This snapshot taken on 25/07/2006, shows web content selected for preservation by The National Archives. External links, forms and search boxes may not work in archived websites.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cymru.gov.uk
Hafan Help Cyswllt Cyswllt
Map o'r Wefan Chwilio mwy manwl Chwilio mwy manwl
 
Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Cynulliad * Bwletin Wythnosol * Busnes y Dyfodol * Busnes y Gorffennol * Newyddion y Cynulliad * Y Senedd * Pwy yw Pwy? * Cysylltu ac Ymweld


Cymorth

Plugins

Porwyr

Cysylltu �'r Cynulliad i gael cymorth

Y bwriad bob amser yw eich helpu i gael ymweliad hwylus a llawn gwybodaeth � gwefan y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r wefan yn datblygu drwy'r amser wrth i ni ddechrau ar gyfnod newydd yng ngwleidyddiaeth Cymru a Phrydain yn sgil genedigaeth y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r wefan wedi'i dylunio i fod mor hawdd i'w defnyddio a'i darllen � phosibl. Wedi'r cyfan, mae'r Cynulliad yma ar gyfer holl bobl Cymru.

Porwyr

Bydd gwefan y Cynulliad yn gweithio ar unrhyw gyfrifiadur sy'n rhedeg porwr cyffredin ar lefel 3 neu'n uwch, er enghraifft Netscape Navigator neu Internet Explorer.

Plugins

Mae pob ymdrech wedi'i gwneud i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i gynifer � phosibl o bobl, ond mae'r wefan wedi'i gwella hefyd drwy ddefnyddio plugins Macromedia ac adobe.

Beth yw Plugin?

Estyniad ar borwr cyffredin yw plugin ac mae'n galluogi'r porwr i agor dogfennau html ansafonol.

Rydym yn argymell eich bod yn llwytho fersiynau diweddaraf y plugins canlynol er mwyn manteisio i'r eithaf ar wefan y Cynulliad:

Adobe Acrobat

Mae'r Plugin hwn ar gael am ddim gan adobe, ac mae'n gadael i chi lwytho ffeiliau PDF. Mae ffeiliau PDF yn ddogfennau y mae modd eu hargraffu, ac maen nhw'n ddelfrydol ar gyfer argraffu dogfennau llawn oddi ar wefan y Cynulliad, er enghraifft y Cofnod Swyddogol.

Os ydych yn wynebu anawsterau o ran edrych ar ddogfennau PDF efallai y gallai'r awgrymiadau canlynol eich cynorthwyo:

1. Pwyswch y botwm 'Refresh' neu ail-lwythwch y dudalen yr ydych yn ceisio ei gweld.
2. Dylech gadw copi o'r ddogfen PDF ar gyfer eich cyfrifiadur ac yna agor y ddogfen y tu allan i'ch gwe-borwr.
3. Trowch y 'Web Browser Integration' i ffwrdd yn y rhaglen Adobe Acrobat. Gallwch wneud hyn drwy agor Acrobat Reader, clicio ar Edit, Preferences, Options. Yna, gan ddibynnu ar eich fersiwn o Acrobat Reader, dylech sicrhau nad oes tic gyferbyn ag un ai 'Web Browser Integration' neu 'Display PDF in Browser'

Macromedia Flash

Mae Flash yn ychwanegu at y wefan drwy ei gwneud yn haws symud drwyddi ac yn fwy difyr i'w defnyddio. Rhai digon bach yw'r ffeiliau.

   

Bydd y wybodaeth a gyhoeddir ar Ryngrwyd y Cynulliad yn ddwyieithog. Mae'r eitemau a welir yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd yn cael eu cyfieithu a chaiff y fersiynau Cymraeg eu hychwanegu pan fyddant ar gael.

 

Cysylltu �'r Cynulliad

Os oes gennych unrhyw sylwadau am y wefan, byddwch cystal �'u hanfon at webmaster@wales.gsi.gov.uk. Rhowch gymaint � phosibl o wybodaeth, megis:

Y tudalen/nau sy'n creu trafferth.

Pa borwr, a pha fersiwn sydd gennych.

Pa system weithredu a pha fath o gyfrifiadur.

Cofiwch, po fwyaf o wybodaeth rowch chi, hawsaf yn y byd fydd datrys y broblem.

Os hoffech gysylltu �'r Cynulliad Cenedlaethol, gallwch ffonio 029 20 825111 neu ysgrifennu at Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd CF99 1NA

mwy Cyswllt

Hawlfraint y Goron 1999-2005
Yn �l i'r Brig