblogaidd.
Ymholiadau gan y wasg a'r cyfryngau
Mae gan Directgov dîm ymroddgar ar gyfer yr holl ymholiadau gan y cyfryngau a'r wasg.
Mae gwybodaeth a gwasanaethau Directgov bellach ar gael ar y teledu ac ar ffonau symudol sy'n gallu cysylltu â'r rhyngrwyd.
Directgov ar eich ffôn symudol
Mae Directgov ar gael ar bob ffôn symudol sy'n gallu cysylltu â'r rhyngrwyd. Os ydych chi ar grwydr neu os nad oes gennych gyfrifiadur wrth law, gallwch ddefnyddio eich ffôn i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio, dod o hyd i'ch meddyg agosaf, swyddi, dysgu am gymorth gyda chostau gofal plant a llawer mwy.
I fanteisio ar y gwasanaeth gallwch naill ai:
Directgov ar eich teledu
Os ydych chi'n un o gwsmeriaid Sky, Virgin Media, Freeview neu Teletext, gallwch fanteisio ar ystod eang o wybodaeth am wasanaethau cyhoeddus drwy'ch set deledu gyda gwasanaeth teledu rhyngweithiol Directgov, sydd wedi'i ddylunio'n arbennig.
Dyma enghreifftiau o'r gwasanaethau y gallwch fanteisio arnynt drwy eich set deledu:
Dilynwch y dolenni isod i gael manylion am sut mae manteisio ar Directgov TV.