Bydd ffydd a hyder y cyhoedd mewn elusennau yn cael eu cynnal gan y ffaith bod elusennau yn dryloyw ac yn atebol. Mae'n rhaid i bob elusen, yn ôl y gyfraith, gadw cofnodion cyfrifyddu a pharatoi adroddiadau ar eu cyfrifon sydd ar gael i'r cyhoedd.
Fodd bynnag, mae'r ffordd y mae'n rhaid i bob elusen gynnal, paratoi ac adrodd ar ei chyfrifon yn dibynnu ar ei hincwm a gwariant, asedau gros a chyfansoddiad.
Mae'r adran hon yn esbonio'r tri dull cyfrifyddu gwahanol:
Hefyd gallwch weld ein cyfrifon enghreifftiol ar gyfer cyfrifon derbyniadau a thaliadau a chyfrifon croniadau i elusennau sydd heb fod yn gwmnïau ac elusennau sy'n gwmnïau:
Mae'n rhaid i elusennau baratoi eu cyfrifon er mwyn cydymffurfio â'r Datganiad o Arferion Cymeradwy (SORP) Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau (SORP). Mae'r Comisiwn Elusennau yn cydweithio â phwyllgor cynrychioliadol o'r sector er mwyn adolygu'r SORP yn barhaus a'i ddiweddaru pan fo'n briodol. Mae'r adran hon hefyd yn cynnwys manylion am y pwyllgor a'i waith.
Er mwyn paratoi cyfrifon elusen yn briodol mae'n rhaid i ymddiriedolwyr gadw cofnodion cyfrifyddu digonol i ddangos ac esbonio holl drafodion yr elusen. Mae hon yn ddyletswydd gyfreithiol o dan Ddeddf Elusennau 2011. Os yw'r elusen yn paratoi cyfrifon croniadau, naill ai oherwydd bod ganddi incwm dros £250,000 am y flwyddyn neu am unrhyw reswm arall, cyfrifoldeb yr ymddiriedolwyr yw paratoi cyfrifon sy'n rhoi darlun gwir a theg.
Yn ogystal â chyfrifon, mae'n rhaid i bob elusen gofrestredig baratoi Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr ac mae'n rhaid i elusennau sydd ag incwm gros dros £25,000 ei anfon atom. Mae ein canllaw Pa wybodaeth y mae'n rhaid i ymddiriedolwyr ei hanfon atom eleni? yn esbonio'r gofynion adrodd ar gyfer elusennau sydd mewn bandiau incwm gwahanol.
Weithiau gall fod rhaid i elusennau ffeilio treth gorfforaeth neu ffurflenni treth eraill. Mae ein canllaw Elusennau a Ffurflenni Treth Gorfforaeth yn esbonio pryd y gallai hyn fod yn angenrheidiol ac mae'n cysylltu â chanllawiau allanol defnyddiol.
Brig y dudalen