Mae elusennau'n cael eu rhedeg gan 'ymddiriedolwyr' - y bobl sy'n ffurfio corff llywodraethu neu 'fwrdd' elusen. Gallant gael eu galw'n ymddiriedolwyr, yn gyfarwyddwyr, yn aelodau bwrdd, yn llywodraethwyr neu'n aelodau pwyllgor, ond dyma'r bobl sydd â'r prif gyfrifoldeb dros lywio busnes yr elusen. Mae'r rhan fwyaf o'r ymddiriedolwyr yn wirfoddolwyr, ac nid ydynt yn derbyn unrhyw dâl (heblaw treuliau parod).
Bydd rhaid i chi recriwtio ymddiriedolwyr ar gyfer eich elusen cyn gwneud cais i gofrestru gyda ni. Os bydd eich elusen yn gweithio gyda naill ai plant neu oedolion agored i niwed, bydd rhaid i chi gadarnhau bod gwiriadau CRB priodol wedi cael eu cynnal pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru.
Gwiriadau CRB yw'r ffordd orau ar hyn o bryd i ymddiriedolwyr wirio a yw cyd-ymddiriedolwr wedi'i anghymhwyso rhag gweithio gyda buddiolwyr agored i niwed. Am y rheswm hwn mae polisi'r Comisiwn fel a ganlyn:
- rhaid i ymddiriedolwr gael datgeliad CRB os oes gofyniad cyfreithiol i wneud hynny; a
- rhaid i ymddiriedolwr gael datgeliad CRB os oes hawl gyfreithiol i wneud hynny.
Bydd rhaid i chi roi enwau llawn, cyfeiriadau a dyddiadau geni eich holl ymddiriedolwyr pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru, ond ni fydd y data hwn ar gael i'r cyhoedd ei weld. Dim ond eich manylion cyswllt dynodedig gaiff eu dangos ar y Gofrestr Elusennau.
Cronfeydd cysylltiedig