This snapshot, taken on
07/05/2009
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Awgrymiadau ar gyfer adolygu: sefyll arholiadau

Mae adolygu'n fwy na dim ond darllen drwy'r nodiadau a wnaethoch yn y dosbarth - mae hefyd yn golygu gwybod sut i ateb y cwestiynau pan fyddwch yn yr arholiad. Bydd defnyddio hen bapurau arholiad i ymarfer yn helpu i wneud y gwaith o basio arholiadau'n haws.

Paratoi ar gyfer yr arholiad - pam fod hyn yn bwysig

Mae adolygu'n cael yr effaith orau pan fyddwch yn ymarfer yr hyn y byddwch yn ei wneud yn yr arholiad - sef ateb cwestiynau. Drwy ganolbwyntio ar ffeithiau allweddol a'u hysgrifennu ar bapur fel atebion arholiad, byddwch yn ei chael yn haws cofio'r hyn a ddysgoch yn y dosbarth.

Gwybod beth fydd yn yr arholiad

Yn yr arholiad, disgwylir i chi ateb cwestiynau ar y pynciau a astudiwyd gennych yn y dosbarth, sy'n golygu y bydd angen set lawn o nodiadau arnoch i adolygu. Os methoch rhai dosbarthiadau, efallai na fydd eich nodiadau'n gyflawn.

I wneud yn siŵr bod yr holl nodiadau gennych, sicrhewch fod eich nodiadau'n cyfateb i'r rhestr wirio ar gyfer adolygu y byddwch yn ei derbyn gan eich athro. Os bydd y rhestr wirio'n dangos nad oes gennych nodiadau ar gyfer rhai pynciau, gofynnwch i'ch athro pa benodau o'r gwerslyfr pwnc y bydd angen i chi eu darllen er mwyn gwneud nodiadau i lenwi'r bylchau.

Cael gafael ar hen bapurau arholiad

Fis cyn i chi sefyll yr arholiad, bydd eich athro fel arfer yn rhoi copïau o hen bapurau arholiad i'r dosbarth. Mae'r rhain yn ddelfrydol i'w defnyddio i ymarfer ateb cwestiynau arholiad.

Does dim rhaid i chi aros tan hynny. Gallwch ddechrau ymarfer yn gynt drwy ddarllen drwy eich gwerslyfr pwnc a fydd fel arfer yn cynnwys rhai cwestiynau arholiad enghreifftiol.

Gellir llwytho mwy o gwestiynau arholiad er mwyn ymarfer, ynghyd â'u hatebion (y cynllun marcio), oddi ar wefannau byrddau arholiad. Dyma brif fyrddau arholi Lloegr:

  • Edexcel 
  • OCR
  • Cynghrair Asesu a Chymwysterau (AQA)

Defnyddio papurau arholiad i roi trefn ar eich nodiadau adolygu

Mae hen bapurau arholiad yn ddefnyddiol iawn wrth i chi roi trefn ar eich nodiadau adolygu. Trefnwch eich nodiadau yn yr un drefn ag y mae'r testunau'n ymddangos yn y papur arholiad. Ar ôl i chi wneud hyn, ceisiwch gofio'r ffeithiau allweddol sy'n ofynnol ar gyfer pob pwnc. Fe welwch fod trefnu'ch nodiadau yn ei gwneud yn haws i chi eu cofio ac yn gwella'ch cof.

Po hawsaf yw cofio'r ffeithiau, cyflymaf y gallwch eu hysgrifennu yn yr arholiad.

Rhowch gynnig arni ac ymarfer gwneud yr arholiad

Mae pasio arholiadau gyda'r marciau gorau posib yn golygu gwybod beth i'w ysgrifennu a beth i'w adael allan. Does dim rhaid i chi ysgrifennu popeth yr ydych yn ei gofio ac mae cael hyn yn iawn yn gofyn am ymarfer.

Cyn i chi ddechrau ysgrifennu, darllenwch y rhif yn y cromfachau ar ôl bob cwestiwn. Mae hwn yn nodi sawl marc a roddir am bob cwestiwn ac yn rhoi cliw i chi ynghylch hyd yr ateb. Er enghraifft, mae cwestiwn tri phwynt yn golygu y bydd yn rhaid i chi nodi tair ffaith; gyda chwestiwn lle rhoddir mwy o farciau, rhaid rhoi mwy o ffeithiau ac ateb hirach bob amser.

Dyma rai cliwiau a geir mewn cwestiynau arholiad:

  • mae'r gair 'diffiniwch' yn golygu bod yn rhaid i chi esbonio pob ffaith
  • mae'r gair 'awgrymwch' yn golygu bod yn rhaid i chi ddefnyddio'r wybodaeth yr ydych yn ei chofio i ddarparu syniad

Unwaith i chi gwblhau'r papur arholiad enghreifftiol gallwch weld a ydych wedi ateb y cwestiynau'n gywir drwy gymharu eich atebion gyda'r cynllun marcio y gellir ei lwytho oddi ar wefan y bwrdd arholi.

Allweddumynediad llywodraeth y DU