Main Menu
- Other links
- Sections
- About
PelamisPrototeip o ddyfais arnofio yw'r Pelamis ar hyn o bryd. Mae'n gyfres o silindrau sydd wedi'u cyplysu â'i gilydd â cholfachau hyblyg. Mae'n 120 metr o hyd, 3.5 metr o led ac yn pwyso 700 tunnell. Ar y môr, mae adrannau'r Pelamis yn symud gyda'r tonnau, gan yrru moduron hydrolig sy'n cynhyrchu trydan. Gall un Pelamis gynhyrchu 750kW o bwer trydan a gallai fferm o ddyfeisiau tebyg i'r Pelamis dros un filltir sgwâr o'r cefnfor gynhyrchu digon o drydan i 20,000 o gartrefi.
Neidr Fôr Pelamis yn ymyl Ynysoedd Erch, yr Alban: Ffoto drwy garedigrwydd Ocean Power Delivery.
LIMPET
Islay
Fel y mae pethau yn 2004, LIMPET (Land Installed Marine Powered Energy Transformer) yw'r unig broject pwer tonnau sydd ar waith yn llawn yn y Deyrnas Unedig ac sy'n cyflenwi trydan i'r Grid Cenedlaethol. Mae'r LIMPET yn ddyfais artraeth osod 500kW ac iddi golofn o ddwr sy'n osgiladu (OWC). Mae wedi'i gosod ar ynys Islay yn yr Alban a chafodd ei chwblhau ym mis Medi 2000. I osod y LIMPET, bu'n rhaid agor pant ar y traeth a chodi siambr o goncrit wedi'i atgyfnerthu i ddal y tonnau wrth iddyn nhw ddod i mewn. Wedyn mae aer sydd wedi'i ddal yn y siambr yn cael ei wthio drwy ddau dyrbin Wells, ill dau wedi'u cysylltu â generadur 250kW.
Canolfan Ynni Morol Ewrop
Ynysodd Erch
Yn 2004, agorodd canolfan sy'n caniatáu i'r diwydiant brofi generaduron ynni tonnau posibl yn Ynysoedd Erch. Mae ymhlith y cyntaf o'i math yn y byd.
Bydd y ganolfan brofi'n golygu bod Ynysoedd Erch mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd mawr sydd ar gael yn y sector yma, sy'n tyfu'n gyflym.
Fe allai'r diwydiant ynni morol roi llawer o swyddi yn yr Alban. Mewn mannau anghysbell fel yr Uwchdiroedd y bydd y mwyafrif.
Pwer y tonnau fydd yn cael ei brofi gan y Ganolfan i ddechrau, ond os caiff caniatâd cynllunio ei roi ac os bydd y partneriaid yn cymeradwyo'r cynllun busnes, caiff y Ganolfan ei hestyn i gynnwys cyfleusterau i brofi ynni'r llanw.