Wedi'i gweithredu ar 1af Hydref 2009
Hygyrchedd |
||||
|
|
Hygyrchedd
Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi ymrwymo i ddarparu gwefan sy’n hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl – ni waeth am allu na thechnoleg bori, a chan gynnwys rhai sydd â nam ar eu golwg/clyw neu anabledd symud neu ddirnad. Mae’r wefan hon yn ceisio cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau’r World Wide Web Consortium (W3C) 2.0. Hwyrach nad yw ein gwasanaethau ar-lein (Companies House Direct, WebCHeck a WebFiling) yn cwrdd â’r canllawiau dan sylw ar hyn o bryd ond rydym wrthi yn eu datblygu. Lluniwyd y wefan hon drwy ddefnyddio cod sy’n gyson â safonau’r W3C ar gyfer HTML a Dalennau Sgwd. Dyluniwn y safle gyda defnyddioldeb a hygyrchedd mewn cof. Os cewch anhawster i gyrchu unrhyw wybodaeth sydd ar y safle, e-bostiwch: ismith@companieshouse.gov.uk Bysyll Cyrchu Dyma lwybrau tarw ar y bysellfwrdd sy’n cysylltu’n syth â phrif adrannau’r safle. I gael pen ffordd drwy ddefnyddio’r bysyll cyrchu, gwasgwch a dal y fysell 'alt' (bysell 'ctrl' ar beiriannau Mac) ac yna gwasgu’r rhif sydd eisiau (o dan Firefox 2, daliwch ‘alt’ a ‘shift’ i lawr a gwasgu’r rhif sydd eisiau). Wrth ddefnyddio Internet Explorer, gwasgwch Enter i gadarnhau’r dewis. Addasu maint y testun I gynyddu neu leihau maint y testun, ni raid ond newid gosodiadau’ch porwr:
Testun yn Unig I weld ein safle Testun yn Unig, dilynwch y ddolen gyswllt ‘Text Only’ (bysell gyrchu ‘2’) ar y brig. Sylwer mai ar ein gwefan hybu yn unig y mae hyn yn gweithio ac nid o dan WebCHeck na WebFiling. Delweddau Mae pob delwedd gynnwys a ddefnyddir ar y safle hwn yn ymgorffori priodoleddau ALT disgrifiadol. Mae’r rhai mewn delweddau cwbl addurnol, neu’r rhai a ddefnyddir ar gyfer llunwedd, yn ymgorffori priodoleddau ALT nwl. Defnyddiwn ddiwyg PDF ar gyfer llawer o’r ffurflenni ar ein gwefan. Bydd arnoch chi angen darllenydd Adobe (neu ryw syllwr PDF arall) i weld dogfennau PDF. Dadlwythwch fersiwn diweddaraf darllenydd Adobe yma. Cysylltu â ni Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau neu sylwadau, cysylltwch â Mr Ian Smith: ismith@companieshouse.gov.uk Dolenni Cyswllt Defnyddiol Bydd ar y gwefannau canlynol gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol am hygyrchedd gwe. |
|||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2010 | |
|
.
|