Wedi'i gweithredu ar 1af Hydref 2009
Amdanon Ni |
||||
|
Newidiadau i’r ‘Hawl i Reoli’ ar gyfer Cwmnïau yn Lloegr Mae’r ‘Rheoliadau RTM ar gyfer Cwmnïau (Erthyglau Enghreifftiol) (Lloegr) 2009’ (OS 2009/2767) yn berthnasol i’r holl gwmnïau ‘Hawl i Reoli’ a gofrestrwyd gyda Thŷ’r Cwmnïau. Daeth y rheoliadau hyn i rym ar 9 Tachwedd 2009 ac maent yn cymryd lle’r ‘Rheoliadau RTM ar gyfer Cwmnïau (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu) (Lloegr) 2003’. Bydd y rheoliadau hyn yn berthnasol yn awtomatig i bob cwmni RTM o 1 Hydref 2010 ymlaen, oni bai bod cwmni eisoes wedi eu mabwysiadu trwy benderfyniad arbennig. Darllen rheoliadau 2009 (Saesneg yn unig) Hyd ddiwedd 30 Medi 2010, caiff cwmnïau hŷn â’r Hawl i Reoli (hynny yw, cwmnïau a gofrestrwyd yn Nhŷ’r Cwmnïau cyn Tachwedd 2009) ddewis mabwysiadu’r erthyglau diwygiedig trwy gyflwyno copi o’r erthyglau ynghyd â phenderfyniad arbennig a gymeradwywyd gan aelodau’r cwmni. Os oes unrhyw ymholiadau gennych am gymhwyso’r Erthyglau enghreifftiol hyn ar gyfer RTM Lloegr, cysylltwch â’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol. Dylech nodi bod rheoliadau gwahanol yn berthnasol i gwmnïau RTM yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n bwriadu cyflwyno ei rheoliadau hithau cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser, os oes unrhyw ymholiadau gennych am fabwysiadu Erthyglau newydd ar gyfer cwmnïau newydd RTM Cymru, dylech gysylltu â: Alyn Williams ebost: alyn.williams@wales.gsi.gov.uk teleffon: 01685 729191 |
||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2010 | |
|
.
|