DEDDFAU NEWYDD AR GYFER RHIENI SY'N GWEITHIO:
MONITRO'R EFFAITH
Beth yw’r deddfau newydd?
Ar
6 Ebrill 2003 daeth deddfau newydd i rym ar gyfer cyflogaeth.
Diben y deddfau hyn oedd rhoi mwy o ddewis a chymorth i rieni er mwyn
iddynt fedru cadw cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u cyfrifoldebau gofalu am blant,
a hynny mewn dulliau sydd o fudd i bawb: gweithwyr, eu plant a chyflogwyr.
Mae’r
mesurau yn cynnwys
- gwell
tâl ac absenoldeb mamolaeth
- absenoldeb
tadolaeth â thâl
- tâl
ac absenoldeb mabwysiadu
- deddfau
ar gyfer gweithio’n hyblyg
Mae’r
deddfau ar gyfer gweithio’n hyblyg yn galluogi rhieni sydd â phlentyn o dan 6
oed neu blentyn anabl o dan 18 oed wneud cais i weithio’n hyblyg.
Maent hefyd yn rhoi dyletswydd ar gyflogwyr i ystyried ceisiadau o’r
fath o ddifrif a pheidio â’u gwrthod onid oes rheswm busnes da dros hynny.
Sut beth fydd llwyddiant?
Byddwn
yn mesur ein llwyddiant ar sail y prif nodau canlynol:
- Cynnydd
yn yr arferion gweithio’n hyblyg yn y gweithle
- Cynnydd
yn y gweithle yn nifer y rhieni sydd am weithio
- Cynnydd
yn y lefel o fodlonrwydd â’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a dewis
personol
Pam strategaeth fonitro?
Gan
fod y deddfau gweithio’n hyblyg yn newydd o ran cysyniad a dull o weithredu
mae’n hanfodol ein bod yn mesur eu llwyddiant.
Rydym am sicrhau bod y polisi ei hun a’r dull ‘ysgafn’ o weithredu
yn addas i gyflogwyr a gweithwyr.
Rydym
yn ymrwymedig i ddechrau adolygu’r deddfau yn 2006, ac mae angen i ni hefyd
weld pa mor llwyddiannus y buom o ran cwrdd â’n hamcanion cyffredinol ar
gyfer y deddfau newydd.
Bydd
arnom angen tystiolaeth i sicrhau:
- ein
bod yn darparu canllawiau a chymorth effeithiol yn gyson
- bod
pobl yn gyfarwydd iawn â’r deddfau newydd
- ein
bod yn cael ein rhybuddio mewn da bryd os oes problemau neu ganlyniadau
anfwriadol
- bod
gennym sylfaen gadarn ar gyfer yr adolygiad ac i ddatblygu polisïau ar
gyfer rhieni sy’n gweithio.
Un
o nodau allweddol y strategaeth yw cael y carfanau perthnasol i gymryd rhan yn y
broses fonitro, i annog eu cefnogaeth ar gyfer y deddfau gweithio’n hyblyg ac
i helpu i sicrhau bod yr arferion gorau yn lledaenu.
Yr
hyn a wnawn
Byddwn
yn datblygu sylfaen gynhwysfawr o ymchwil trwy gasglu tystiolaeth ansoddol a
meintiol. Byddwn yn defnyddio
arolygon ymchwil swyddogol i gael ystadegau a byddwn yn gweithio’n agos
gyda’r rhanddeiliaid ar gyfer cael adborth llafar.
Ymhlith
rhai o’n gweithgareddau bydd:
- Cynnal
arolygon eang yn 2003 o gydbwysedd bywyd a gwaith cyflogwyr a gweithwyr, a
fydd yn sylfaen ar gyfer cymharu ag arolygon eraill yn 2006.
- Cynnwys
cwestiynau am weithio’n hyblyg yn yr arolygon swyddogol a gynhelir dros
dair blynedd i gael gwybodaeth gan gyflogwyr a gweithwyr am yr arferion
gweithio gwirioneddol ac am agweddau.
- Gweithio
gyda sefydliadau allweddol i gynnal grwpiau ffocws a dosbarthu holiaduron
fydd yn targedu grwpiau penodol
- Dull
o gael adborth rheolaidd gan gynrychiolwyr cyflogwyr a gweithwyr ar faterion
sy’n amlygu
- Gweithio
gydag adrannau eraill y Llywodraeth i gael gwybodaeth am effaith eu polisïau
ar y nifer sy’n manteisio ar y deddfau newydd
Yr
hyn allwch chi ei wneud
Nod
y deddfau newydd ar weithio’n hyblyg yw helpu pawb.
Bydd yr adolygiad ym mhen tair blynedd yn archwilio’r dystiolaeth i
weld a yw wedi cwrdd â’r nod hwn ai peidio.
“Datblygwyd
y deddfau newydd ar y cyd â’r undebau llafur, grwpiau teulu a busnesau bach a
mawr.
Mae’n hanfodol bod y bartneriaeth hon yn parhau i sicrhau bod y deddfau
yn gweithio’n effeithiol. Trwy rannu profiadau gallwn ofalu bod cyflogwyr a
rhieni sy’n gweithio yn cael cyfle i dynnu sylw at ddulliau o weithio’n
hyblyg sy’n addas i’r naill a’r llall.”
Patricia
Hewitt, Ysgrifennydd Gwladol
Rydym
eisoes yn casglu gwybodaeth am sut y bydd y deddfau newydd yn gweithio a byddwn
yn parhau i wneud hynny. P’un a
ydych yn weithiwr, yn gyflogwr, yn gynrychiolydd undeb neu gynrychiolydd arall,
mae arnom angen eich cyfraniad i’n helpu ni wybod pa rannau o’r deddfau a
weithiodd yn dda a pha rai na fu mor effeithiol.
Anfonwch
eich adborth at
workingparents@dti.gsi.gov.uk
Mae
help a chyngor ar y deddfau newydd ar gael oddi wrth:
Llinell
gymorth Acas ar 08457 47 47 47
Working
Parents
homepage
Tailored
Interactive Guidance on Employment Rights (TIGER)
|