Gall rhai problemau meddygol godi yn ystod beichiogrwydd sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth. Fodd bynnag, nid yw o reidrwydd yn golygu na fyddwch yn gallu cael beichiogrwydd hwylus a llwyddiannus yn y dyfodol.
Pan fydd eich corff yn terfynu'r beichiogrwydd ar ei ben ei hun, cyn i 24 wythnos fynd heibio, gelwir hyn yn gamesgoriad. Maent yn eithaf cyffredin yn y tri mis cyntaf ac mae'n debyg fod un ym mhob chwe beichiogrwydd yn dod i ben fel hyn. Gall camesgoriad buan fod yn debyg i fislif - mae'n bosib y ceir gwayw yn y stumog ac y bydd gwaedu hefyd. Gyda chamesgor sy'n digwydd yn ddiweddarach, mae'n debyg y bydd gwaedu ynghyd â phoenau sy'n teimlo'n debycach i boenau esgor.
Os byddwch yn sylweddoli eich bod yn gwaedu neu'n dechrau cael poenau, cysylltwch â'r person sy'n rhoi gofal cyn geni i chi - eich bydwraig, eich meddyg neu'ch ysbyty fel arfer. Weithiau bydd y gwaedu'n stopio ar ei ben ei hun ac fe fyddwch chi a'ch babi yn iawn.
Weithiau bydd camesgor yn digwydd ac ni fydd neb yn gallu gwneud dim i'w atal. Os byddwch yn camesgor bydd yn rhaid i chi fynd i'r ysbyty i gael 'D & C' (ymlediad a chiwretiad) er mwyn cael y babi o'r corff drwy geg y groth.
Cofiwch nad oes neb ar fai pan fydd camesgoriad yn digwydd a hyd yn oed os cewch sawl camesgoriad gallwch fynd yn eich blaen i gael plant iach. Siaradwch â'ch bydwraig neu'ch meddyg os oes gennych bryderon.
Ffoniwch 01924 200 799 i siarad â rhywun ar Linell Gymorth y Gymdeithas Camesgor. Maent ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 4.00 pm.
Pan fydd y babi'n marw cyn ei eni ar ôl i'r fenyw fod yn feichiog am 24 wythnos, gelwir hyn yn farw-enedigaeth. Mae'r rhesymau dros farw-enedigaeth yn gymhleth ac ni ellir eu deall bob amser.
Efallai y bydd yr oriau a'r dyddiau ar ôl marwolaeth babi yn eich gadael yn syfrdan ac wedi'ch llorio. Bydd gennych nifer o ddewisiadau a phenderfyniadau i'w gwneud ar ôl yr enedigaeth, a bydd angen cofrestru eich babi. Bydd cwnselwyr profedigaeth yn yr ysbyty yn gallu rhoi arweiniad i chi ynglŷn â beth i'w wneud nesaf.
Mae gan SANDS linell gymorth: 020 7436 5881 rhwng 10.00 am a 5.00 pm, sy'n cynnig gwybodaeth a chyngor i rieni sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.