This snapshot, taken on
02/05/2013
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Yn yr adran hon...

Beth sy'n newdd?

Newyddion y Comisiwn Elusennau - Rhifyn 29

(Haf 2009)

Gallwch weld y fersiwn lliw printiedig hefyd o Newyddion y Comisiwn Elusennau, sy'n cynnwys Rhestr Wirio Testun Trafod - PDF (646kb).

Yn y rhifyn hwn:

Dygnwch yn y dirwasgiad

Cyflwyniad gan y Fonesig Suzi Leather

I nifer o elusennau, mae hon yn adeg sy'n fwyfwy anodd. Mae ein hail Arolwg Economaidd o Elusennau, sy'n cael sylw yn y rhifyn hwn, yn dangos sut mae effaith y dirwasgiad yn gwaethygu ac yn ehangu. Bydd ymddiriedolwyr yn ceisio gwneud beth bynnag a allant i gynnal eu helusennau a gwasanaethau hanfodol yn ystod y cyfnod anodd hwn. Gall fod cyfleoedd newydd i rai, fel cynnydd yn nifer y gwirfoddolwyr neu ffyrdd o gydweithio ag elusennau eraill.

Gall gwybod ble i ddechrau wrth adolygu prosesau ar gyfer goroesi fod yn frawychus ac nid oes gan bob elusen yr un meysydd gwasanaeth a fframweithiau. Mae'r rhifyn hwn o'r cylchlythyr yn cynnwys Rhestr Gyfeirio ar wahân y gall ymddiriedolwyr ei defnyddio fel cyfres o awgrymiadau ymarferol i drafod materion llywodraethu a dewisiadau ar gyfer eu helusennau.

Byddwn yn annog y rhai sy'n derbyn y cylchlythyr hwn i ofyn i'w byrddau ymddiriedolwyr i ddefnyddio'r Rhestr Gyfeirio fel sail ar gyfer trafod y cyfleoedd sy'n cael eu cynnig a'r camau y gallant eu cymryd. Gallwch lwytho i lawr gopïau ychwanegol o'r Rhestr Gyfeirio o'n gwefan yn www.charitycommission.gov.uk

Yn yr hinsawdd sydd ohoni, bydd esbonio'n glir effaith yr hyn y mae'ch elusen yn ei wneud yn bwysicach nag erioed o'r blaen. Mae'r rhifyn hwn yn cynnwys yr enghreifftiau rydym wedi'u cynhyrchu i helpu ymddiriedolwyr i fodloni'r gofyniad adrodd am fudd cyhoeddus. Mae hefyd yn cynnwys mentrau ac adroddiadau newydd a all fod yn ddefnyddiol i elusennau a chanlyniadau arolygon sy'n taflu goleuni newydd ar y berthynas rhwng elusennau a buddiolwyr.

Rydym yn ymrwymedig i wneud popeth a allwn i'ch helpu chi. Er lles y nifer cynyddol o bobl fydd angen cymorth gan elusennau y flwyddyn hon, rwy'n mawr obeithio y bydd y sector yn gallu dod trwy'r storm yn 2009, fel y mae wedi gwneud cynifer o weithiau o'r blaen.

Y Fonesig Suzi Leather, Cadeirydd

Ein strategaeth ar waith

Cymorth pellach ar adrodd am eich budd cyhoeddus

Bydd rhaid i bob elusen gyda blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008 adrodd ar fudd cyhoeddus eu gwaith trwy ddefnyddio Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (TAR).

I helpu ymddiriedolwyr gyda'r dasg hon rydym wedi cyhoeddi pum enghraifft sy'n dangos sut y gellir disgrifio budd cyhoeddus mewn ABY. Mae'r enghreifftiau ffugiol hyn yn cynnwys canolfan cyngor ar gyffuriau, elusen rhoi grantiau, clwb ieuenctid, eglwys ac ysgol annibynnol sy'n codi ffïoedd. Mae'r enghreifftiau yn cynnwys elusennau sydd o dan y trothwy archwilio £500,000 a'r rhai sy'n uwch na'r trothwy, ac maent ar gael ar ein gwefan o dan Canllawiau budd cyhoeddus.

Ni ddylid trin yr enghreifftiau hyn fel 'templedi' ond gobeithio y byddant yn dangos i ymddiriedolwyr sut i adrodd ar fudd cyhoeddus eu helusennau mewn ffordd glir a syml. Byddwn yn ychwanegu mwy o enghreifftiau i'r llyfrgell hon dros y misoedd nesaf.

Hefyd rydym wedi cyhoeddi pedair set ychwanegol o ganllawiau budd cyhoeddus atodol ar gyfer elusennau gyda dibenion sy'n cynnwys:

Hyrwyddo Crefydd er Budd Cyhoeddus
Atal neu Leddfu Tlodi er Budd Cyhoeddus
Hyrwyddo Addysg er Budd Cyhoeddus
Budd Cyhoeddus a Chodi Ffïoedd

Mae'r holl ganllawiau sy'n ymwneud â'r gofyniad budd cyhoeddus ar gael i'w llwytho i lawr ar ein gwefan www.charitycommission.gov.uk o dan Canllawiau budd cyhoeddus.

Bydd ymgynghoriadau pellach ar ganllawiau atodol drafft ar fudd cyhoeddus elusennau gyda dibenion elusennol eraill, megis cronfeydd llesiannol a hyrwyddo hawliau dynol, yn dilyn yn ddiweddarach y flwyddyn hon.

Y dirywiad economaidd - yr effaith ar elusennau

Mae'r Arolwg Economaidd o Elusennau diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, yn dangos effaith gynyddol y dirwasgiad ar elusennau yng Nghymru a Lloegr. Yn ein harolwg gyntaf, a gyhoeddwyd fis Medi diwethaf, dywedodd 38% o elusennau yn yr arolwg eu bod nhw wedi cael eu heffeithio gan y wasgfa gredyd; mae'r ffigur diweddaraf wedi codi i 52% erbyn hyn. O'r rhain, mae 58% wedi gweld gostyngiad yn eu hincwm.

Er bod 32% o elusennau yn yr arolwg wedi dweud eu bod wedi cymryd camau i leddfu effeithiau'r dirwasgiad, dim ond 3% oedd wedi ystyried cydweithredu ag elusen arall a dim ond 3% oedd wedi ystyried uno.

Mae'n bosibl y byddai cydweithio ag elusennau eraill yn helpu rhannu arbenigedd a chostau. Byddem yn annog ymddiriedolwyr i ystyried cydweithio fel cyfle i helpu lleddfu'r risgiau sy'n codi gan ddirywiad ariannol.

Mae mwy o wybodaeth ar gasgliadau'r arolwg ar gael ar ein gwefan o dan 'Hybu Perfformiad Effeithiol' ac yna 'Arolygon'.

Buddiolwyr a chi

Buddiolwyr yw'r rheswm pennaf dros fodolaeth elusennau. Pwy ydynt, beth maent yn ei ddisgwyl a sut y cânt eu trin - dyma'r hyn a ddylai fod o bwysigrwydd canolog i bob elusen. Ym mis Chwefror, cyhoeddwyd ymchwil newydd ar y berthynas rhwng y ddau. Mae Dal y Fantol: Golwg newydd ar y berthynas rhwng elusennau a buddiolwyr yn ystyried, am y tro cyntaf, canfyddiadau'r cyhoedd o ddefnyddio gwasanaethau elusennau yn ogystal â'r ffyrdd gwahanol y bydd elusennau'n mynd i'r afael â chyfraniad a boddhad buddiolwyr.

Mae'r adroddiad yn cynnwys nifer o enghreifftiau o arferion da ond hefyd nifer o feysydd y gall fod yn briodol i rai elusennau eu hystyried ar yr adeg hon.

Delio â chwynion

Dim ond 29% o elusennau yn yr arolwg ddywedodd fod trefn gwyno neu adborth ganddynt. Nid yw'r ffigur hwn yn dangos unrhyw welliant ers ein hadroddiad yn 2006, Lle i Gwyno? ar sut mae elusennau'n rheoli cwynion am eu gwasanaethau. Mae angen i elusennau fynd i'r afael â'r mater hwn ar frys.

Mae Lle i Gwyno? ar gael i'w lwytho i lawr o'n gwefan o dan 'Cyhoeddiadau' ac mae'n lle da i ddechrau i'r elusennau hynny sydd eisiau elwa ar yr atebolrwydd a'r gwasanaethau gwell y bydd system rheoli cwynion effeithiol yn ei chynnig.

Cyfeirio pobl

Prin yw'r elusennau sy'n gallu helpu pawb sy'n cysylltu â nhw, boed oherwydd diffyg adnoddau neu oherwydd bod y cais y tu allan i'r gwasanaethau y mae elusen arbennig yn eu darparu. Y peth amlwg i'w wneud yn y sefyllfa hon, os ydych yn gwybod am sefydliad arall a allai helpu, yw cyfeirio pobl ato - eto i gyd mae 13% o elusennau a ymatebodd i'n gwaith ymchwil yn dweud nad ydyn nhw byth yn gwneud hynny.

Wrth i'r dirwasgiad ddwysáu, mae'n anochel y bydd mwy o bobl yn cysylltu ag elusennau am gymorth ac mae'n debyg y bydd incwm elusennau yn gostwng. Yn yr amgylchiadau hyn, mae'n bwysicach nag erioed o'r blaen os na all elusen helpu, ond mae'n gwybod am sefydliad arall a all helpu, fod proses gyfeirio sefydledig ganddi yn ei lle.

Yn y coch?

Mae ein Cofrestr Elusennau ar-lein newydd yn dangos ar gip pa elusennau sydd heb gyflwyno eu ffurflenni blynyddol a chyfrifon mewn pryd, sy'n ei gwneud hi'n bwysicach byth i elusennau anfon y dogfennau hyn yn brydlon. Fodd bynnag, nid yw nifer o elusennau yn deall pam eu bod yn cael eu dangos fel elusennau esgeulus o hyd ar y Gofrestr ar ôl iddynt anfon eu cyfrifon atom ond nid eu ffurflenni blynyddol.

Defnyddiwn fanylion incwm o'r ffurflen flynyddol felly mae angen y ddwy ddogfen arnom - y cyfrifon a'r ffurflen flynyddol - cyn y gallwn ddiweddaru cofnod yr elusen ar y Gofrestr ar-lein.

Mae arweiniad ar sut i gwblhau'r dogfennau hyn, Ffurflenni Blynyddol a Chymorth i Baratoi Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau, i'w gweld ar ein gwefan o dan 'Bodloni ein gofynion'.

Cofrestru fel elusen - gwnewch fywyd yn haws

Byddwn yn derbyn ceisiadau yn rheolaidd, gan ymgynghorwyr cyfreithiol elusennau fel arfer, am gopïau caled o'r ffurflen gais i gofrestru fel elusen (CC5a), ffurflen datganiad ymddiriedolwyr (CC5c) a'r dogfennau llywodraethol enghreifftiol. Mae'n cymryd amser i ymateb i'r ceisiadau hyn ac felly gall fod oedi cyn cael dyddiad cofrestru elusen.

Mae pob un o'r dogfennau hyn ar gael i'w llwytho i lawr a'u hargraffu ar unwaith o'n gwefan. Gall ymgeiswyr argraffu'r dogfennau hyn unrhyw bryd, gan arbed amser ac adnoddau. Mae gan ddogfennau cais ar-lein sydd wedi'u hargraffu yr union un statws cyfreithiol â chopïau caled.

Efallai yr hoffai'r rhai sy'n helpu darpar elusennau i wneud cais i gofrestru wybod y gellir cofrestru elusen ar-lein erbyn hyn. Mae ein gwasanaeth cofrestru yn ffordd hawdd a chyflym i anfon ffurflenni cais cofrestru a dogfennau llywodraethol i'r Comisiwn. Bydd y system sy'n ystyriol o'r defnyddiwr yn cynnig canllawiau ar-lein ar y broses o gwblhau'r ffurflen, ac yn cynnig modd i chi gadw'r ffurflen unrhyw bryd a dychwelyd ati yn ddiweddarach os dymunwch.

Bydd defnyddio'r system cais ar-lein yn cwtogi'r amser y mae'n ei gymryd i asesu eich cais a chwblhau cofrestru elusen.

Gallai fod o gymorth i ddarpar elusennau a'u hymgynghorwyr wybod hefyd fod ystod eang o amcanion enghreifftiol ar gael i'w llwytho i lawr o'n gwefan. Gallwch weld Amcanion enghreifftiol sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o'r mathau o elusennau ar ein gwefan o dan 'Am Elusennau'.

Adrodd am ddigwyddiadau difrifol

Rydym wedi dod ar draws rhai achosion eisoes y flwyddyn hon o elusennau sydd wedi cael digwyddiad difrifol ond nid yw wedi rhoi gwybod i ni nes bod y sefyllfa wedi gwaethygu. Mae adrodd am ddigwyddiadau difrifol yn golygu rhoi gwybod i ni am broblem ddifrifol cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu cynnig cyngor mor gynnar â phosibl. Os oes gan eich elusen incwm o fwy na £25,000 mae'n rhaid i chi, fel rhan o'r Ffurflen Flynyddol, gadarnhau nad yw digwyddiadau difrifol sy'n ymwneud â'ch elusen wedi codi yn ystod y flwyddyn flaenorol nad ydych wedi dwyn at ein sylw.

Fodd bynnag, dylid dweud wrthym am ddigwyddiadau difrifol ar unwaith, nid yn unig pan fyddwch yn cwblhau'r Ffurflen Flynyddol.

Beth sy'n cael ei ystyried yn ddigwyddiad difrifol?

Yn gyffredinol, mae digwyddiad difrifol yn un sydd wedi, neu a allai olygu colli cronfeydd sylweddol neu beri risg arwyddocaol i eiddo, gwaith, buddiolwyr neu enw da elusen, gan gynnwys:

  • Twyll, lladrad neu golli cronfeydd arwyddocaol neu eiddo arall
  • Symiau o arian arwyddocaol neu eiddo arall a roddwyd i'r elusen o ffynhonnell anhysbys neu heb ei gwirio
  • Unrhyw gysylltiadau hysbys neu honedig â sefydliad gwaharddedig, terfysgwyr neu weithgaredd anghyfreithlon arall
  • Rhywun sy'n gweithredu ar hyn o bryd fel ymddiriedolwr ond sydd wedi'i wahardd rhag gweithredu yn y rôl honno
  • Elusennau yn delio â buddiolwyr agored i niwed sydd heb bolisi i'w diogelu
  • Dim gweithdrefn fetio i sicrhau bod ymddiriedolwyr neu staff yn gymwys i weithredu yn y rôl honno
  • Drwgdybiaethau, honiadau ac achosion o gam-drin buddiolwyr
  • Bu'r elusen yn destun ymchwiliad troseddol neu ymchwiliad gan reolydd neu asiantaeth arall; neu mae sancsiynau wedi cael eu gosod neu mae pryderon wedi cael eu codi gan reolydd neu asiantaeth arall, megis yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu Ofsted.

Gwybod mwy

I gael mwy o wybodaeth ar adrodd am ddigwyddiadau difrifol gweler Adrodd am ddigwyddiadau difrifol ar ein gwefan o dan 'Bodloni ein Gofynion'.

Diweddariad ar Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE)

Y flwyddyn ddiwethaf, cynhaliwyd ymgynghoriad ar y cyd â Swyddfa'r Trydydd Sector ar y ddeddfwriaeth eilaidd a'r cyfansoddiadau enghreifftiol sydd eu hangen i gwblhau'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer SCE. Derbyniwyd lefel wych o ymatebion, yn enwedig o ystyried natur dechnegol iawn yr ymgynghoriad.

Mae Swyddfa'r Trydydd Sector yn adolygu'r holl ymatebion yn fanwl, ac yn disgwyl gwneud nifer o newidiadau i'r fframwaith o ganlyniad. Caiff crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a'r camau nesaf ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn yr haf, ond ni ddisgwylir i'r SCE fod yn ddewis sydd ar gael i elusennau tan Ebrill 2010.

Elusennau a eithrir - cofrestru nawr

Daeth y gofyniad i elusennau 'a eithrir' gydag incwm blynyddol o dros £100,000 gofrestru gyda'r Comisiwn i rym ar ddiwedd Ionawr 2009.

Mae elusennau a eithrir wedi'u 'heithrio' o'r gofyniad i gofrestru gyda ni, naill ai trwy ddeddfwriaeth neu trwy orchymyn gennym ni. Mae'r rhan fwyaf o elusennau a eithrir yn gysylltiedig ag eglwysi a chapeli, cronfeydd elusennol y lluoedd arfog neu grwpiau Sgowtiaid neu'r Geidiau.

Erbyn hyn mae'n rhaid i'r elusennau hyn wneud cais i ni i gofrestru os yw eu hincwm yn £100,000 y flwyddyn neu fwy, oni bai ein bod yn anfon penderfyniad ysgrifenedig atynt yn dweud nad oes angen iddynt wneud hynny. Byddwn yn gwneud penderfyniad o'r fath dim ond os yw incwm yr elusen yn uwch na'r trothwy cofrestru oherwydd amgylchiadau eithriadol a bydd yn disgyn o dan y trothwy yn y dyfodol.

Nid oes rhaid i elusennau a eithrir gydag incwm blynyddol o lai na £100,000 gofrestru gyda ni tan 2012; gan roi amser i Ddeddf Elusennau 2006 gael ei hadolygu yn 2011.

Bwriadwn gofrestru'r 4,000 - 5,000 o elusennau a eithrir sy'n uwch na'r trothwy erbyn 1 Hydref y flwyddyn hon. Am fwy o wybodaeth gweler amserlen cofrestru elusennau a eithrir o dan 'Cofrestru elusen' ar ein gwefan.

Pan fydd yr elusennau a eithrir hyn wedi cofrestru byddwn ni'n dechrau cofrestru'r elusennau a esgusodir hynny gydag incwm blynyddol o fwy na £100,000 a fydd yn gymwys i gofrestru. Bydd y cyntaf o'r elusennau hyn yn gymwys i gofrestru o ddiwedd yr hydref 2009.

Mynd yn wyrdd, camau bach

Bydd nifer o elusennau eisiau cymryd cyfrifoldeb dros yr amgylchedd ond nid ydynt yn gwybod lle i ddechrau, neu maent yn pryderu am y gost, neu nid ydynt yn siŵr a yw gwneud hynny o fewn eu hamcanion elusennol. Er nad yw'r gyfraith elusennau yn ei gwneud hi'n ofynnol i elusennau sydd heb ddibenion elusennol amgylcheddol ymwneud â gweithgareddau amgylcheddol, rydym yn cefnogi ac yn annog pob elusen sy'n ystyried datblygu arferion cynaliadwy amgylcheddol fel un ffordd bosibl o sicrhau eu heffeithiolrwydd mwyaf.

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd adroddiad, Mynd yn Wyrdd: Elusennau a chyfrifoldeb amgylcheddol, oedd yn ystyried profiadau 21 o elusennau gyda diddordeb mewn mynd i'r afael â'r her werdd.

Yn ddiddorol iawn, mae'r adroddiad yn dangos bod elusennau yn aml yn gweithredu ffyrdd mwy gwyrdd o weithio o ganlyniad i bwysau gan unigolion allweddol o fewn y sefydliad. Y risg yma, wrth gwrs, yw pan fydd yr unigolion hyn yn symud ymlaen mae'r cymhelliad i newid y sefydliad yn gallu cael ei golli neu ei wanhau.

Ond yn galonogol, mae Mynd yn Wyrdd yn dangos bod ystod eang o ffyrdd y gall elusennau gynyddu cynaliadwyedd amgylcheddol wrth redeg eu busnesau, o gludiant i gyflenwyr ac ailgylchu - gall hyd yn oed y newidiadau lleiaf wneud gwahaniaeth.

Mae'r adroddiad yn darparu amrywiaeth o enghreifftiau a ffynonellau pellach o gyngor a chymorth; mae ar gael ar ein gwefan o dan 'Cyhoeddiadau'.

Hoelio sylw ar elusennau yng Nghymru

Mae'r sector elusennol yng Nghymru yn wahanol mewn rhai agweddau allweddol i'r sector elusennol yn Lloegr. Ym mis Chwefror, am y tro cyntaf erioed, cyhoeddwyd trosolwg o elusennau yng Nghymru. Roedd Braslun o elusennau yng Nghymru yn dangos bod 90% o'r 9,000 o elusennau yng Nghymru yn gweithio yng Nghymru yn unig ac yn cael eu rhedeg gan bron 42,000 o ymddiriedolwyr.

Mae'r adroddiad yn dangos bod y dadansoddiad o elusennau yng Nghymru yn ôl band incwm ychydig yn wahanol i'r dadansoddiad o elusennau ar draws y Gofrestr. Mae nifer yr elusennau bach, gydag incwm o lai na £1 miliwn, er enghraifft, yn fwy na chyfran yr elusennau bach ar draws y Gofrestr gyfan. Mae hefyd yn dangos bod cyfran lai o elusennau mwy yng Nghymru, yr elusennau hynny gydag incwm o fwy na £5 miliwn, o'i gymharu â'r Gofrestr gyfan. Gyda'i gilydd, mae gan elusennau yng Nghymru gyfanswm incwm o £1 biliwn.

Gallwch weld Braslun o elusennau yng Nghymru ar ein gwefan ar ddiwedd y rhestr o ganllawiau yn y gyfres 'CC' o dan 'Cyhoeddiadau'.

Llywodraethu da ar waith

Cyfrif i lawr i 2012

Yn Hydref 2012 bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i bob cyflogwr, gan gynnwys elusennau, i gynnig pensiwn gweithlu. Er gwaethaf pwysigrwydd y datblygiad hwn, dangosodd arolwg diweddar nad yw nifer o ymddiriedolwyr elusen yn ymwybodol o'r hyn y bydd yn ei olygu iddyn nhw.

Mae'r dyletswyddau newydd yn rhan o raglen o ddiwygiadau pensiwn ehangach y llywodraeth sy'n ceisio gwneud cynilo ar gyfer ymddeoliad yn arferol. Mae'r dyletswyddau newydd yn golygu y bydd rhaid i gyflogwyr gofrestru gweithwyr cymwys yn awtomatig ar gynllun pensiwn gweithlu cymwys a gwneud cyfraniad.

Bydd angen i gyflogwyr wneud cyfraniad lleiaf o 3% ar fand o enillion, ond gall cyflogwyr gyfrannu mwy. Dylai cyfanswm y cyfraniad lleiaf i weithwyr cymwys fod yn hafal i 8%, wedi'i ffurfio o gyfraniadau cyflogwyr, cyfraniadau gweithwyr a rhyddhad treth. I helpu cyflogwyr, bydd y cyfraniad lleiaf yn cael ei gyflwyno'n raddol o 1% i 3%.

Fel rhan o'r diwygiadau cyffredin hyn mae cynllun newydd, cyfrifon personol, yn cael ei greu i ddarparu cynllun pensiwn gweithle tâl isel y gall unrhyw gyflogwr ei ddefnyddio. Caiff ei redeg gan Gorfforaeth Ymddiriedolwyr dielw ac mae wedi'i anelu at enillwyr isel i ganolig, sef y bobl hynny nad ydynt efallai wedi cael mynediad i bensiwn gweithlu cyn hyn. Gall cyflogwyr ddewis cyfrifon personol, neu gynllun cymwys arall.

Yr Awdurdod Darparu Cyfrifon Personol (PADA) fydd yn gyfrifol am ddarparu'r cynllun hwn. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.padeliveryauthority.org.uk

Gwneud y mwyaf o Gymorth Rhodd

Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae'n hollbwysig i elusennau sicrhau eu bod yn hawlio ac yn gwneud y mwyaf o Gymorth Rhodd. Er mwyn galluogi mwy o elusennau i wneud hynny, mae Tollau Tramor a Chartref EM (HMRC) wedi lansio Pecyn Cymorth ar CD.

Mae'r Pecyn Cymorth yn cynnwys canllawiau clir, sylfaenol, templedi, ffurflen gais ryngweithiol a deunyddiau eraill i helpu elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol i gychwyn arni gyda Chymorth Rhodd a defnyddio Cymorth Rhodd mewn sefyllfaoedd codi arian gwahanol. Mae'r Pecyn Cymorth yn ategu'r canllawiau diwygiedig a gwell ar wefan HMRC.

Gall elusennau a chlybiau gael y Pecyn Cymorth newydd trwy ffonio HMRC Charities ar 08453 020 203 neu anfon e-bost at charities@hmrc.gov.uk.

Mae'r Sefydliad Codi Arian hefyd yn darparu gwybodaeth a chyngor ar bob math o roi treth-effeithiol trwy ei linell gymorth arbennig: 0845 458 4586 a'i wefan: http://www.tax-effectivegiving.org.uk ac mae wedi lansio'r fforwm trafod ar-lein: www.giftaidhelp.org i baru arbenigwyr Cymorth Rhodd â chodwyr arian sydd angen cymorth. Mae'r Sefydliad hefyd yn darparu gweithdai hyfforddi undydd cynhwysfawr i elusennau bach ar ryddhad treth elusennol. Cynhelir gweithdai yng Nghymru a Lloegr.

Disgyn ar eich traed

Mae rheolau cofrestru tir newydd yn effeithio ar elusennau heb fod yn gwmnïau o 6 Ebrill 2009. Os yw'ch elusen yn berchen ar dir:

  • sydd heb ei gofrestru o dan y Deddfau Cofrestru Tir; ac
  • wedi'i freinio yn enwau ymddiriedolwyr unigol; ac
  • wedi'i drosglwyddo i ymddiriedolwr newydd gan weithred ar ôl 6 Ebrill 2009,

mae'n debyg y bydd rhaid iddo gael ei gofrestru gyda'r Gofrestrfa Tir. Yr unig eithriad yw tir a ddelir o dan brydles sydd â llai na saith mlynedd yn weddill. Os ydych yn cofrestru tir yn wirfoddol cyn y trosglwyddiad nesaf fe gewch ddisgownt o 25% ar ffi cofrestru cyntaf arferol y Gofrestrfa Tir.

Mae mwy o wybodaeth ar gael mewn dau Gyfarwyddyd Ymarfer y Gofrestrfa Tir - Cofrestriadau Cyntaf (Rhif 1) ac Elusennau (Rhif 14). Mae'r ddau ar gael ar wefan y Gofrestrfa Tir yn www.cofrestrfatir.gov.uk/ neu o'ch swyddfa Cofrestrfa Tir leol. Hefyd gallwch ddefnyddio gwefan y Gofrestrfa Tir i weld a yw tir eich elusen wedi'i gofrestru.

Un ffordd o osgoi trosglwyddiadau o dir elusennol i ymddiriedolwyr newydd yw ei freinio yn y Ceidwad Swyddogol i Elusennau. Gweler ein cyhoeddiad Gwasanaeth Dal Tir y Ceidwad Swyddogol i Elusennau (CC13)

Argymhellwn yn gryf fod ymddiriedolwyr bob amser yn ystyried a oes angen cyngor proffesiynol arnynt wrth ddelio â materion sy'n cynnwys tir.

Cyngor iechyd a diogelwch am ddim

Gall materion iechyd a diogelwch gael eu hesgeuluso'n rhwydd yn ystod cyfnodau o bwysau mawr. Ond yn achos elusennau, sydd yn aml yn defnyddio eu cronfeydd wrth gefn er mwyn goroesi, gall digwyddiad iechyd a diogelwch sylweddol fod yn ddigon i lorio'r elusen.

Yn ffodus iawn ar gyfer ystod gyfan o sefydliadau llai, mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cynhyrchu amrywiaeth helaeth o asesiadau risg enghreifftiol ar ei wefan. Mae'r rhain yn cynnwys camau o'r dechrau i'r diwedd ar gyfer siop elusennol, neuadd bentref, canolfan alwadau a sefydliad a leolir mewn swyddfa.

Er na fydd yr asesiadau yn addas i bawb ac yn rhywbeth sydd dim ond angen sêl bendith y bwrdd, maent yn darparu rhestrau cyfeirio defnyddiol y gall gwanhaol fathau o elusennau eu defnyddio wrth weithredu adolygiadau o'u risgiau iechyd a diogelwch a'u hunioni.

Mae gwefan Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn www.hse.gov.uk hefyd yn cynnwys y ddogfen ymarferol Pum cam i asesu risg sy'n disgrifio'r camau sylfaenol mewn ffordd ddiffwdan a synhwyrol.

Dod o hyd i'ch ymddiriedolwyr a'u cadw

Mae byrddau ymddiriedolwyr effeithiol yn bwysicach nawr nag erioed o'r blaen, ond gwyddwn fod nifer o elusennau yn ei chael hi'n anodd recriwtio ac integreiddio ymddiriedolwyr newydd. Mae Charity Trustee Networks (CTN) wedi lansio dwy fenter i helpu:

Trusteefinder

Cronfa ar-lein yw hon o 6,000 o swyddi gwag ymddiriedolwyr y gellir eu chwilio i gael hyd i swyddi gwag unrhyw le yn y DU. Gall elusennau ac ymddiriedolwyr gofrestru am ddim ar y wefan a rhoi eu swyddi gwag ymddiriedolwyr eu hunain arni er mwyn i unrhyw un sy'n chwilio am rôl ymddiriedolwr ei chwilio. I roi swydd wag newydd ar y wefan ewch i http://www.trusteenet.org.uk/jobs-search

Mewn dirwasgiad efallai y bydd llawer mwy o bobl ar gael ac yn awyddus i ymgymryd â'r rôl hon felly mae'n werth neilltuo amser i ddefnyddio safleoedd o'r fath. Mae safleoedd eraill sy'n cynnig gwasanaethau gwirfoddoli yn cynnwys REACH www.reach-online.org.uk a'r gronfa ddata genedlaethol ar gyfer gwirfoddoli www.do-it.org.uk

Datblygu codau ymddygiad

Bydd bron pob bwrdd yn wynebu materion megis gwrthdaro buddiannau, ansicrwydd ynghylch cyfrifoldebau neu berthnasoedd unigol anodd. Gall ymrwymiad bwrdd i god ymddygiad, waeth pa mor anffurfiol y bo, helpu atal y mathau hyn o broblemau neu fynd i'r afael â nhw yn effeithiol pan fyddant yn codi.

Mae CTN wedi cynhyrchu Codau Ymddygiad i Ymddiriedolwyr, adnodd ymarferol y gallwch ei lwytho i lawr am ddim i helpu ymddiriedolwyr gydweithio'n dda â'i gilydd, osgoi problemau ar y bwrdd a darparu'r offer i fynd i'r afael â nhw pe byddent yn codi - heb i bethau fynd yn bersonol.

Mae Codau Ymddygiad i Ymddiriedolwyr yn cynnwys codau ymddygiad, offer defnyddiol ac yn eich cyfeirio at adnoddau ac astudiaethau achos eraill sy'n dangos sut mae elusennau eraill wedi defnyddio codau ymddygiad. Mae ar gael i'w lwytho i lawr o www.trusteenet.org.uk/resources/codes-conduct-trustees-ctn-booklet

Aelodaeth o'r Bwrdd Safonau Codi Arian

Mae codi arian yn cael lle llawer mwy blaenllaw ar agendâu nifer o ymddiriedolwyr erbyn hyn. Ar wahân i incwm o gontractau a grantiau, codi arian cyhoeddus yw prif berthynas elusen yn aml â'r cyhoedd, ac mae cael enw da o ran codi arian, a dangos arferion gorau yn bwysig.

Mae mwy na 1,000 o elusennau wedi cofrestru ar gynllun aelodaeth hunanreoleiddio'r Bwrdd Safonau Codi Arian (FRSB) ar gyfer codi arian. Bydd aelodau'n arddangos y tic 'rhoi â hyder' ar eu deunyddiau codi arian, gan roi sicrwydd i ddarpar roddwyr a rhoddwyr presennol o ymrwymiad yr elusen at Addewid Codi Arian FRSB a'i egwyddorion allweddol.

  • Ymrwymedig i safonau uchel
  • Gonest ac agored
  • Clir
  • Dangos parch
  • Teg a rhesymol
  • Atebol

Y ffïoedd aelodaeth isaf yw £30 y flwyddyn i elusennau gyda'r lefelau isaf o incwm ac mae hyn yn codi i £5,000 ar y mwyaf. Mae hunanreoleiddio yn ymrwymiad ar draws y sector i'r safonau uchaf o godi arian.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.frsb.org.uk neu ffoniwch 0845 402 5442.

Cwestiynau, Cwestiynau….

Cw. Mae ein noddwr newydd yn dweud bod angen i ni roi 'tystysgrif gofrestru' iddyn nhw. Allwch chi anfon un atom?

A. Mae hwn yn gamddealltwriaeth weddol gyffredin - dydyn ni ddim yn cynhyrchu tystysgrifau o'r fath. Yr hyn sydd gan gyllidwyr mewn golwg fel arfer yw prawf bod eich sefydliad yn elusen gofrestredig. Gallwch roi naill ai gyswllt electronig iddynt i gofnod eich elusen ar y gofrestr ar-lein neu ei argraffu eich hun a rhoi copi caled iddyn nhw.

Cw. Rwy'n gorymateb rwy'n siŵr ond os yw'r Ffliw Moch yn gwaethygu, mae'n bosib y bydd rhaid i ni ganslo ein CCB. Allwn ni ddefnyddio'r e-bost neu'r post i gofrestru pleidleisiau ar gynigion?

A. Mae'r sefyllfa hon wedi digwydd o'r blaen, yn ystod Clwy'r Traed a'r Genau yn 2001. Cytunwyd y pryd hynny y gall elusen dderbyn pleidleisio trwy'r post neu'r e-bost untro yn unig heb orfod ychwanegu darpariaeth benodol i'w dogfen lywodraethol. Byddai gwneud hynny yn gyson yn gofyn am newid i'r ddogfen lywodraethol ond fel digwyddiad untro megis CCB mae'n iawn.

Sut i gysylltu â ni

Comisiwn Elusennau Uniongyrchol am ymholiadau cyffredinol ac i gysylltu ag unrhyw un o'n swyddfeydd:

Comisiwn Elusennau Uniongyrchol
Blwch SP 1227
Lerpwl
L69 3UG

Ffôn: 0845 300 0218
Typetalk: 0845 300 0219
E-bost

Os hoffech gael fersiynau o'r cylchlythyr hwn yn Gymraeg neu ar CD archebwch nhw o'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 0218.

Croesewir eich sylwadau a'ch awgrymiadau ar gyfer gwella'r cylchlythyr hwn. Ysgrifennwch at Olygydd Newyddion y CC yng nghyfeiriad y Comisiwn Elusennau uchod neu anfonwch e-bost.

Pe byddai'n well gennych dderbyn rhybudd trwy'r e-bost pan fydd Newyddion y Comisiwn Elusennau wedi cael ei gyhoeddi ar y wefan anfonwch e-bost at Olygydd Newyddion y CE.

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwis