10 Rhagfyr 2010
Y cynghorion gorau i osgoi sgamiau dros y Nadolig
Y Nadolig yw'r adeg draddodiadol ar gyfer rhoi, ac mae angen cymorth y cyhoedd mwy nag erioed o'r blaen ar yr elusennau hynny sydd wrthi'n brysur yn codi arian at achosion da.
Mae'r mwyafrif helaeth o gasgliadau elusennol yn ddilys, a hefyd y casglwyr sy'n casglu gyda chytundeb yr elusen dan sylw. Er hynny, mae'n anochel bod rhai pobl yn ceisio manteisio ar haelioni'r cyhoedd.
Fel rhan o ymgyrch genedlaethol, mae'r Comisiwn Elusennau, sef rheoleiddiwr annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr, yn rhoi cyngor i roddwyr hael y Nadolig hwn i'w helpu i sicrhau bod eu harian neu eu nwyddau yn cael eu rhoi i elusennau dilys yn unig, drwy wneud rhai gwiriadau syml a defnyddio'r wybodaeth y mae'r Comisiwn Elusennau yn ei rhoi ar ei wefan.
Dywedodd Harry Iles, Pennaeth Swyddfa Cymru y Comisiwn Elusennau:
"Mae'r rhan fwyaf o gasglwyr elusennol y Nadolig hwn yn ddilys, ac mae angen eich arian chi ar yr elusennau hyn mwy nag erioed o'r blaen. Ond gall rhai pobl fanteisio ar ysbryd yr ŵyl er eu mwyn eu hunain. Mae gofyn cwestiynau syml, gwirio ffeithiau syml, chwilio am rif elusen gofrestredig neu edrych ar wefan y Comisiwn Elusennau i weld a yw'n elusen ddilys yn gallu gwneud byd o wahaniaeth. Dylech ochel rhag sgamiau ar-lein hefyd a gwefannau ffug, a pheidiwch â chlicio ar ddolenni mewn negeseuon e-bost os ydych yn pryderu. Rydym yn awyddus i sicrhau bod pob ceiniog rydych yn ei roi yn mynd i elusennau dilys."
Dyma 10 cyngor gorau y Comisiwn Elusennau ar gyfer Nadolig heb sgamiau elusennol:
- Os ydych yn ansicr o gwbl ynghylch casglwr elusen, bag casglu neu ddeunyddiau codi arian, gwiriwch enw a rhif cofrestru’r elusen. Fe welwch y rhain ar wefan y Comisiwn Elusennau yn www.comisiwnelusennau.gov.uk
- Gwnewch yn siŵr bod casglwr yn gwisgo bathodyn adnabod priodol.
- Gwnewch yn siŵr bod sêl y tun casglu heb ei difrodi.
- Gofynnwch i'r casglwr am ragor o wybodaeth - dylai elusen ddilys fod yn hapus i ateb cwestiynau.
- Gwnewch yn siŵr bod awdurdod gan gasglwr i gasglu. Fel arfer bydd angen hawlen neu drwydded er mwyn codi arian mewn lle cyhoeddus. Rhaid cael caniatâd y perchennog neu'r rheolwr i gasglu mewn lleoedd preifat fel gorsafoedd trên ac archfarchnadoedd. Mae angen trwydded neu esemptiad i gasglu mewn tafarndai.
- Os ydych yn cael bagiau casglu neu ddeunyddiau codi arian gan sefydliadau anelusennol sy'n honni eu bod yn elusennol, a/neu'n defnyddio elusen gofrestredig ffug, dylech gysylltu â'r heddlu, eich swyddfa safonau masnach leol a'ch cyngor lleol.
- Os hoffech roi ar-lein i elusen arbennig, ewch i wefan yr elusen - gwnewch yn siŵr bod y cyfeiriad gwe cywir gennych.
- Byddwch yn ofalus iawn wrth ymateb i negeseuon e-bost neu glicio ar ddolenni a gwnewch yn siŵr eu bod yn ddilys. Os oes unrhyw bryderon gennych am unrhyw gais am roddion sydd yn ymddangos fel petai'n gais gan elusen, peidiwch ag oedi cysylltu â'r elusen honno yn uniongyrchol.
- Os ydych yn poeni eich bod wedi cael eich targedu gan sgam codi arian, dylech gysylltu â'r heddlu. Rhowch wybod i'r Comisiwn Elusennau hefyd drwy ei wefan.
- Os ydych yn ansicr, anfonwch eich rhodd yn uniongyrchol i'r elusen.
Diwedd.
Sut i gael manylion a chysylltiadau ar gyfer elusennau yn eich ardal leol:
Ewch i www.comisiwnelusennau.gov.uk. Os ydych yn gwybod enw neu rif yr elusen arbennig rydych yn chwilio amdani, teipiwch hwn yn y blwch.
Os ydych am gael hyd i restr o elusennau lleol;
- cliciwch ar 'Chwilio'r Gofrestr Elusennau'
- Dewiswch 'chwiliad uwch' ar y chwith ar y sgrin
- Dewiswch y wlad rydych yn chwilio ynddi (h.y. Cymru neu Loegr), a dewiswch 'ardaloedd penodol' i ddewis pa sir rydych am chwilio ynddi a gwasgwch 'chwilio'
Gall y chwiliad roi uchafswm o 500 o ganlyniadau ar y tro, felly efallai y bydd rhaid i chi gyfyngu eich chwiliad ar gyfer mathau/meintiau penodol o elusennau.
I gael gwybodaeth bellach am y stori hon, cysylltwch â swyddfa'r wasg.
PR 80/10
Nodiadau i Olygwyr
- Y Comisiwn Elusennau yw rheoleiddiwr annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr. Gweler www.comisiwnelusennau.gov.uk i gael gwybodaeth bellach neu ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0845 300 0218.
- Ein cenhadaeth yw: sicrhau bod elusennau'n cydymffurfio â'r gyfraith, gwella atebolrwydd elusennau, hyrwyddo effeithiolrwydd ac effaith elusennau a hybu diddordeb cyhoeddus mewn elusennau.
- Mae 98% o'r cyhoedd yn teimlo bod rôl y Comisiwn Elusennau yn bwysig. (Ymchwil Ipsos MORI, Mai 2008).
- Mae gwefan y Comisiwn Elusennau yn cael dros 4 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn yn www.comisiwnelusennau.gov.uk
Brig y dudalen