Mae naw cartref newydd wedi'u codi yn Edmonton fel rhan o dreial domestig yn y maes gan yr Adran Masnach a Diwydiant (DTI). Yn lle teils cyffredin ar y to, mae teils arbennig wedi'u gosod, a'r rheiny wedi'u gwneud o gelloedd ffotofoltäig (PV). Mae'r toeon yn cynhyrchu rhwng 0.96 a 2.35kW o bwer trydanol yr un, yn ôl arwynebedd y teils. Bydd y cartrefi'n cynhyrchu cyfanswm o ryw 12MWh o ynni trydanol y flwyddyn, gan arbed tua 5.2 tunnell o garbon deuocsid rhag cael eu gollwng i'r atmosffer.
Archfarchnad yn Nottingham oedd y siop Tesco gyntaf i ddefnyddio ynni haul adnewyddadwy. Cafodd 96 o baneli ffotofoltäig (PV) eu gosod ar do'r orsaf betrol yn y siop, yn ardal Hucknall yn y ddinas.
Mae gan y system PV y gallu i gynhyrchu cyfanswm o 15kW. Bydd yn cynhyrchu 12.5MWh o drydan y flwyddyn - sef 20 y cant o anghenion ynni yr orsaf betrol. Bydd y 3,500 o gwsmeriaid y dydd sy'n defnyddio'r siop yn gallu gweld mesurydd sy'n dangos faint o ynni sy'n cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio.