This snapshot, taken on
02/05/2013
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Yn yr adran hon...

Beth sy'n newdd?

Newyddion y Comisiwn Elusennau - Rhifyn 27 (Copi Archif)

(Ionawr 2008)

Yn y rhifyn hwn...

Ein strategaeth ar waith

Cwestiynau, cwestiynau
Sut i gysylltu â ni

Hoelio sylw ar fudd cyhoeddus

Cyflwyniad gan y Fonesig Suzi Leather

Mae gwyliau'r Nadolig wedi rhoi cyfle i ni ailfywiogi ac mae'r Flwyddyn Newydd yn gyfle i ni bwyso a mesur a chynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod. A does dim dwywaith y bydd yn flwyddyn hynod brysur arall - i elusennau ac i'r Comisiwn fel eu rheolydd.

Bydd tri mis cyntaf 2008 yn gweld rhai o ddarpariaethau pwysicaf Deddf Elusennau 2006 yn dod i rym, gan gynnig amrywiaeth o ddewisiadau i elusennau sy'n rhoi mwy o hyblygrwydd a rheolaeth iddynt. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn cynnwys y darpariaethau budd cyhoeddus sy'n rhoi mwy o bwyslais ar y budd cyhoeddus a gynigir gan elusennau. Mae canllaw ar y tudalennau canol sy'n esbonio'r hyn y mae'n ei olygu i chi.

Er mwyn deall y gwahanol newidiadau, rwy'n argymell eich bod yn darllen y llyfryn 'Deddf Elusennau 2006: Yr hyn y mae angen i ymddiriedolwyr wybod'. Hefyd, mae'n werth darllen cynllun gweithredu wedi'i ddiweddaru Swyddfa'r Trydydd Sector sy'n dweud wrthych pa ddarpariaethau sydd eisoes wedi cael eu cyflwyno a'r hyn sydd ar ddod. Fe welwch gysylltiadau i'r rhain ar y dudalen 'Deddf Elusennau 2006' o dan y cyswllt Deddf Elusennau 2006 Diweddariad o hafan ein gwefan. Gwyliwch am yr wybodaeth ddiweddaraf ar y safle dros y misoedd nesaf.

Dymunaf flwyddyn lwyddiannus iawn i chi gyd.

Llofnod Suzi Leather

Y Fonesig Suzi Leather, Cadeirydd

Y Ddeddf Elusennau ar waith

Uno elusennau'n haws

Mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau sy'n ceisio ei gwneud hi'n haws i elusennau ddatblygu a newid. Agwedd allweddol ar hyn oedd creu 'Cofrestr Cyfuniadau' gyhoeddus. Sefydlwyd y Gofrestr fis Tachwedd diwethaf ac mae'n cynnwys y manylion diweddaraf ar gyfuniadau a throsglwyddiadau cysylltiedig o eiddo rhwng elusennau, pan gawsom wybod amdanynt.

Prif fantais y Gofrestr yw ei bod yn cynnig modd i gyfraniadau sy'n cael eu rhoi i elusennau trwy ewyllysiau a chymynroddion drosglwyddo'n awtomatig i'r elusen olynol ar ôl cyfuniad. Mae hefyd yn cwmpasu mathau eraill o ailwampio elusennau, megis corffori. Mae hyn yn dileu'r angen i gynnal elusen 'goeg', sy'n bodoli dim ond i dderbyn rhoddion o'r fath, neu i'r Comisiwn wneud Cynllun er mwyn i'r cyfraniad gael ei ddefnyddio fel y bwriedir.

Gall ymddiriedolwyr elusen sydd wedi cymryd drosodd eiddo elusennau eraill gael mynediad i'r buddiannau hyn trwy ein hysbysu am y cyfuniad. Mae hyn yn gymwys i gyfuniadau newydd a'r rhai sydd eisoes wedi digwydd - newyddion da i elusennau sy'n parhau i weithredu elusennau coeg er mwyn osgoi colli cymynroddion.

Gall ymddiriedolwyr sydd eisiau gwybod mwy am gofrestru cyfuniad, gan gynnwys pryd mae hyn yn orfodol, gael mwy o wybodaeth o'r cyswllt 'Gwnewch gais' ar ein tudalen hafan.

Mae ein canllaw Cydweithio a Chyfuniadau (CC34) yn cynnwys mwy o wybodaeth am y materion hyn.

Newid amcanion sydd wedi dyddio

Bydd newid arall a fydd yn helpu elusennau i ddatblygu a wynebu newidiadau yn y gymdeithas yn dod i rym ym mis Chwefror 2008. Mae amcanion elusennol yn weddol eang fel arfer ond o bryd i'w gilydd, bydd ymddiriedolwyr yn penderfynu nad yw amcanion presennol eu helusen yn ymarferol mwyach. Yn yr amgylchiadau hyn gofynnant i ni ddefnyddio ein pwerau i baratoi Cynllun i ddiweddaru'r amcanion. Rhaid i'r amcanion newydd fod yn debyg i'r amcanion gwreiddiol.

Hyd yma, ein prif ystyriaeth wrth ddefnyddio'r pwerau hyn, yn ôl y gyfraith, oedd 'ysbryd y rhodd gwreiddiol', ond o dan y darpariaethau newydd gallwn hefyd ystyried 'amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd cyfredol'. Fel enghraifft, mae rhai amcanion elusennol yn cynnwys rhagdybiaethau nad ydynt yn adlewyrchu'r norm cymdeithasol mwyach, megis cronfeydd gwobr addysgol a ddyfernir i ferched am goginio ac i fechgyn am waith coed. O dan y darpariaethau newydd gallem ddileu'r cymwysterau rhyw-benodol hyn, neu os gofynnir i ni, uno'r ddwy wobr yn un gronfa.

Er ein bod bob amser wedi ceisio defnyddio ein pwerau mewn ffordd mor greadigol a defnyddiol ag y mae'r gyfraith yn ei chaniatáu, gall y newid ffurfiol hwn dawelu meddwl elusennau sydd yn y sefyllfa hon drwy wybod bod y broses yn symlach nag yr oeddent wedi tybio.

Mwy o hyblygrwydd i gwmnïau elusennol...

Un o ddarpariaethau Deddf Elusennau 2006 a ddaw i rym ym mis Chwefror fydd rhoi hyblygrwydd newydd i elusennau sy'n gwmnïau o ran newid eu memorandwm ac erthyglau cymdeithasu.

Bydd y rheolau ynghylch pryd y gellir newid memorandwm ac erthyglau cymdeithasu yn cael eu llacio er mwyn i elusennau allu gwneud newidiadau oni bai eu bod yn 'newidiadau a reoleiddir' - sef, newidiadau sy'n effeithio ar agweddau mwyaf sylfaenol yr elusen. Bydd angen ein caniatâd ni ymlaen llaw ar gyfer y rhain o hyd. Mae newidiadau a reoleiddir yn golygu unrhyw newid i'r:

  • cymal amcanion;
  • unrhyw ddarpariaeth sy'n pennu sut y defnyddir eiddo'r elusen os yw'r elusen yn diddymu; ac
  • unrhyw newid a fyddai'n awdurdodi budd i gyfarwyddwyr, aelodau'r cwmni neu bobl sy'n gysylltiedig â nhw.

...ac i elusennau anghorfforedig hefyd

Mae'r Ddeddf yn rhoi mwy o ryddid i elusennau bach sydd heb fod yn gwmnïau i wario neu drosglwyddo eu hasedau neu newid eu dibenion heb fod angen ein hawdurdod.

O fis Chwefror, bydd elusennau anghorfforedig gydag incwm o lai na £10k yn gallu trosglwyddo eu hasedau i elusen arall neu newid eu dibenion trwy gyflwyno cynnig syml.

Bydd llawer o elusennau anghorfforedig bach iawn sydd â chyfalaf nad oes modd ei wario fel pe bai'n incwm yn gallu gwneud hynny o hyn ymlaen. Ni fydd pob elusen o'r fath yn bodloni'r meini prawf ar gyfer hyn, ac i'r elusennau hynny na fyddant yn gallu defnyddio'r pwerau newydd hyn, symleiddiwyd y drefn ar gyfer gwneud cais i ni am ganiatâd i wario eu cyfalaf.

Bydd canllawiau mwy manwl a ffurflenni ar gael ar ein gwefan ac o'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 0218 pan ddaw'r darpariaethau hyn i rym ym mis Chwefror.

Datblygiad Sefydliadau Corfforedig Elusennol

Cyn y gellir cyflwyno'r Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) rhaid i rai o'r rheolau manwl ynghylch eu strwythur, a sut y cânt eu gweinyddu, gael eu deddfu trwy Reoliadau a wnaed gan y Senedd.

Mae Swyddfa'r Trydydd Sector wrthi'n paratoi Rheoliadau drafft sy'n delio â hyn, ac rydym wrthi'n paratoi dogfennau llywodraethol drafft y bydd ymddiriedolwyr yn gallu eu defnyddio.

Mae'n bwysig bod y Rheoliadau a'r dogfennau llywodraethol drafft mor ddefnyddiol â phosibl. Felly, ar y cyd â Swyddfa'r Trydydd Sector, byddwn yn cynnal ymgynghoriad ar y ddwy set o ddogfennau drafft - mae mwy o fanylion i'w gweld ar dudalennau'r Ddeddf Elusennau ar ein gwefan.

Er y bydd SCE yn addas ar gyfer rhai elusennau, ni fydd yn addas i bawb ac mae'n werth cofio y bydd rhaid i bob SCE gofrestru gyda ni, waeth beth fo'i incwm.

Gall tudalennau 'Cofrestru elusen' ar ein gwefan a'n cyhoeddiad Dewis a Pharatoi Dogfen Lywodraethol helpu ymddiriedolwyr sy'n bod a'r rhai sy'n ystyried sefydlu elusen i wneud penderfyniadau ynghylch addasrwydd strwythur SCE ar gyfer eu sefydliad.

Troedio'r ffordd at Dribiwnlys Elusennau newydd

Rhagwelwn y bydd Tribiwnlys Elusennau yn weithredol ym mis Chwefror, yn barod i ddelio ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau cyfreithiol y Comisiwn, ac adolygu'r penderfyniadau hynny.

Cyn i'r Tribiwnlys glywed apêl bydd yn rhaid i'r apêl fynd trwy ein gweithdrefn adolygu penderfyniad mewnol yn gyntaf - gweithdrefn rydym wedi'i hadolygu'n ddiweddar i'w gwneud mor gyflym a hawdd â phosibl i'w defnyddio.

Bydd yn llawer haws cyfeirio achosion i'r Tribiwnlys na mynd i'r Uchel Lys ac, yn fwyaf pwysig, bydd yn rhad ac am ddim.

Hefyd, bydd gweithdrefn sy'n caniatáu i'r Comisiwn neu'r Twrnai Gwladol ofyn i'r Tribiwnlys ystyried cwestiynau ehangach i egluro neu ddatblygu'r gyfraith elusennau.

Er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt y Tribiwnlys, dylech barhau i ymweld â thudalennau'r Ddeddf Elusennau ar ein gwefan.

Cynyddu tryloywder wrth godi arian

O ddechrau mis Ebrill 2008, bydd y Ddeddf yn cyflwyno newidiadau pwysig i helpu'r cyhoedd i wneud dewisiadau mwy gwybodus ynghylch pa elusennau yr hoffant gyfrannu atynt.

O fis Ebrill, bydd y rheolau ynghylch datganiadau sy'n cael eu gwneud gan godwyr arian proffesiynol, cyfranogwyr masnachol a chynrychiolwyr cyflogedig eraill elusennau yn cael eu tynhau er mwyn egluro faint o'u casgliad cyhoeddus gaiff ei roi i'r elusen, neu o leiaf amcangyfrif manwl gywir o faint y mae'n rhesymol i elusen ei ddisgwyl.

Mae Swyddfa'r Trydydd Sector yn datblygu canllawiau ar y datganiadau codi arian hyn cyn y daw'r rhan hon o Ddeddf Elusennau 2006 i rym.

Bydd ein gwefan yn cynnig cyswllt i'r canllawiau hyn yn nes at yr amser.

Gwneud llwyddiant o apeliadau aflwyddiannus

Nid cynnig mwy o dryloywder i roddwyr yw'r unig agwedd ar godi arian a ystyrir yn y Ddeddf newydd; mae hefyd yn mynd i'r afael ag apeliadau aflwyddiannus. Fel arfer bydd apeliadau'n methu oherwydd nad yw digon o arian wedi cael ei godi. Mae hyn yn cael ei gymhlethu gan y ffaith bod rhaid i sefydliadau dybio y bydd cyfranwyr am gael eu had-dalu ar y sail eu bod wedi rhoi at rywbeth penodol na fydd yn digwydd bellach.

Gallwn baratoi Cynllun sy'n caniatáu i'r cronfeydd gael eu defnyddio at ddibenion eraill, tebyg ond dim ond ar ôl broses hir o hysbysebu a chynnig ad-daliadau i gyfranwyr y mae modd eu holrhain. Hyd yn oed ar ôl i'r Cynllun gael ei baratoi, mae chwech mis arall gan gyfranwyr i hawlio ad-daliad.

Mae'r Ddeddf newydd yn cynnig dewis arall. Gellir dweud wrth gyfranwyr o'r cychwyn os yw'r apêl yn methu caiff eu cyfraniad ei ddefnyddio ar gyfer rhywbeth tebyg oni bai eu bod yn arwyddo datganiad sy'n dweud yr hoffent gael ad-daliad. Mae hyn yn golygu os yw'r apêl yn methu mae'n rhaid i'r trefnwyr gynnig ad-daliadau i gyfranwyr sydd wedi arwyddo datganiadau yn unig, gan ddefnyddio ein proses a gytunwyd. Yna byddem yn paratoi Cynllun ar gyfer yr arian sy'n weddill ac ni fyddai unrhyw geisiadau pellach yn cael eu talu wedi hynny.

Wrth gwrs, un ffordd o osgoi apêl aflwyddiannus yn y lle cyntaf yw i drefnwyr gynnwys pwrpas mwy cyffredinol ochr yn ochr â phwrpas penodol yr apêl, ar y patrwm:

"Os nad ydym yn codi digon o arian i wneud X byddwn yn ei ddefnyddio i wneud Y."

Yn gyffredinol, argymhellwn mai'r dewis hwn yw'r arfer gorau.

Adolygu cyfrifon

Trothwyon ar gyfer archwilio proffesiynol ac archwilio annibynnol

Mae'r Ddeddf newydd yn symleiddio'r rheolau ynghylch pryd y mae angen archwiliad proffesiynol ac mae'n rhoi trothwyon tebyg i elusennau sy'n gwmnïau a heb fod yn gwmnïau. Cyflwynwyd y newidiadau i'r trothwyon hyn y llynedd ac maent yn gymwys i flynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 27 Chwefror 2007.

Fodd bynnag, bydd newidiadau pellach yn cael eu cyflwyno a chynhaliwyd ymgynghoriad gan Swyddfa'r Trydydd Sector a oedd yn ystyried sut y byddai'r rhain yn gweithio yn haf 2007. Y prif gynigion oedd:

Trothwyon

Ar gyfer 2008, cynigir y bydd y gofynion archwilio annibynnol ac archwilio ariannol yr un fath i bob elusen. Bydd rhaid i gyfrifon gael eu harchwilio'n broffesiynol os oes gan yr elusen:

  • incwm blynyddol gros o fwy na £500k; neu
  • gyfanswm gwerth asedau o fwy na £2.8 miliwn ac incwm blynyddol gros o fwy na £100k.

Yn is na'r trothwy hwn, y cynigion ar gyfer elusennau sy'n gwmnïau a heb fod yn gwmnïau yw bod modd defnyddio archwiliwr annibynnol yn lle archwiliwr ariannol. Nid oes angen archwiliad annibynnol os yw incwm yr elusen yn llai na £10,000. Os yw'n fwy na £250,000 rhaid i'r archwiliwr annibynnol fod yn aelod o gorff a enwir.

Cyfrifon grŵp

Yn aml bydd elusennau'n masnachu, ac weithiau'n ymgymryd â gweithgaredd elusennol ei hun, trwy gwmnïau a chyrff eraill y maent naill ai'n eu rheoli neu'n berchen arnynt. Er mwyn rhoi darlun llawn o weithgareddau ac adnoddau, mae'n arfer da i'r elusennau hyn baratoi cyfrifon grŵp i gydgrynhoi cyfrifon yr elusen a'i his-gwmnïau.

Er ei bod yn arfer da, nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol ar hyn o bryd i'r rhan fwyaf o elusennau baratoi cyfrifon grŵp. Bydd y Ddeddf newydd yn ei gwneud hi'n ofynnol fel rheol i riant elusen baratoi cyfrifon grŵp (os yw'n fwy na throthwy penodedig) sy'n cynnwys eu his-gwmnïau.

Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf i'w gweld ar ein gwefan pan gaiff canlyniadau'r ymgynghoriad eu cyhoeddi.

Diogelu chwythwyr chwiban

Weithiau bydd adnabod camweithredu neu dor-ymddiriedaeth arwyddocaol yn dod at sylw archwilwyr ariannol ac archwilwyr annibynnol pan fyddant yn cynnal archwiliadau ariannol neu archwiliadau annibynnol ar gyfrifon elusennau. Cyn hyn, os oedd yr archwiliwr yn 'chwythu'r chwiban' trwy drosglwyddo'r wybodaeth hon i'r Comisiwn, roedd perygl y byddai'r elusen yn dwyn achos o ddifenwad neu dor-gyfrinachedd yn ei erbyn.

Mae'r Ddeddf yn sicrhau y bydd archwilwyr cyfrifon elusennau wedi'u diogelu rhag perygl o'r fath ac mae hefyd yn diogelu archwilwyr annibynnol cyfrifon elusennau. Rhagwelir y bydd pob un o'r newidiadau hyn yn cael eu gweithredu yn hwyr yng ngwanwyn 2008.

Newidiadau yn y dyfodol ar gyfer archwilio annibynnol

Bydd rhai o'r cynigion a ddisgrifir uchod yn gofyn am newidiadau i'r Cyfarwyddiadau ar gyfer archwilio annibynnol a'r canllawiau i helpu archwilwyr annibynnol. Rydym wedi ymgynghori ar y newidiadau hyn ac fe welwch fanylion llawn o dan 'Hybu perfformiad effeithiol'. Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 16 Tachwedd 2007 ac, i gyd-fynd â'r newidiadau uchod, byddwn yn cyhoeddi Cyfarwyddiadau a chanllawiau newydd a fydd yn weithredol pan ddaw'r newidiadau i rym yn 2008.

Elusennau a Budd Cyhoeddus: Canllaw Cryno i Ymddiriedolwyr Elusen

Cyflwyniad

Rhaid i bob elusen gael dibenion elusennol neu 'amcanion' sydd er budd y cyhoedd. Gelwir hyn y 'gofyniad budd cyhoeddus'. Er bod rhaid i bob elusen fodloni'r gofyniad hwn eisoes, mae Deddf Elusennau 2006 yn tynnu sylw ato'n benodol trwy gynnwys budd cyhoeddus yn y diffiniad o ddiben elusennol. Disgwyliwn i'r newidiadau hyn ddod i rym o 1 Ebrill 2008. O'r dyddiad hwnnw, bydd rhaid i bob sefydliad sy'n dymuno cael ei gydnabod fel elusen ddangos, yn ddiamwys, bod eu hamcanion er budd y cyhoedd. Cyn hyn roedd y gyfraith yn cymryd yn ganiataol mai dyma oedd yr achos i elusennau sy'n hyrwyddo addysg neu grefydd neu sy'n lleddfu tlodi. Mae'n rhaid i'r Comisiwn Elusennau sicrhau bod pob elusen yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus a chynnig arweiniad ar yr hyn y mae'r gofyniad yn ei olygu. Bydd yr ofynnol i ymddiriedolwyr elusen ystyried canllawiau budd cyhoeddus y Comisiwn ac adrodd ar fudd cyhoeddus eu helusen.

Mae'r crynodeb hwn yn ymdrin ag egwyddorion allweddol ein canllawiau cyffredinol i elusennau ar fudd cyhoeddus. Fe welwch y fersiwn llawn o'r canllawiau ar ein gwefan o dan 'Am elusennau' ac mae copïau caled ar gael trwy ffonio'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 0218.

Dibenion Elusennol

Dibenion (neu amcanion) elusennol yw'r rhai sydd wedi'u cynnwys yn y disgrifiadau amrywiol o ddibenion elusennol yn Neddf Elusennau 2006, a nodwyd isod, ac unrhyw ddibenion elusennol newydd a allai gael eu cydnabod yn y dyfodol.

a) atal neu leddfu tlodi;

b) hyrwyddo addysg;

c) hyrwyddo crefydd;

ch) hyrwyddo iechyd neu achub bywydau;

d) hyrwyddo dinasyddiaeth neu ddatblygiad cymunedol;

dd) hyrwyddo'r celfyddydau, diwylliant, treftadaeth neu wyddoniaeth;

e) hyrwyddo chwaraeon amatur;

f) hyrwyddo hawliau dynol, datrys gwrthdaro neu gymodi neu hyrwyddo cytgord crefyddol neu hiliol neu gydraddoldeb ac amrywiaeth;

ff) hyrwyddo gwarchod neu wella'r amgylchedd;

g) cynorthwyo'r rhai sydd mewn angen, ar sail ieuenctid, oedran, salwch, anabledd, caledi ariannol neu anfantais arall;

ng) hyrwyddo lles anifeiliaid;

h) hybu effeithlonrwydd lluoedd arfog y Goron, neu effeithlonrwydd yr heddlu, gwasanaethau tân ac achub neu'r gwasanaethau ambiwlans;

i) dibenion eraill sy'n cael eu cydnabod fel dibenion elusennol ar hyn o bryd ac unrhyw ddibenion elusennol newydd sy'n debyg i ddiben elusennol arall.

Fe gewch fwy o wybodaeth am ddibenion elusennol yn ein Sylwadau ar y Disgrifiadau o Ddibenion Elusennol yn y Ddeddf Elusennau.

Budd Cyhoeddus

Mae dwy brif egwyddor i fudd cyhoeddus ac o fewn pob egwyddor mae rhai ffactorau pwysig y mae'n rhaid eu hystyried ym mhob achos, sef:

Egwyddor 1: Rhaid bod budd neu fuddiannau canfyddadwy

Egwyddor 1a. Rhaid bod yn glir beth yw'r buddiannau

Egwyddor 1b. Rhaid i'r buddiannau fod yn gysylltiedig â'r amcanion

Egwyddor 1c. Rhaid pwyso a mesur buddiannau yn erbyn unrhyw anfantais neu niwed

Egwyddor 2: Rhaid bod budd i'r cyhoedd, neu garfan o'r cyhoedd

Egwyddor 2a. Rhaid i'r buddiolwyr fod yn briodol i'r amcanion

Egwyddor 2b. Os cynigir budd i garfan o'r cyhoedd, rhaid i'r cyfle i roi budd beidio â chael ei gyfyngu'n afresymol:

  • gan gyfyngiadau daearyddol neu gyfyngiadau eraill; neu
  • gan allu i dalu unrhyw ffioedd a godir

Egwyddor 2c. Ni ellir eithrio pobl dlawd o'r cyfle i gael budd

Egwyddor 2ch. Rhaid i unrhyw fuddiannau preifat fod yn atodol

Mae egwyddorion budd cyhoeddus yn gymwys i bob elusen, beth bynnag fo'i hamcanion. Rhaid i bob elusen allu dangos bod ei hamcanion er budd y cyhoedd. Mae penderfyniadau ynghylch budd cyhoeddus yn ystyried a yw sefydliad unigol yn elusen neu beidio ac nid yw mathau arbennig o elusennau neu grwpiau o elusennau cyfan er budd y cyhoedd.

Egwyddorion Budd Cyhoeddus

Egwyddor 1: Rhaid bod budd neu fuddiannau canfyddadwy

Egwyddor 1a. Rhaid bod yn glir beth yw'r buddiannau

Rhaid bod yn glir pa fuddiannau gaiff y cyhoedd drwy gyflawni amcanion yr elusen. Mae enghreifftiau o fathau gwahanol o fudd yn cynnwys darparu tai i'r digartref neu roi gofal meddygol i'r sâl. Dylai fod modd adnabod a disgrifio'r buddiannau a ddarperir ond nid yw hynny'n golygu bod rhaid cael modd o feintioli neu fesur y buddiannau hynny; caiff buddiannau na ellir eu meintioli eu hystyried ar yr amod ei bod yn glir beth yw'r buddiannau hynny.

Mae'r rhan fwyaf o'r buddiannau yn amlwg ond weithiau bydd angen tystiolaeth arnom yn dibynnu ar y math o fudd a ddarperir. Weithiau gall budd gael ei ddangos trwy gonsensws barn gwrthrychol a gwybodus. Mewn rhai achosion gallwn ofyn am dystiolaeth o farn annibynnol, arbenigol gan rywun sy'n gymwys i'w rhoi. Fel arfer, ymddiriedolwyr y sefydliad fydd yn darparu tystiolaeth bod amcanion eu sefydliad er budd y cyhoedd ond weithiau bydd angen i ni ystyried tystiolaeth o ffynonellau eraill.

Egwyddor 1b. Rhaid i'r buddiannau fod yn gysylltiedig â'r amcanion

Rhaid i'r buddiannau fod yn gysylltiedig ag amcanion yr elusen, felly ni fydd buddiannau sy'n deillio o waith yr elusen sydd heb unrhyw gysylltiad â'i hamcanion yn cael eu hystyried. Os oes mwy nag un amcan gan elusen, mae'n rhaid i bob un o'r amcanion hyn fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus; ni fydd yn ddigon i rai amcanion ei fodloni yn unig.

Egwyddor 1c. Rhaid pwyso a mesur buddiannau yn erbyn unrhyw anfantais neu niwed

Yn olaf, rhaid pwyso a mesur buddiannau yn erbyn unrhyw anfantais neu niwed sy'n codi. Gallai enghreifftiau o anfantais neu niwed gynnwys rhywbeth sy'n niweidiol i'r amgylchedd neu iechyd meddyliol neu gorfforol neu sy'n annog casineb tuag at eraill. Wrth farnu a yw'r niwed hwn yn codi neu beidio, byddai angen i ni weld tystiolaeth bendant; ni fyddwn yn ei gymryd yn ganiataol. Os oes mwy o niwed na budd, neu os yw amcanion yr elusen yn anghyfreithiol neu'n ffug, ni fyddai'n elusennol.

Egwyddor 2: Rhaid bod budd i'r cyhoedd, neu garfan o'r cyhoedd

Egwyddor 2a. Rhaid i'r buddiolwyr fod yn briodol i'r amcanion

Er bod hyn efallai'n dweud yr hyn sy'n amlwg, mae'r hyn sy'n cael ei ystyried fel y 'cyhoedd' neu 'garfan o'r cyhoedd' yn amrywio yn ôl yr amcanion elusennol. Weithiau bwriedir i amcanion elusen gynnig budd i'r cyhoedd yn gyffredinol, neu weithiau garfan benodol o'r cyhoedd. Bydd pwy sy'n cael budd, a sut, yn dibynnu ar amcanion y sefydliad. Mae ystyried pwy y mae amcanion yr elusen yn bwriadu cynnig budd iddynt yn bwysig wrth benderfynu a yw'r gofyniad budd cyhoeddus yn cael ei fodloni.

Nid yw'n fater syml o rifau, ond ni ddylai nifer y bobl a all gael budd fod yn ddibwys. Rhaid i'r 'dosbarth' o bobl a all gael budd fod yn ddigon mawr neu agored yn wyneb yr amcan elusennol sy'n cael ei gyflawni. Gall nifer y bobl sy'n cael budd ar unrhyw adeg fod yn weddol fach ar yr amod bod unrhyw un a allai gael y budd yn gymwys. Felly, er enghraifft, mae'n iawn i gynnig nifer fach o ystafelloedd yn unig mewn cartref nyrsio ar yr amod bod modd ystyried unrhyw un sy'n gymwys i wneud cais ar gyfer y llefydd cyfyngedig hynny.

Mae'n bwysig nad yw'r cyfle i gynnig budd wedi'i gyfyngu'n afresymol yn wyneb natur amcanion yr elusen a'r adnoddau sydd ganddi. Os cynigir budd i 'garfan o'r cyhoedd' yn hytrach na'r cyhoedd yn gyffredinol, rhaid i'r cyfyngiadau fod yn rhesymol ac yn berthnasol i amcanion yr elusen. Os nad ydynt, bydd yn effeithio ar fudd cyhoeddus.

Egwyddor 2b. Os cynigir budd i garfan o'r cyhoedd, rhaid i'r cyfle i roi budd beidio â chael ei gyfyngu'n afresymol:

  • gan gyfyngiadau daearyddol neu gyfyngiadau eraill; neu
  • gan allu i dalu unrhyw ffioedd a godir

Mae'r ffyrdd y gall cyfyngiadau fod yn berthnasol i 'ddosbarth' o bobl sy'n gallu cael budd yn cynnwys cyfyngiadau daearyddol, y rhai sy'n cynnwys angen elusennol, megis tlodi, oedran neu salwch, a'r rhai sy'n cynnwys nodweddion personol, megis rhyw, hil neu grefydd er enghraifft. Byddwn yn ystyried yr amgylchiadau ym mhob achos wrth benderfynu a yw'r cyfyngiad yn rhesymol. Ni ddylai elusennau gael eu gweld fel 'clybiau cyfyngedig' y gall rhai pobl yn unig ymuno â nhw. Felly, os yw amcanion elusen yn fwy caeedig, yn edrych y tu mewn ac yn ddethol, gall fod angen mwy o gyfiawnhad dros y cyfyngiad.

Gall a bydd nifer o wahanol fathau o elusennau yn codi tâl am eu gwasanaethau neu gyfleusterau. Gall elusennau godi ffi sy'n fwy na chost y gwasanaethau neu'r cyfleusterau hynny, ar yr amod bod y ffi yn rhesymol ac yn angenrheidiol er mwyn cyflawni amcanion yr elusen, er enghraifft, cynnal neu ddatblygu'r gwasanaeth a ddarparwyd. Fodd bynnag, os mai effaith ymarferol codi tâl yw cyfyngu'r buddiannau i'r bobl hynny sy'n gallu fforddio talu'r ffi a godir, gall olygu nad yw'r buddiannau ar gael i garfan ddigonol o'r cyhoedd.

Egwyddor 2c. Ni ellir eithrio pobl dlawd o'r cyfle i gael budd

Nid yw'r ffaith y codir tâl am y gwasanaethau ac felly cânt eu darparu'n bennaf i'r bobl sy'n gallu fforddio talu yn golygu o reidrwydd nad yw amcanion y sefydliad er budd y cyhoedd. Fodd bynnag, os yw sefydliad yn eithrio pobl o'r cyfle i gael budd oherwydd na allant dalu'r ffioedd, ni fyddai ei amcanion er budd y cyhoedd. Yn arbennig, ni ellir gwahardd pobl dlawd o'r cyfle i gael budd. Felly, er enghraifft, ni fyddai'n ddigon i leihau ffioedd uchel iawn ryw ychydig er mwyn cynnig modd i fwy o bobl 'incwm canol' gael budd, pe byddai pobl dlawd yn parhau i gael eu heithrio o'r cyfle i gael budd.

Yn gyffredinol, po isaf y ffioedd a godir, mwyaf y cyfle y bydd i'r rhan fwyaf o bobl gael budd. Ond os yw'r ffioedd a godir yn uchel iawn, o reidrwydd efallai, bydd rhaid i ymddiriedolwyr yr elusennau hynny feddwl am ffyrdd eraill y gall pobl na all fforddio'r ffioedd gael budd mewn rhyw ffordd berthnasol sy'n gysylltiedig ag amcanion eu helusen. Nid yw hyn yn golygu bod rhaid i elusennau gynnig gwasanaethau am ddim, neu gynnig consesiynau ar ffioedd, er yn amlwg byddai hynny'n helpu. Gallai fod ffyrdd eraill o gynnig budd i bobl na all fforddio'r ffioedd mewn ffordd sy'n gysylltiedig â'r amcanion. Er enghraifft, un ffordd o wneud hynny fyddai ysgol annibynnol sy'n gweithio mewn partneriaeth ag ysgol y wladwriaeth leol, neu gallai elusen y celfyddydau ddarlledu cyngherddau neu berfformiadau operatig ar y teledu neu'r radio i gynulleidfa ehangach. Yr hyn sy'n bwysig yw nad yw pobl na all dalu yn cael eu heithrio o'r cyfle i gael budd, os ydynt yn dewis achub ar y cyfle hwnnw neu beidio.

Egwyddor 2ch. Rhaid i unrhyw fuddiannau preifat fod yn atodol

Os yw pobl neu sefydliadau yn cael budd gan elusen, heblaw fel buddiolwr, rhaid i'r mathau hynny o fuddiannau 'preifat' fod yn atodol, sy'n golygu eu bod yn ganlyniad angenrheidiol, neu'n isgynnyrch, ymgymryd ag amcanion yr elusen. Os yw buddiannau preifat yn fwy nag atodol, gallai olygu bod y sefydliad wedi'i ffurfio er budd preifat, yn hytrach na budd cyhoeddus, ac felly mae'n bosibl na fydd yn elusennol.

Adrodd am fudd cyhoeddus eich elusen

Mae dyletswydd newydd ar ymddiriedolwyr elusen i adrodd am fudd cyhoeddus eu helusen yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr. Bydd lefel y manylion y bydd angen i chi eu darparu yn eich adroddiad budd cyhoeddus yn dibynnu a yw eich elusen yn uwch neu'n is na'r trothwy archwilio. Mae archwiliad yn ofynnol os yw incwm gros yr elusen yn y flwyddyn yn fwy na £500,000, neu os yw'r incwm yn fwy na £100,000 ac mae cyfanswm gwerth ei hasedau yn fwy na £2.8 miliwn. Mae'r rhan fwyaf o elusennau eisoes yn esbonio eu gweithgareddau yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr ac felly mae angen i'r wybodaeth hon gael ei gosod bellach yng nghyd-destun amcanion yr elusen i ddangos sut mae'r amcanion wedi cael eu cyflawni er budd cyhoeddus.

Hefyd bydd angen i ymddiriedolwyr gadarnhau eu bod wedi ystyried ein canllawiau budd cyhoeddus pan fo'n berthnasol.

Ar gyfer elusennau llai, sy'n is na'r trothwy archwilio, mae'n ofynnol i'r ymddiriedolwyr gynnwys crynodeb byr yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr o'r prif weithgareddau a wnaed i gyflawni amcanion yr elusen er budd cyhoeddus. Wrth gwrs, gall ymddiriedolwyr roi datganiadau budd cyhoeddus llawnach os dymunant.

Ar gyfer elusennau mwy, sy'n uwch na'r trothwy archwilio, mae'n ofynnol i ymddiriedolwyr ddarparu esboniad llawnach yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr o'r gweithgareddau arwyddocaol a wnaed i gyflawni amcanion yr elusen er budd y cyhoedd, yn ogystal â'u hamcanion a'u strategaethau. Mae'n ofynnol iddynt esbonio llwyddiannau'r elusen, wedi'u mesur trwy gyfeirio at amcanion yr elusen a'r amcanion a osodwyd gan yr ymddiriedolwyr. Yr ymddiriedolwyr elusen sy'n penderfynu faint o fanylion yr hoffent eu rhoi i ddangos yn eglur beth mae eu helusen wedi'i wneud yn y flwyddyn dan sylw i fodloni'r gofyniad; ni fydd y Comisiwn yn pennu nifer y geiriau neu'r tudalennau sydd eu hangen. Ond byddai elusen sydd heb ddweud unrhyw beth am fudd cyhoeddus yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr, neu sydd wedi cynnwys datganiad byr iawn yn unig heb unrhyw fanylion, yn gweithredu'n groes i'r gofyniad i adrodd am fudd cyhoeddus.

Asesu budd cyhoeddus

Bydd y Comisiwn Elusennau yn asesu a yw amcanion yr holl sefydliadau sy'n gwneud cais i gofrestru fel elusennau er budd cyhoeddus. Mae'n rhaid i elusennau sydd eisoes wedi cofrestru barhau i fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus. Gwnawn hyn trwy ymgymryd ag astudiaethau ymchwil i'r graddau y mae'r mathau gwahanol o elusennau yn bodloni'r gofyniad, a thrwy gydweithio â chynrychiolwyr proffesiynol a chyrff mantell a gyda defnyddwyr yr elusennau hynny.

Mewn rhai achosion, mae'n bosibl y bydd angen i ni asesu elusennau unigol yn fanwl. Os oes angen gwneud hyn, byddwn yn cynghori'r ymddiriedolwyr ar yr hyn y mae angen ei newid er mwyn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, gan roi rhesymau clir a chyngor ar yr hyn sy'n digwydd nesaf os nad yw'n bosibl i'r sefydliad fodloni'r gofyniad. Ni ddisgwylir i unrhyw elusen wneud newidiadau dros nos a byddwn yn ystyried faint o amser ac adnoddau y gall fod ei angen ar elusen sy'n gorfod gwneud newidiadau er mwyn bodloni'r gofyniad. Gall elusen neu unrhyw un a effeithir gan un o'n penderfyniadau budd cyhoeddus, sy'n anghytuno â'r penderfyniad, geisio adolygiad o'r penderfyniadau hwnnw trwy ddefnyddio ein gweithdrefnau adolygu penderfyniadau mewnol ac, os oes angen, gyflwyno apeliadau pellach i'r Tribiwnlys Elusennau newydd ac, yna i'r llysoedd. Ond trwy gydweithio'n adeiladol ag ymddiriedolwyr elusen ac ymgynghori'n eang â'r cyhoedd ar ein canllawiau budd cyhoeddus, byddem yn gobeithio y byddai achosion o'r fath yn anghyffredin.

I gael mwy o wybodaeth ewch i www.charitycommission.gov.uk/Charity_requirements_guidance/Charity_essentials/Public_benefit/default.aspx

Talu ymddiriedolwyr am gyflenwi gwasanaethau

Mae'r Ddeddf wedi cyflwyno pŵer cyfyngedig i gynnig modd i ymddiriedolwyr gael eu talu am ddarparu nwyddau a gwasanaethau i'w helusen, ar yr amod bod amodau caeth yn cael eu bodloni. Daw'r ddarpariaeth hon i rym ym mis Chwefror. Nid yw'n caniatáu cynnig tâl am fod yn ymddiriedolwr, ac nid yw'n cwmpasu cyflogaeth ran-amser neu amser llawn gyda'r elusen.

Mae'r pŵer newydd yn cynnig modd i ymddiriedolwyr dderbyn tâl am ddarparu gwasanaethau proffesiynol neu fusnes i'w helusen, sy'n fwy na dyletswyddau arferol ymddiriedolwyr. Mae'n cwmpasu, er enghraifft, gwaith cyfreithiol, ysgrifenyddol, cyfrifyddol, adeiladu a chynnal a chadw, neu gyflenwi nwyddau i'r elusen. Mae hefyd yn gymwys os yw'r taliad yn golygu buddiannau 'o fath eraill', megis llety rhad neu ar gyfradd ostyngol.

Mae'r pŵer hefyd yn gymwys i wasanaethau a ddarperir gan unigolion neu gwmnïau sy'n gysylltiedig ag ymddiriedolwr.

Byddwn yn cyhoeddi canllawiau newydd cyn bo hir, 'Taliadau a Threuliau Ymddiriedolwyr' (CC11) a fydd yn esbonio'n fwy manwl sut y gall elusennau ddefnyddio'r pŵer newydd.

Cofiwch nid yw taliadau ar gyfer treuliau hanfodol yn cael eu hystyried yn rhai sy'n cynnig budd personol i ymddiriedolwyr, ac nid oes angen unrhyw awdurdod arbennig ar eu cyfer - mae'r gyfraith eisoes yn caniatáu ar gyfer talu treuliau rhesymol i ymddiriedolwyr.

Ein strategaeth ar waith

Clic ar-lein ac ennill arian i'ch elusen

Cwblhewch Ffurflen Flynyddol neu Ffurflen Diweddaru Gwybodaeth eich elusen yn y ffordd hawdd trwy ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein gwell a chewch gyfle i ennill £1000 i'ch elusen. Rydym yn cynnal raffl fisol i annog elusennau sy'n defnyddio ein gwasanaeth ar-lein i ddiweddaru eu cofnodion. Mae'r raffl fawr, a gafodd ei lansio ym mis Gorffennaf, yn cynnig gwobrau o £1000 bob mis.

Mae defnyddio'r gwasanaeth ar-lein yn helpu i gwtogi'r amser a dreulir ar waith papur. Mae ar gael trwy'r dydd a nos ac yn cadarnhau'n syth bod gwybodaeth eich elusen wedi cael ei derbyn yn ddiogel.

Mae gwasanaethau ar-lein ar gael yn uniongyrchol ar ein tudalen Hafan. Os oes angen cyfrinair newydd arnoch pan fyddwch yn mewngofnodi i'r gwasanaeth, nodwch rif cofrestredig eich elusen a chewch y cyfrinair newydd o fewn 24 awr trwy'r e-bost - os oes cyfeiriad e-bost gennym ar gyfer eich elusen - neu o fewn 3 diwrnod trwy'r post.

Hefyd, gallwch anfon fersiynau pdf atom o'ch cyfrifon ac Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr ar-lein, ac rydym yn gobeithio ehangu'r cyfleuster hwn i gynnwys dogfennau Word ac Excel erbyn diwedd y flwyddyn. Gweler y cyswllt 'Clic ar-lein' ar ein tudalen Hafan i gael mwy o wybodaeth am wasanaethau ar-lein.

Mwy o eglurder i ymgyrchwyr

Bydd nifer o elusennau yn ymgyrchu'n ddiflino i sicrhau newid cymdeithasol fel rhan allweddol o'u gwaith, ac mae nifer o elusennau eraill eisiau cael y dewis i ymgymryd ag ymgyrchu a gweithgaredd gwleidyddol yn gyson. Ond teimlai rhai nad yw'r math hwn o weithgaredd yn rhywbeth y gallant ei wneud a gallant hunan-sensro eu hunain yn ddiangen.

Ers cyhoeddi ein canllaw diwethaf ar ymgyrchu a gweithgaredd gwleidyddol yn 2004, cawsom adborth bod rhai o'r termau a ddefnyddir yn ddryslyd ac nid mor glir ag y gallent fod. Ar ôl gweithio gyda sawl elusen, arbenigwyr cyfreithiol a sector, byddwn yn cyhoeddi canllawiau newydd cyn bo hir ar y mater. Gobeithio y bydd yn egluro i elusennau i ba raddau y mae rhyddid ganddynt i ymwneud â'r math hwn o waith o fewn y gyfraith a thelerau eu dogfennau llywodraethol.

Gwyliwch am y canllaw hwn ar ein gwefan o dan 'Cyhoeddiadau' yn gynnar yn y gwanwyn.

Gwefan newydd yn cynnig siop dan yr unto i bawb

Ni fydd darllenwyr Newyddion y Comisiwn Elusennau sydd heb edrych ar ein gwefan am beth amser yn ymwybodol ei bod wedi cael ei hailwampio a'i hail-lansio ers mis Gorffennaf. Mae'r ailwampio yn golygu ei bod yn haws i ymddiriedolwyr ddiweddaru gwybodaeth am eu helusen ar-lein, anfon cyfrifon a ffeilio Ffurflenni Blynyddol ar adeg sy'n gyfleus iddyn nhw.

Mae'r safle newydd hefyd yn cynnwys offer chwilio yn seiliedig ar Google a strwythur symlach, sy'n ei gwneud hi'n haws ac yn gyflymach i gael hyd i'n cyngor a'n harweiniad. Mae'r safle yn cynnwys 'Browsealoud', nodwedd sy'n darllen tudalennau'r we yn uchel i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd i ddarllen ar-lein.

Gyda mwy na 39 miliwn o ymweliadau â'r safle y llynedd, rydym yn gobeithio y bydd y newidiadau hyn yn ei gwneud hi'n fwy cyflym, hawdd a defnyddiol.

Adroddiadau arobryn

Yr haf diwethaf, roedd ein gwefan ar ei newydd wedd wedi gwneud cyflwyno cyfrifon ar-lein yn haws ac yn gyflymach. Mae gwella safonau adrodd ar-lein yn ddatblygiad sy'n fwyfwy pwysig ac mae Gwobrau Cyfrifon Elusennau Ar-lein y Charity Aid Foundation yn gwobrwyo'r rhai gorau. I gael rhai syniadau da ar gyfer adroddiadau ar-lein eich elusen ewch i www.cafonline.org i weld yr enillwyr.

Mae gan elusennau'r GIG ofynion adrodd arbennig o gymhleth ond maent hefyd dan bwysau arbennig i gynhyrchu cyfrifon ac adroddiadau clir ac ystyrlon. Eleni, roedd yr Healthcare Financial Management Association wedi lansio Gwobr Adroddiadau Elusennau'r GIG yn benodol ar gyfer yr elusennau hyn. Eto, i weld yr enillwyr ewch i http://www.hfma.org.uk

Dychwelyd asedau i'r gymuned

Gall ymddiriedolaethau fod yn ymddiriedolaethau cwsg am amrywiaeth helaeth o resymau, gan gynnwys ymddiriedolwyr sy'n ei chael hi'n rhy anodd i'w gweinyddu.

Er mwyn helpu ailfywiogi asedau cwsg, mae Community Foundation Network wedi lansio BOOST, menter i helpu ailddefnyddio'r asedau hyn i'r buddiolwyr y cawsant eu rhoi yn wreiddiol i'w helpu.

Gall ymddiriedolwyr gael mwy o wybodaeth am BOOST trwy ymweld â gwefan Comunity Foundation Network yn www.communityfoundations.org.uk

Ac os ydych yn ymddiriedolwr elusen sydd wedi canfod asedau cwsg y mae modd eu hailddefnyddio, cofiwch fod pwerau gan y Comisiwn i helpu gwneud hyn yn bosibl.

Canllaw newydd i ymddiriedolwyr ar godi arian

Mae canllaw ar-lein newydd yr Institute of Fundraising yn annog ymddiriedolwyr i chwarae rôl fwy blaenllaw yng ngwaith codi arian eu helusennau. Mae'r Canllaw Ymddiriedolwyr ar Godi Arian yn cwmpasu popeth y mae angen i ymddiriedolwr ei wybod am godi arian, gan gynnwys rhwymedigaethau ymddiriedolwyr, cyllido cynaliadwy, technegau codi arian, rhoi treth-effeithiol, yn ogystal â materion cyfreithiol a moesegol.

Gallwch lwytho i lawr eich canllaw o: www.institute-of-fundraising.org.uk

Cwestiynau, cwestiynau

Cw. Sut galla i gael copi o gyfrifon elusen gofrestredig neu ei dogfen lywodraethol gennych chi?

A. Gallwch gael copïau o gyfrifon elusennau sy'n cael eu cadw ar y Gofrestr Elusennau o'n Cofrestr ar-lein. Gallwch deipio enw elusen neu rif cofrestredig elusen o'r Hafan ac fe welwch ei chofnod ar y Gofrestr. O'r fan honno, sgroliwch i lawr i'r tabl 'Postio a Manylion' yr elusen. Os yw'r cyfrifon ar gael ar gyfer yr elusen honno fe welwch y cyswllt 'I weld cyfrifon cliciwch yma' yn union uwchben y tabl - dilynwch y cyswllt i weld beth sydd ar gael.

Hefyd gallwn anfon copïau papur atoch o gyfrifon neu ddogfennau llywodraethol elusen gofrestredig. Codwn dâl bach am hyn ond nid ydym yn codi tâl ar unrhyw ymddiriedolwr, gweithiwr neu swyddog elusen sydd eisiau copïau o gyfrifon neu ddogfennau llywodraethol ei elusen ei hun.

Dim ond elusennau gydag incwm gros neu gyfanswm gwariant o fwy na £10,000 mewn blwyddyn ariannol sy'n gorfod anfon cyfrifon atom, felly mae'n bosibl y bydd angen i chi gysylltu â'r elusen yn uniongyrchol. Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i elusennau ymateb i geisiadau rhesymol o'r fath ond gallan nhw godi tâl bach am wneud hynny.

Cw. Dwi wedi clywed bod y gofynion ar gyfer cofrestru wedi newid. Sut?

A. Ers Ebrill 2007, mae newidiadau i'r gyfraith yn golygu mai dim ond elusennau gydag incwm blynyddol o fwy na £5k sy'n gorfod cofrestru gyda ni. Cyn hynny, y trothwy incwm oedd £1k. Mae'r cynnydd yn y trothwy yn golygu nad oes rhaid i elusennau gydag incwm blynyddol o lai na £5k gofrestru. Arferai fod yn ofynnol i bob elusen, beth bynnag fo'i hincwm, gofrestru os oedd gwaddol parhaol gan yr elusen neu os oedd yn defnyddio neu'n meddiannu tir. Nid yw'r gofyniad hwnnw yn bodoli mwyach.

Bydd y gofynion cofrestru ar gyfer elusennau 'sydd wedi'u heithrio' a rhai elusennau 'sydd wedi'u hesgusodi' rhag cofrestru yn newid hefyd o ganlyniad i Ddeddf Elusennau 2006. Pan ddaw'r darpariaethau perthnasol i rym, bydd rhaid iddyn nhw gofrestru gyda ni os yw eu hincwm blynyddol gros yn fwy na £100k.

Pan fydd y broses o gofrestru'r elusennau hyn sydd wedi'u heithrio a'u hesgusodi wedi cael eu cwblhau, gall elusennau sy'n is na'r trothwyon ofyn i ni eu cofrestru yn wirfoddol.

Am atebion llawn i gannoedd o gwestiynau am weinyddu'ch elusen ewch i'r cyfleuster Cwestiynau Cyffredin sydd ar gael yn uniongyrchol o'n Hafan o dan 'Gofyn Cwestiwn i'r Comisiwn'.

Sut i gysylltu â ni

Comisiwn Elusennau Uniongyrchol am ymholiadau cyffredinol ac i gysylltu ag unrhyw un o'n swyddfeydd:

Comisiwn Elusennau Uniongyrchol
Blwch SP 1227
Lerpwl
L69 3UG

Ffôn: 0845 300 0218
Typetalk: 0845 300 0219
E-bost

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwis