This snapshot, taken on 17/01/2004, shows web content selected for preservation by The National Archives. External links, forms and search boxes may not work in archived websites.
DTI Home
Department of Trade and Industry
SearchSearchHome
 

Text only


 
 

DEDDFAU NEWYDD AR GYFER RHIENI SY'N GWEITHIO: MONITRO'R EFFAITH

 

Beth yw’r deddfau newydd?

Ar 6 Ebrill 2003 daeth deddfau newydd i rym ar gyfer cyflogaeth.  Diben y deddfau hyn oedd rhoi mwy o ddewis a chymorth i rieni er mwyn iddynt fedru cadw cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u cyfrifoldebau gofalu am blant, a hynny mewn dulliau sydd o fudd i bawb: gweithwyr, eu plant a chyflogwyr.

Mae’r mesurau yn cynnwys

  • gwell tâl ac absenoldeb mamolaeth
  • absenoldeb tadolaeth â thâl
  • tâl ac absenoldeb mabwysiadu
  • deddfau ar gyfer gweithio’n hyblyg

Mae’r deddfau ar gyfer gweithio’n hyblyg yn galluogi rhieni sydd â phlentyn o dan 6 oed neu blentyn anabl o dan 18 oed wneud cais i weithio’n hyblyg.  Maent hefyd yn rhoi dyletswydd ar gyflogwyr i ystyried ceisiadau o’r fath o ddifrif a pheidio â’u gwrthod onid oes rheswm busnes da dros hynny.

Sut beth fydd llwyddiant?

Byddwn yn mesur ein llwyddiant ar sail y prif nodau canlynol:

  • Cynnydd yn yr arferion gweithio’n hyblyg yn y gweithle
  • Cynnydd yn y gweithle yn nifer y rhieni sydd am weithio
  • Cynnydd yn y lefel o fodlonrwydd â’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a dewis personol

Pam strategaeth fonitro?

Gan fod y deddfau gweithio’n hyblyg yn newydd o ran cysyniad a dull o weithredu mae’n hanfodol ein bod yn mesur eu llwyddiant.  Rydym am sicrhau bod y polisi ei hun a’r dull ‘ysgafn’ o weithredu yn addas i gyflogwyr a gweithwyr.

Rydym yn ymrwymedig i ddechrau adolygu’r deddfau yn 2006, ac mae angen i ni hefyd weld pa mor llwyddiannus y buom o ran cwrdd â’n hamcanion cyffredinol ar gyfer y deddfau newydd.

Bydd arnom angen tystiolaeth i sicrhau:

  • ein bod yn darparu canllawiau a chymorth effeithiol yn gyson
  • bod pobl yn gyfarwydd iawn â’r deddfau newydd
  • ein bod yn cael ein rhybuddio mewn da bryd os oes problemau neu ganlyniadau anfwriadol
  • bod gennym sylfaen gadarn ar gyfer yr adolygiad ac i ddatblygu polisïau ar gyfer rhieni sy’n gweithio.

Un o nodau allweddol y strategaeth yw cael y carfanau perthnasol i gymryd rhan yn y broses fonitro, i annog eu cefnogaeth ar gyfer y deddfau gweithio’n hyblyg ac i helpu i sicrhau bod yr arferion gorau yn lledaenu.

Yr hyn a wnawn

Byddwn yn datblygu sylfaen gynhwysfawr o ymchwil trwy gasglu tystiolaeth ansoddol a meintiol.  Byddwn yn defnyddio arolygon ymchwil swyddogol i gael ystadegau a byddwn yn gweithio’n agos gyda’r rhanddeiliaid ar gyfer cael adborth llafar.

Ymhlith rhai o’n gweithgareddau bydd:

  • Cynnal arolygon eang yn 2003 o gydbwysedd bywyd a gwaith cyflogwyr a gweithwyr, a fydd yn sylfaen ar gyfer cymharu ag arolygon eraill yn 2006.
  • Cynnwys cwestiynau am weithio’n hyblyg yn yr arolygon swyddogol a gynhelir dros dair blynedd i gael gwybodaeth gan gyflogwyr a gweithwyr am yr arferion gweithio gwirioneddol ac am agweddau.
  • Gweithio gyda sefydliadau allweddol i gynnal grwpiau ffocws a dosbarthu holiaduron fydd yn targedu grwpiau penodol
  • Dull o gael adborth rheolaidd gan gynrychiolwyr cyflogwyr a gweithwyr ar faterion sy’n amlygu
  • Gweithio gydag adrannau eraill y Llywodraeth i gael gwybodaeth am effaith eu polisïau ar y nifer sy’n manteisio ar y deddfau newydd

Yr hyn allwch chi ei wneud

Nod y deddfau newydd ar weithio’n hyblyg yw helpu pawb.  Bydd yr adolygiad ym mhen tair blynedd yn archwilio’r dystiolaeth i weld a yw wedi cwrdd â’r nod hwn ai peidio.

“Datblygwyd y deddfau newydd ar y cyd â’r undebau llafur, grwpiau teulu a busnesau bach a mawr.  Mae’n hanfodol bod y bartneriaeth hon yn parhau i sicrhau bod y deddfau yn gweithio’n effeithiol. Trwy rannu profiadau gallwn ofalu bod cyflogwyr a rhieni sy’n gweithio yn cael cyfle i dynnu sylw at ddulliau o weithio’n hyblyg sy’n addas i’r naill a’r llall.”

Patricia Hewitt, Ysgrifennydd Gwladol

Rydym eisoes yn casglu gwybodaeth am sut y bydd y deddfau newydd yn gweithio a byddwn yn parhau i wneud hynny.  P’un a ydych yn weithiwr, yn gyflogwr, yn gynrychiolydd undeb neu gynrychiolydd arall, mae arnom angen eich cyfraniad i’n helpu ni wybod pa rannau o’r deddfau a weithiodd yn dda a pha rai na fu mor effeithiol.

Anfonwch eich adborth at workingparents@dti.gsi.gov.uk

Mae help a chyngor ar y deddfau newydd ar gael oddi wrth:  

Llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47

 

Working Parents homepage

Tailored Interactive Guidance on Employment Rights (TIGER)

 

 

Employment Relations home page  |  Search  |  Crown Copyright  |  Disclaimer
Top of page

 

Last updated 8 September 2003