Health & Safety
Executive / Commission
Contact HSE
Os ydych wedi cysylltu â ni ac yn anfodlon ar y ffordd yr ydym wedi delio â chi, rydym am gael gwybod. Rydym am wella'r sefyllfa, a chroesawn awgrymiadau bob amser i'n helpu i wella ein perfformiad.
Os na allwch ddatrys y broblem gyda'r person yr ydych wedi bod yn delio â hwy, gofynnwch iddynt am enw ei reolwr (bydd llythyrau gennym hefyd yn rhoi'r wybodaeth hon). Yna gallwch ofyn i siarad â hwy, neu os yw'n well gennych, gallwch ysgrifennu atynt. Byddant yn sicr o ymchwilio eich cwyn a dweud wrthych beth y byddant yn ei wneud am y g ŵ yn. Caiff y rhan fwyaf o gwynion eu datrys yn y ffordd hon, yn aml iawn ar unwaith. Os na fydd hyn yn digwydd, ceisiwn ymateb o fewn deg diwrnod gwaith bob tro.
Os nad ydych yn fodlon o hyd, gallwch ysgrifennu at Brif Weithredwr HSE:
Geoffrey Podger
Health and Safety Executive
Rose Court
2 Southwark Bridge
London
SE1 9HS
a fydd yn sicrhau y caiff eich cwyn ei thrafod yn brydlon a theg.
Gallwch hefyd ysgrifennu at eich AS i ofyn iddynt fynd ar drywydd yr achos gyda ni neu gyda Gweinidogion. Gall eich AS hefyd ofyn i'r Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth (yr Ombwdsmon), sy'n annibynnol, i adolygu eich cwyn.