Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth
Gall Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth leihau eich treth os byddwch yn talu cynhaliaeth i'ch cyn gymar neu'ch cyn bartner sifil. Mae'n swm y gall Cyllid a Thollau EM ei dynnu o'ch bil treth - felly dim ond os ydych chi'n talu treth y gallwch hawlio.
Pwy all gael Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth?
Gallwch gael Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth:
- os ganed chi neu'ch cyn-gymar neu'ch cyn-bartner sifil cyn 6 Ebrill 1935
- os ydych wedi gwahanu neu wedi ysgaru neu fod eich partneriaeth sifil wedi chwalu a chithau'n gwneud y taliadau dan Orchymyn Llys
- os yw'r taliadau ar gyfer cynnal eich cyn-gymar neu'ch cyn-bartner sifil (ar yr amod nad ydynt wedi ailbriodi neu mewn partneriaeth sifil newydd) neu ar gyfer eich plant o dan 21
Ar gyfer blwyddyn dreth 2008-09 gall leihau eich bil treth gymaint â'r isaf o'r ddau swm canlynol:
- 10 y cant o £2,540 (£254) - bydd hwn yn berthnasol pan fyddwch yn talu Gostyngiad Taliad Cynhaliaeth o £2,540 neu fwy y flwyddyn
- 10 y cant o'r swm a delir i chi mewn gwirionedd - bydd hwn yn berthnasol pan fyddwch yn talu Gostyngiad Taliad Cynhaliaeth o lai na £2,540
Ni allwch hawlio gostyngiad treth ar gyfer unrhyw daliadau gwirfoddol y byddwch yn eu gwneud ar gyfer plentyn, cyn-gymar neu gyn-bartner sifil.
Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth - enghraifft a gyfrifwyd
Rydych yn 74, wedi ysgaru, mae gennych incwm trethadwy o £20,000 ac rydych yn talu £1,200 o daliad cynhaliaeth y flwyddyn i'ch cyn-gymar (£100 y mis):
- eich incwm trethadwy yw £20,000
- eich lwfans di-dreth yw £9,030 (Lwfans Personol ar sail oed ar gyfer rhai rhwng 65 a 74 mlwydd oed)
- Mae Cyllid a Thollau EM yn tynnu'ch lwfans di-dreth (£9,030) oddi wrth eich incwm trethadwy (£20,000) - mae hynny'n eich gadael gydag incwm trethadwy o £10,970, ond gallwch ddefnyddio'ch Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth i leihau'ch bil treth
- rydych chi'n talu cynhaliaeth o £1,200 felly mae £120 (10 y cant o £1,200) o ostyngiad treth yn ddyledus i chi
- tynnir y swm o'ch bil treth
Sut i hawlio Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth
Er mwyn hawlio Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth, cysylltwch â ni drwy glicio ar y ddolen isod.
Os ydych chi eisoes wedi hawlio Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth a'ch bod yn derbyn 'Hysbysiad Cod PAYE' bydd hwn yn rhoi gwybod i chi faint y byddwch yn ei gael. Os ydych yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesiad, bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi gynnwys manylion eich cais am y Gostyngiad Taliad Cynhaliaeth.
Os ydych chi'n derbyn taliadau cynhaliaeth
Ni fyddwch yn talu treth ar unrhyw daliadau cynhaliaeth y byddwch yn eu derbyn.