Costau iechyd
Mae'r rhan fwyaf o driniaethau dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) am ddim, ond weithiau fe godir tâl am rai pethau. Efallai y cewch gymorth gyda chostau'r GIG, er enghraifft os ydych chi ar incwm isel.
Beth sy'n cael ei gynnwys?
Mae'n bosib y cewch chi help gyda chostau iechyd megis:
- Costau presgripsiynau'r GIG
- Triniaeth ddeintyddol y GIG, gan gynnwys archwiliadau rheolaidd
- profion llygaid
- talebau tuag at gost sbectol neu lensys cyffwrdd
- costau teithio i'r ysbyty ac adref i gael triniaeth dan y GIG dan ofal ymgynghorydd
- costau teithio ar gyfer triniaeth dan y GIG dramor
- wigiau a gwregysau defnydd, er enghraifft gwregysau i'r stumog a'r meingefn
Pwy sy'n gymwys?
Mae'n bosib y cewch chi help gyda chostau taliadau os oes un o'r canlynol o leiaf yn berthnasol i chi:
- os ydych chi'n cael Cymhorthdal Incwm
- os ydych chi'n cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- os ydych chi'n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm
- os ydych chi'n cael Credyd Gwarant Credyd Pensiwn
- os ydych chi'n cael Credyd Treth Gwaith gyda naill ai'r Credyd Treth Plant neu elfen anabledd (yn dibynnu ar eich incwm)
- os oes gennych Dystysgrif Eithrio ddilys y GIG (HC2 i gael help llawn, HC3 i gael help rhannol gyda'r gost)
- os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn (ar gyfer presgripsiynau'r GIG a phrofion llygaid y GIG)
- os ydych chi dan 16 oed (dan 25 yng Nghymru), dan 18 ar gyfer triniaeth ddeintyddol dan y GIG
- os ydych chi dan 19 oed ac yn dal i fod mewn addysg amser llawn (yn Lloegr ac yn yr Alban yn unig)
- os ydych chi'n dioddef o gyflwr meddygol arbennig (ar gyfer presgripsiynau am ddim y GIG yn unig), holwch eich meddyg os ydych chi'n meddwl y gallai hyn fod yn berthnasol i chi
- os oes gennych dystysgrif eithrio adeg mamolaeth (ar gyfer triniaeth ddeintyddol dan y GIG a thaliadau presgripsiwn y GIG)
- os ydych chi'n cael pensiwn anabledd rhyfel neu fod angen presgripisynau neu driniaeth dan y GIG arnoch ar gyfer eich anabledd
- os ydych chi'n garcharor yn Lloegr
Help os ydych chi ar incwm isel
Cynllun Incwm Isel y GIG
Os ydych ar incwm isel, ac nad ydych chi'n gymwys am unrhyw fath arall o help, efallai y cewch gymorth gyda'ch costau iechyd trwy wneud cais dan Gynllun Incwm Isel y GIG.
Bydd faint o help gewch chi'n dibynnu ar faint o incwm sydd gennych, ond efallai na fyddwch gymwys i gael help os ydych chi wedi cynilo gormod.
Chewch chi ddim help os ydych chi, neu'ch partner neu'ch partner sifil:
- yn berchen ar £16,000 mewn eiddo (heb gynnwys lle'r ydych chi'n byw), cynilion neu arian arall
neu
- yn byw'n barhaol mewn cartref gofal neu gartref nyrsio preswyl a bod gennych £21,000 mewn eiddo, cynilion neu arian arall
Sut i hawlio
Rhaid i chi lenwi Ffurflen HC1 gan swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith neu eich ysbyty GIG lleol. Mae'n bosibl hefyd y gallech chi gael ffurflen gan eich meddyg, eich deintydd a'ch optegydd.
Gallwch gael ffurflen hefyd drwy gysylltu â llinell archebu cyhoeddiadau'r Adran Iechyd ar 0870 155 54 55 (rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).
I gael rhagor o wybodaeth am sut i hawlio, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
Beth os bydd eich amgylchiadau'n newid?
Os bydd eich amgylchiadau'n newid, er enghraifft os nad ydych chi'n gymwys rhagor i hawlio Lwfans Ceisio Gwaith - mae'n bosibl na fydd gennych hawl i fudd-daliadau iechyd ychwaith.
I gael mwy o fanylion, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
Beth arall y mae angen i chi ei wybod
I gael rhagor o wybodaeth am daliadau'r GIG yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gallwch lwytho llyfryn oddi ar wefan yr Adran Iechyd.
Os bydd angen rhagor o gyngor arnoch am gael help gyda chostau iechyd, cysylltwch â'ch canolfan Cyngor Ar Bopeth leol.