Croeso - Cynulliad
Cenedlaethol Cymru Welcome - National
Assembly for Wales
Mae
gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru 60 Aelod sydd wedi’u
hethol o bob rhan o Gymru. Mae llawer o bwerau’r
Cynulliad wedi’u dirprwyo i Brif Weinidog Cymru,
sy’n arwain Llywodraeth y Cynulliad.
Os
hoffech wybod am weithgareddau'r Cynulliad
a'i Bwyllgorau, cysylltu ag Aelodau'r Cynulliad neu ddarganfod
mwy am sut mae'r Cynulliad yn gweithio, defnyddiwch y
cysylltiadau ar yr ochr yma i'r dudalen.
Pwyllgor y Cynulliad ar y rheilffyrdd yn lansio ymgynghoriad
cyhoeddus
Mae
Pwyllgor newydd, a sefydlwyd gan y Cynulliad i ymchwilio
i wasanaethaur rheilffyrdd yng Nghymru, wedi lansio
ymgynghoriad cyhoeddus i weld pa welliannau yr hoffai
pobl eu gweld.
Gallwch wneud cyfraniad drwy fynd i wefan y Pwyllgor
Argyfwng yn www.dec.org.uk
Os
hoffech wybod am Lywodraeth Cynulliad Cymru
a'r holl bolisïau a rhaglenni y mae'n gyfrifol amdanynt,
defnyddiwch y cysylltiadau ar yr ochr yma i'r dudalen.
Bydd
hyd at £2.7m ar gael ar gyfer cynllun i gynyddu
nifer dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru,
sy'n gam mawr ymlaen i roi i'r rhai sy'n defnyddio'r
iaith well mynediad at wasanaethau ledled y wlad, cyhoeddodd
Jane Hutt, y Gweinidog dros Gydraddoldeb, heddiw [dydd
Llun, 6 Chwefror]. Dyma'r cynllun cyntaf ar raddfa fel
hyn yn y Deyrnas Unedig a bydd yn fanteisiol i'r 3,000
o bobl yng Nghymru sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain
fel eu hiaith gyntaf neu'u dewis iaith.