21 Rhagfyr 2011
Mae'r Comisiwn Elusennau, rheoleiddiwr annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr, wedi darparu diweddariad ar ei ganllawiau ar fudd cyhoeddus i ymddiriedolwyr elusen.
Yn ôl gorchymyn yr Uwch Dribiwnlys, mae'r Comisiwn wedi dileu'r agweddau hynny o'i ganllawiau budd cyhoeddus y mae angen eu hailysgrifennu er mwyn sicrhau bod y canllawiau'n cyfateb â phenderfyniad yr Uwch Dribiwnlys.
Mae'r rhan fwyaf o ganllawiau budd cyhoeddus y Comisiwn yn parhau'n ddilys ac nid yw'r rhan fwyaf o elusennau wedi'u heffeithio'n uniongyrchol gan yr adrannau a ddilëwyd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i bob ymddiriedolwr ystyried canllawiau'r1 Comisiwn ac felly mae'n rhaid iddynt fod yn ymwybodol o'r newidiadau hyn.
Y rhannu o'r canllawiau sydd wedi'u heffeithio yw:
a. Y cyfan o ganllaw'r Comisiwn Budd Cyhoeddus a Chodi Ffioedd.
b. Ar dudalen 19 o ganllaw'r Comisiwn Hyrwyddo Addysg er Budd Cyhoeddus, y croesgyfeiriad at Fudd Cyhoeddus a Chodi Ffioedd.
c. Adrannau Dd10 ac Dd11 o ganllaw'r Comisiwn Elusennau a Budd Cyhoeddus.
ch. Yn adran F4 o Elusennau a Budd Cyhoeddus, pwynt bwled 8 a 9.
d. Yn adrannau C3 ac Dd1 o Elusennau a Budd Cyhoeddus, yr ail bwynt bwled yn egwyddor 2 (b) (gan gynnwys y cyfeiriad at adran Dd10), a'r cyfeiriad at adran Dd11 yn egwyddor 2(c).
dd. Yn adran Dd3 ar dudalen 19 o Elusennau a Budd Cyhoeddus y cyfeiriad at adran Dd10 a phwynt bwled pedwar yn yr ail flwch.
Mae'r holl ganllawiau i'w gweld ar wefan y Comisiwn Elusennau ac mae unrhyw adrannau a ddilëwyd wedi'u nodi'n glir. Nid yw'r canllawiau a ddilëwyd yn ffurfio rhan mwyach o ganllawiau statudol y Comisiwn ar fudd cyhoeddus y mae'n rhaid i elusennau eu hystyried wrth ymgymryd ag unrhyw bwerau neu ddyletswyddau y mae'r canllawiau'n berthnasol iddynt.
Mae'r Comisiwn eisoes wedi cadarnhau y byddai'n adolygu ei ganllawiau budd cyhoeddus, yn gyffredinol ac yn dilyn canlyniad yr achos, ac mae wedi sefydlu gweithgor i wneud hyn. Bwriadwn gynhyrchu canllawiau drafft erbyn diwedd Mawrth 2012 a byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus am dri mis cyn cyhoeddi'r canllawiau yn haf 2012.
Yn y cyfamser, gall yr ymddiriedolwyr edrych ar y cyngor dros dro ar ffurf Cwestiwn ac Ateb ar fudd cyhoeddus sydd ar gael ar wefan y Comisiwn.
Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr elusennau addysgol sy'n codi ffioedd uchel, o ganlyniad i'w dyletswydd i weinyddu'r elusen er budd cyhoeddus, ystyried y cyfan o'r dosbarth o fuddiolwyr y mae eu helusen wedi'i sefydlu i ddarparu ar eu cyfer. Felly, mae dyletswydd arnynt i wneud darpariaeth ar gyfer y tlawd. Mae'n rhaid i'r ddarpariaeth honno fod yn fwy na'r lleiaf posibl neu'n symbolaidd ac wedi'u cysylltu â nodau eu helusen.
Mae dyletswydd barhaus gan bob ymddiriedolwr i ystyried canllawiau'r Comisiwn wrth ymarfer unrhyw bwerau neu ddyletswyddau y mae'r canllawiau yn berthnasol iddynt, ac mae'n rhaid iddynt barhau i adrodd ar y budd cyhoeddus y mae eu helusen yn ei ddarparu.
Mae'r adran Cwestiwn ac Ateb i ymddiriedolwyr a'r canllawiau budd cyhoeddus i'w gweld ar wefan y Comisiwn.
PR 56/11
I gael gwybodaeth bellach am y stori hon, cysylltwch â swyddfa'r wasg ar 0207 674 2366.
Nodiadau i Olygwyr
- Y Comisiwn Elusennau yw rheoleiddiwr annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr. Gweler www.comisiwnelusennau.gov.uk am wybodaeth bellach.
- Ein cenhadaeth yw: sicrhau bod elusennau'n cydymffurfio â'r gyfraith, gwella atebolrwydd elusennau, hyrwyddo effeithiolrwydd ac effaith elusennau a hybu diddordeb cyhoeddus mewn elusennau.
- Mae Canolfan Gwybodaeth i'r Cyfryngau y Comisiwn Elusennau, sydd ar gael ar wefan y Comisiwn, yn rhoi gwybodaeth gefndir ddefnyddiol a pherthnasol yn benodol i newyddiadurwyr, yn enwedig mewn perthynas â materion sy'n denu sylw'r wasg yn gyson.
- Mae dros 180,000 o elusennau cofrestredig, ac mae enwau neu enwau gweithredol tebyg gan rai ohonynt. Er mwyn osgoi unrhyw ddryswch, gallwch adnabod pob elusen gofrestredig yn ôl ei rhif cofrestru unigol y gellir ei wirio ar y Gofrestr Elusennau.
1. Adran 4(6) o Ddeddf Elusennau 2006 (i fod yn adran 17(5) o Ddeddf Elusennau 2011 gyfunol o 14 Mawrth 2012: 'Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr elusen ystyried unrhyw ganllawiau o'r fath wrth ymarfer unrhyw bwerau neu ddyletswyddau y mae'r canllawiau yn berthnasol iddynt.'