Mynd i'r prif gynnwys
Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os na allwch chi weithio oherwydd salwch neu anabledd efallai y gallwch chi gael Budd-dal Analluogrwydd, sef taliad wythnosol ar gyfer pobl nad ydynt wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth eto - sef 60 i fenywod a 65 i ddynion ar hyn o bryd.
Cafodd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ei gyflwyno ar 27 Hydref 2008.
Bydd yn disodli Budd-dal Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm, a delir oherwydd salwch neu anabledd, i hawlwyr newydd yn unig. Os ydych chi eisoes yn cael Budd-dal Analluogrwydd, byddwch yn parhau i'w gael. Y bwriad yw y bydd y derbynyddion yn symud i'r budd-dal newydd rhwng 2010 a 2013.
Bydd mwy o wybodaeth am y newidiadau hyn ar gael yn 2010.
Mae'n bosib y gallwch hawlio Budd-dal Analluogrwydd os roeddech o dan oed Pensiwn y Wladwriaeth pan aethoch chi'n sâl a bod un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
Rhaid eich bod hefyd:
neu mae'n rhaid eich bod:
Os ydych wedi bod yn byw neu'n gweithio dramor
Gall byw neu weithio dramor effeithio ar eich hawliad am Fudd-dal Analluogrwydd. Ond efallai y gallwch ei hawlio os ydych naill ai:
Os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol
Efallai y gallwch hawlio Budd-dal Analluogrwydd er nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol:
Os ydych yn y Lluoedd Arfog neu os ydych yn byw ac yn gweithio yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE), mae'n bosibl y cewch eich trin fel petaech chi'n dal i breswylio yn y DU.
Mae'r Budd-dal Analluogrwydd yn cael ei dalu yn ôl tair cyfradd wythnosol:
Y symiau wythnosol ar hyn o bryd
| Cyfradd wythnosol | Swm | Swm os ydych dros oed Pensiwn y Wladwriaeth |
|---|---|---|
| tymor byr (cyfradd is) | £67.75 | £86.20 |
| tymor byr (cyfradd uwch) | £80.15 | £89.80 |
| hirdymor - cyfradd sylfaenol | £89.80 | Nid ydych yn gymwys i gael Budd-dal Analluogrwydd sylfaenol hirdymor |
Efallai y gallwch gael budd-dal 'ychwanegiad oedran' gyda'r Budd-dal Analluogrwydd hirdymor os oeddech o dan 45 pan aethoch yn rhy sâl neu'n rhy anabl i weithio.
Efallai y gallwch gael budd-dal ychwanegol ar gyfer eich cymar neu'ch partner sifil neu'r person sy'n gofalu am eich plant.
Os byddwch yn gwneud hawliad newydd am Fudd-dal Analluogrwydd nad yw'n gysylltiedig â hawliad blaenorol, a bod eich incwm pensiwn gros yn fwy na £85 yr wythnos, bydd y swm ychwanegol, sef y gwahaniaeth rhwng £85 a'ch incwm pensiwn gwirioneddol, yn cael ei haneru a'i dynnu o'r budd-dal.
Y swm ychwanegol yw'r gwahaniaeth rhwng £85 a'r incwm pensiwn gwirioneddol. Er enghraifft, ar gyfer incwm pensiwn o £100, mae'r swm ychwanegol yn £15. Hanerir hynny er mwyn canfod faint o Fudd-dal Analluogrwydd sy'n daladwy - £7.50 yn yr achos hwn.
Eithriadau
Nid yw'r rheol hon yn berthnasol:
Telir y Budd-dal Analluogrwydd i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post neu Gynilion Cenedlaethol.
Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'ch arian, gellir anfon eich taliad gyda siec y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.
Pan fyddwch yn gwneud hawliad am Fudd-dal Analluogrwydd byddwch fel arfer yn cael Asesiad Galluogrwydd Personol. Fel rhan o'r asesiad hwn, efallai y bydd meddyg yn argymell i chi fynd i gael archwiliad meddygol.
Os ydych yn cael Budd-dal Analluogrwydd, efallai y byddwch yn gallu gwneud rhai mathau o waith. Gelwir hyn yn Waith a Ganiateir. Os byddwch yn ennill arian a chithau'n cael Budd-dal Analluogrwydd, gallai hyn effeithio ar y budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm yr ydych yn eu cael.
Gallwch hawlio Budd-dal Analluogrwydd dros y ffôn neu'r ffon testun. Bydd cynghorydd yn y ganolfan gyswllt yn mynd trwy'r cais gyda chi ac yn llenwi'r ffurflen. Nid fydd yn rhaid i chi lenwi unrhyw ffurflenni eich hun.
Mae'r ganolfan gyswllt ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ffôn: 0800 055 6688
Ffôn testun: 0800 023 4888
Gallwch hefyd hawlio ar-lein trwy wasanaeth ar-lein yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Os carech chi lenwi ffurflen eich hun, gallwch lwytho'r ffurflen i lawr. Bydd angen i chi argraffu'r ffurflen hon a'i phostio at y Ganolfan Byd Gwaith.
Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch Canolfan Waith os bydd eich amgylchiadau'n newid. Er enghraifft:
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
Os gwrthodir Budd-dal Analluogrwydd i chi neu os oes gennych gwestiynau am eich taliad, gallwch ofyn i'r swyddfa a fu'n delio gyda'ch hawliad edrych eto ar eu penderfyniad. Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus am y canlyniad, gallwch apelio.