This snapshot, taken on
29/01/2009
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Disclaimer: Our website and publications aim to give you general information to help you make financial decisions. It is not advice, nor can it take account of your own particular circumstances. For advice with a view to making decisions about your own circumstances you should consult a financial or other professional adviser.

© The Financial Services Authority.

Tudalen Gymraeg

Pwy ydym ni

Corff gwarchod ariannol y DU ydym ni, a sefydlwyd gan y llywodraeth i helpu i reoleiddio gwasanaethau ariannol yn y DU ac i warchod eich hawliau. Mae hyn yn golygu ein bod yn gosod y safonau y mae'r rhan fwyaf o fusnesau gwasanaethau ariannol yn gorfod cwrdd â hwy, a byddwn yn gweithredu os nad ydynt. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth glir a diduedd, ar y wefan hon ac mewn cyhoeddiadau, ynglyn â chynnyrch a gwasanaethau ariannol, i helpu i wneud materion ariannol yn gliriach ichi. Am wybodaeth bellach ynglyn â ni, gwelwch dolen i'r wefan gorfforaethol.

Dim gwerthu

Am ein bod yn gorff gwarchod, nid ydym yn gwerthu dim byd, ac felly mae ein gwybodaeth i gyd yn ddiduedd. Rydym yn darparu gwybodaeth trwy'r wefan hon, llyfrynnau a Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr. Ond - fel y corff rheoleiddio - ni allwn ymchwilio cwynion unigol, argymell cwmni penodol, neu roi cyngor ichi ar ba gynnyrch i'w ddewis

Sut rydym yn eich helpu

Rydym yn rheoleiddio'r rhan fwyaf o fathau o gwmnïau gwasanaethau ariannol, megis banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, cwmnïau yswiriant, cynghorwyr ariannol, broceriaid stoc, gwerthwyr morgeisi ac yswiriant. Caiff cwmnïau rheoledig a'u hasiantau eu gosod ar ein Cofrestr, ac mae'n rhaid iddynt gwrdd â safonau penodol. Sicrhewch bob amser fod y cwmni rydych yn ei ddefnyddio ar ein Cofrestr cyn trosglwyddo eich arian. Os nad ydynt yn cael eu rheoleiddio gennym ac aiff pethau o chwith, ni fyddwch yn gallu manteisio o'n gweithdrefnau cwyno ac iawndal. I ddarganfod a yw cwmni ar ein Cofrestr, gwelwch Gwirio ein Cofrestr neu ffoniwch ein Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr ar 0845 606 1234 (gall cyfraddau galwadau amrywio).

Mae gennym sawl ffordd o ddarparu gwybodaeth ddiduedd:

  • mae'r wefan hon yn cynnig gwybodaeth am gynnyrch a gwasanaethau ariannol, efallai y bydd eu hangen arnoch yn ystod cyfnodau gwahanol eich bywyd;
  • mae ein tablau ar-lein yn cymharu cynnyrch ariannol - er enghraifft, ynglyn â'u taliadau neu eu hyblygrwydd;
  • mae ein Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr, ar 0845 606 1234, yn cynnig gwybodaeth a chyngor cyffredinol yn y Gymraeg yn ogystal â Saesneg; ac
  • mae ein llyfrynnau am ddim, hawdd eu deall, yn ymdrin ag amrywiaeth helaeth o bynciau, yn gyffredinol ac yn benodol i wahanol gynhyrchion, ac mae'r canlynol ar gael yn y Gymraeg:
    • Cyfrifon banc sylfaenol - atebion i'ch cwestiynau
    • Arweiniad yr FSA i gyngor ariannol
    • Arweiniad yr FSA i ddwyn cwyn am wasanaethau ariannol

Cewch archebu'r rhain yma : [ffurflen archebu cyhoeddiadau].