Mynd i'r prif gynnwys
Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Budd-dal di-dreth yw'r Lwfans Byw i'r Anabl - a elwir weithiau yn DLA - i blant ac oedolion ag angen help gyda gofal personol neu ag anawsterau cerdded oherwydd eu bod yn gorfforol neu'n feddyliol anabl.
Gallwch gael Lwfans Byw i'r Anabl:
Os ydych chi'n 65 oed neu'n hŷn, efallai y gallwch gael Lwfans Gweini.
Does dim rhaid i chi fod yn gweithio i gael Lwfans Byw i'r Anabl.
Ni fydd unrhyw gynilion neu incwm sydd gennych yn effeithio arno fel arfer.
Os oes gennych salwch cynyddol ac nad oes disgwyl i chi fyw am fwy na chwe mis arall, mae yna reolau arbennig ar gyfer hawlio i sicrhau eich bod yn cael eich budd-dal yn gyflymach ac yn rhwyddach.
Fel arfer, ni fydd angen archwiliad meddygol arnoch wrth hawlio Lwfans Byw i'r Anabl. Os gofynnir i chi gael archwiliad, gallwch gael mwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen isod.
Mae dwy ran i'r Lwfans Byw i'r Anabl, a elwir yn 'elfennau':
Dim ond un elfen y bydd gan rai pobl yr hawl iddi tra bydd gan bobl eraill yr hawl i'r ddwy elfen.
Telir yr elfen ofal a'r elfen symudedd ar wahanol gyfraddau yn dibynnu ar sut y mae'r anabledd yn effeithio arnoch.
Fel arfer, caiff y Lwfans Byw i'r Anabl ei dalu'n uniongyrchol i unrhyw gyfrif o'ch dewis chi sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol ar gyfer budd-daliadau. Gallai hwn fod yn gyfrif banc, cymdeithas adeiladau neu ddarparwr cyfrif arall.
Efallai y gallech gael rhywun arall i gasglu eich Lwfans Byw i'r Anabl os dymunwch. I gael cymorth gyda hyn, cysylltwch â'ch banc, eich cymdeithas adeiladu neu eich darparwr cyfrif arall.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am sut y gellir eich talu mewn ffyrdd eraill, cysylltwch â'r swyddfa sy'n delio â'ch hawliad - mae'r manylion yn yr adran 'Cyfraddau a sut i hawlio'.
Os byddwch chi'n dechrau cael Lwfans Byw i'r Anabl, efallai y bydd yn cynyddu'r budd-daliadau neu gredydau eraill y mae gennych chi'r hawl i'w cael, megis Cymhorthdal Incwm, Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Gyngor, Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant.
Fel arfer, caiff Lwfans Byw i'r Anabl ei anwybyddu fel incwm wrth gyfrifo'r budd-daliadau a chredydau hyn sy'n gysylltiedig ag incwm.
Hawliwch yr arian ar unwaith - wrth oedi, fe allech chi golli'r budd-dal.
Gallwch hawlio ar-lein, neu gallwch gael pecyn hawlio drwy:
Gall newidiadau i'ch amgylchiadau effeithio ar faint o Lwfans Byw i'r Anabl a gewch, neu a fyddwch yn ei gael. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys aros mewn ysbyty am gyfnod neu os bydd eich anabledd yn gwella neu'n gwaethygu.
I gael Lwfans Byw i'r Anabl rhaid i chi hefyd fodloni rhai amodau eraill am eich preswyliaeth a'ch presenoldeb.
Gallwch lwytho ffilm fer – a gyflwynir yn Iaith Arwyddion Prydain, gydag isdeitlau a llefaru – oddi ar wefan Directgov. Mae'r wybodaeth hefyd ar gael ar DVD, a gallwch wneud cais am iddo gael ei anfon atoch.