This snapshot, taken on
13/11/2009
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Imiwneiddio plant

Mae yna rai afiechydon a all ladd plant neu achosi niwed parhaol i'w iechyd. Weithiau, mae angen cymorth ar system imiwnedd eich plentyn er mwyn gallu ymladd yr afiechydon hynny. Imiwneiddio, neu frechu neu roi pigiad, sy'n darparu'r cymorth hwnnw.

Amserlen imiwneiddio'r DU

Yr oed y rhoddir yr imiwneiddiad Pa afiechydon sy'n cael eu rhwystro Enw'r brechlyn
Deufis oed Difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), polio a ffliw Haemoffilws math b (Hib)
Heintiau niwmococol
DTaP/IPV/Hib
brechlyn Niwmococol cyfunedig, (PCV)
Tri mis oed Difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), polio a ffliw Haemoffilws math b (Hib)
Llid yr ymennydd C
DTaP/IPV/Hib
MenC
Pedwar mis oed Difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), polio a ffliw Haemoffilws math b (Hib)
Llid yr ymennydd C
heintiau Niwmococol
DTaP/IPV/Hib
MenC
PCV
Oddeutu 12 mis oed ffliw Haemoffilws math b (Hib)
Llid yr ymennydd C
Hib/MenC
Oddeutu 13 mis oed Y frech goch, clwy'r pennau a rwbela
heintiau Niwmococol
MMR
PCV 
Tair mlynedd a phedwar mis, neu'n fuan wedi hynny Difftheria, tetanws, pertwsis a pholio
Y frech goch, clwy'r pennau a rwbela
DTaP/IPV neu dTaP/IPV
MMR 
Tair ar ddeg i ddeunaw mlwydd oed Difftheria, tetanws, polio Td/IPV  
Tair ar ddeg i ddeunaw mlwydd oed (o fis Medi 2008 - merched yn unig) Firws papiloma dynol (HPV) - mae'n cynyddu'r perygl o gael canser ceg y groth HPV

Yn ychwanegol, mae rhai babanod mewn grwpiau uchel eu risg yn cael imiwneiddiad y BCG i'w hamddiffyn rhag twbercwlosis yn fuan ar ôl iddynt gael eu geni. Hefyd, gall rhai babanod sy'n agored i fwy o risg gael eu himiwneiddio yn erbyn Hepatitis B. Bydd eich meddyg/ymwelydd iechyd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi os bydd angen y rhain ar eich plentyn.

Imiwneiddio eich plentyn

Cyn i'ch plentyn ddechrau yn yr ysgol, bydd fel arfer yn cael ei imiwneiddio naill ai gan eich meddyg teulu neu yn y clinig iechyd plant lleol. Anfonir apwyntiad atoch fel arfer gan yr Adran Iechyd Plant neu gan eich meddygfa.

Fel rheol, bydd plant yn eu harddegau yn cael eu himiwneiddio yn yr ysgol. Bydd yr ysgol yn cysylltu â chi cyn y bydd eich plentyn yn derbyn unrhyw frechiad.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, gallwch siarad â'ch ymwelydd iechyd, eich meddyg, nyrs ysgol neu'r nyrs practis yn y feddygfa. Gallwch hefyd gysylltu â NHS Direct ar 0845 4647 (Cymru a Lloegr yn unig). Codir y gyfradd leol am bob galwad. Er mwyn diogelu cleifion, caiff pob galwad ei recordio.

Mae gan Ogledd Iwerddon a'r Alban eu gwasanaethau GIG eu hunain. Cewch wybod mwy trwy ddilyn y dolenni isod.

Brechiadau ffliw

Argymhellir rhoi brechiad ffliw yn flynyddol, cyn i'r gaeaf ddechrau, i blant a allai ei chael yn anodd ymladd y clefyd neu i blant sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu cymhlethdodau. Os oes gan eich plentyn un o'r cyflyrau canlynol, argymhellir brechiad rhag y ffliw a dylech siarad â'ch meddyg:

  • clefyd anadlol difrifol, gan gynnwys asthma cronig, broncitis, ffibrosis systig neu emffysema
  • clefyd difrifol ar yr arennau neu'r iau
  • diabetes
  • gwrthimiwnedd oherwydd afiechyd neu driniaeth
  • plant sydd naill ai heb ddueg (spleen) neu nad oes ganddynt ddueg sy'n gweithio'n iawn

Allweddumynediad llywodraeth y DU