This snapshot, taken on 21/12/2003, shows web content selected for preservation by The National Archives. External links, forms and search boxes may not work in archived websites.
DTI Home
Department of Trade and Industry
SearchSearchHome
 

Text only


 
 

Crynodeb gweithredol

 

Mae newidiadau’n cael eu gwneud i drefn y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth er mwyn gwella’r gwasanaeth a roir. Mae’r newidiadau’n deillio o ddarpariaethau Deddf Cyflogaeth 2002, argymhellion Tasglu’r System Tribiwnlysoedd Cyflogaeth, ac o awgrymiadau’r Llywyddion Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (ar gyfer Cymru a Lloegr, a’r Alban) i helpu i wneud i’r drefn redeg yn fwy esmwyth.

Y diwygiadau allweddol sy’n cael eu cynnig yw’r canlynol:

  • Bwriedir ailwampio’r Rheolau Gweithredu er mwyn iddynt ddilyn patrwm mwy rhesymegol a chael eu mynegi mewn iaith syml i wneud y system yn haws ei defnyddio. Caiff y newid hwn ei ategu drwy gyflwyno ffurflenni hawlio ac ymateb safonol y bydd eu defnyddio’n orfodol o Ebrill 2005 ymlaen. Bydd y ffurflenni hyn – y cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar wahân yn eu cyswllt – yn gofyn am wybodaeth fanylach ymlaen llaw i helpu’r partďon, a’r tribiwnlys, i ddeall achosion.

  • Bwriedir pennu’n fwy caeth yr amgylchiadau lle gall atebydd gael estyniad amser i gyflwyno ffurflen ymateb (y term symlach newydd am yr hyn a elwir ar hyn o bryd yn hysbysiad ymddangos).

  • Bydd trefniadau rhag-dderbyn newydd i “nithio” honiadau ac ymatebion (am un neu ragor o nifer o resymau penodol) na ddylent gael bwrw ymlaen.

  • Bwriedir i ddyletswydd ACAS i gymodi gael ei chyfyngu i gyfnod penodedig yn y mwyafrif o achosion, er mwyn annog y partďon i ddod i gytundeb mewn da bryd yn hytrach nag ychydig cyn gwrandawiad y Tribiwnlys. Y cyfnod penodedig hwn fydd naill ai ysbaid fer o 7 wythnos neu gyfnod safonol o 13 wythnos, gan ddibynnu ar bwnc yr achos. Ond mewn achosion gwahaniaethu annheg, sy’n tueddu i fod yn arbennig o gymhleth, bydd dyletswydd ACAS i gymodi yn aros heb gyfyngiad amser.

  • Lle nad oes dadlau ynghylch yr achos, bydd y Tribiwnlys yn y dyfodol fel arfer yn rhoi dyfarniad diofyn yn erbyn yr atebydd heb gynnal gwrandawiad.

  • Darperir pwerau i Lywyddion Tribiwnlysoedd Cyflogaeth roi cyfarwyddyd ymarfer i sicrhau ymagwedd gyson at faterion trefniadol.

  • Gwneir darpariaeth echblyg i achosion gael eu bwrw o’r neilltu o dan arolwg cyn y gwrandawiad, ond dim ond am y rhesymau y caiff Tribiwnlysoedd ar hyn o bryd ddileu honiadau neu ymatebion o danynt y tu allan i arolwg o’r fath.  (Mae rhesymau felly yn cynnwys methiant i gydymffurfio â gorchymyn neu gyfarwyddyd, neu ymgorffori yn y ffurflen hawlio neu’r ffurflen ymateb unrhyw beth athrodus, afresymol neu flinderus, neu gynnal y gweithrediadau mewn dull o’r fath.)

  • Bwriedir gwneud dau newid sylweddol i’r rheolau presennol ynglyn â chostau:  (i) bydd darpariaeth newydd o ran dyfarndaliadau ar gyfer amser paratoi o dan rai amgylchiadau; a (ii) bydd modd i gynrychiolwyr (ac eithrio cynrychiolwyr dielw) ennill dyfarndal costau ar sail eu triniaeth eu hun o’r achos.

  • Bydd y Rheolau’n gymwys i Brydain Fawr yn ei chrynswth, gan ddisodli’r Rheolau presennol sydd ar wahân ond yn eu hanfod yn gyfatebol ar gyfer Cymru a Lloegr, a’r Alban.

Wrth baratoi’r Rheoliadau drafft diwygiedig, bu’r DTI yn cydweithio’n agos â’r Llywyddion barnwrol, Gwasanaeth y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth ac ACAS.  Mae cynrychiolwyr busnesau a’r undebau llafur hwythau wedi cymryd rhan yn yr ymgynghori rhagarweiniol. 

Yn sgil yr ymgynghori cyhoeddus hwn, bwriedir gosod y Rheoliadau diwygiedig gerbron y Senedd yng ngwanwyn 2004 ac iddynt ddod i rym ar 1 Hydref 2004 .   

Mae’r darpariaethau drafft yn rhoi ystyriaeth ac yn ymblethu i’r rheoliadau newydd ar gyfer datrys anghydfod sy’n cael eu cyflwyno gan y Llywodraeth i annog dod i gytundeb yn y gweithle cyn mynd gerbron Tribiwnlys.  Bu’r rheoliadau hyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol rhwng Gorffennaf a Hydref 2003.  Mae’r ddogfen ymgynghori honno i’w gweld yn: www.dti.gov.uk/er/individual/dis_res_consdoc.htm.  

Mae’r Rheoliadau drafft yn cynnwys darpariaeth i gyflwyno cyfnod penodedig ar gyfer gweithgarwch cymodi ACAS mewn achosion gerbron Tribiwnlysoedd Cyflogaeth.  Mae’r Rheoliadau’n gosod amodau ar gyfer y cymodi yn ystod y cyfnod penodedig, gan ei gadael hi i ACAS benderfynu o dan ba amgylchiadau y gallai’r cymodi ddigwydd ar ôl diwedd y cyfnod penodedig.  Mae ACAS wedi cyhoeddi dogfen ymgynghori gyfatebol yn egluro eu polisi arfaethedig ar gymodi y tu allan i’r cyfnod penodedig ac yn gwahodd sylwadau.  Mae’r ddogfen ar gael ar wefan ACAS www.acas.org.uk.  

Mae’r Llywodraeth hefyd yn bwriadu symleiddio’r rheolau gweithredu cymhleth ar gyfer achosion Tribiwnlys sy’n ymwneud â gwaith o werth cyfartal.  Byddant yn ymgynghori ynghylch rheolau newydd i ddisodli’r rhai sydd wedi eu nodi yn Atodlen 3 o Reoliadau Tribiwnlysoedd Cyflogaeth 2001.  Y bwriad yw trefnu i’r rheolau hyn ddod i rym yr un pryd â’r Rheoliadau Tribiwnlysoedd Cyflogaeth newydd a’r prif Reolau Gweithredu sydd wedi eu nodi yn Atodlen 1 (sef pwnc y drefn ymgynghori bresennol).  Gellir cael manylion pellach gan yr Uned Merched a Chydraddoldeb: www.womenandequalityunit.gov.uk.

 

 

Employment Relations home page  |  Search  |  Crown Copyright  |  Disclaimer
Top of page

 

Last updated 9 December 2003