Polisi preifatrwydd
Mae’r dudalen hon yn esbonio polisi preifatrwydd yr Adran Gwaith a Phensiynau a sut y byddwn yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn amdanoch chi pan fyddwch yn ymweld â’r wefan hon.
- Sut y byddwn yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth
- Y Ddeddf Diogelu Data
- E-bost
- Cwcis
- Cysylltiadau â gwefannau eraill
- Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn
Sut y byddwn yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn casglu gwybodaeth at ddibenion nawdd cymdeithasol (gan gynnwys Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor), cynhaliaeth plant, niwed trwy frechiad, cyflogaeth a hyfforddiant, y Cynllun Cymorth Ariannol, hyrwyddo cynllunio ariannol ar gyfer ymddeoliad, a pholisïau sy’n gysylltiedig â chynlluniau pensiwn galwedigaethol a phersonol. Mae’r wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch yn dibynnu ar y rheswm dros eich busnes gyda ni, ond gallwn ddefnyddio’r wybodaeth at unrhyw un o’r dibenion hyn.
Gallwn wirio gwybodaeth amdanoch chi gyda gwybodaeth arall sydd gennym. Gallwn gael gwybodaeth amdanoch oddi wrth bobl eraill a rhai sefydliadau eraill. Gallwn roi gwybodaeth i rai sefydliadau eraill, pan fydd y gyfraith yn caniatáu hynny, er mwyn:
- gwirio pa mor gywir yw’r wybodaeth
- atal neu ganfod troseddau
- diogelu cyllid cyhoeddus mewn ffyrdd eraill
- ar gyfer gwaith ymchwil neu ystadegau.
Ymhlith y sefydliadau eraill hyn mae adrannau eraill y llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff yn y sector preifat fel banciau a sefydliadau a allai fenthyg arian i chi. Ni fyddwn yn rhoi gwybodaeth amdanoch chi i unrhyw un y tu allan i’n Hadran oni bai bod y gyfraith yn caniatáu hynny.
Y Ddeddf Diogelu Data
Yr Adran Gwaith a Phensiynau yw’r Rheolydd Data at ddibenion y Ddeddf Diogelu Data.
Nid yw’n gwefan yn gadael i’n hymwelwyr gyfathrebu ag ymwelwyr eraill nac iddynt bostio gwybodaeth er mwyn i eraill gael mynediad ati.
Os hoffech ddysgu mwy am ba wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, neu am y modd y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth, ewch i DWP a'ch gwybodaeth bersonol (50KB) ![]()
I gael gwybod mwy am y wybodaeth bersonol rydym yn ei gadw amdanoch, ewch i'n Siarter Gwybodaeth (34KB) ![]()
E-bost
Mae e-bost y Rhyngrwyd yn ffordd o ymholi’n gyffredinol ond nid yw’n ffordd ddiogel o anfon gwybodaeth bersonol. Yn anffodus, ni all yr Adran Gwaith a Phensiynau ddelio ag ymholiadau penodol dros e-bost. Os byddwch yn anfon e-bost atom, efallai y byddwn yn cadw copi er gwybodaeth ac at ddibenion archwilio.
Cwcis
Darnau bach o wybodaeth a anfonwyd i’ch cyfrifiadur neu ddyfais arall pan fyddwch yn ymweld â gwefan yw cwcis. Efallai y byddwn yn defnyddio cwcis i gadw gwybodaeth er mwyn cael mynediad ati pan fyddwch yn ymweld â’n safe yn y dyfodol. Gwnawn hyn er mwyn:
- gwella eich profiad o rai o’n gwasanaethau ar-lein
- gwella ein dealltwriaeth o sut y mae pobl yn defnyddio ein gwefan
- mesur effeithiolrwydd hysbysebu ar-lein.
Ni fyddwn yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth bersonol am ymwelwyr â gwefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Os byddwch yn dileu cwcis neu’n gosod eich porydd i wrthod cwcis, ni allwch ddefnyddio rhai o’n gwasanaethau.
Mae rhagor o wybodaeth am gwcis ar gael yn AboutCookies.org
Cysylltiadau â gwefannau eraill
Mae gwefan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnwys cysylltiadau â gwefannau eraill. Dim ond i wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau y mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol. Pan fyddwch yn symud i wefan arall, bydd angen i ddarllen datganiad preifatrwydd y safle hwnnw.
Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn
Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid, byddwn yn diweddaru’r dudalen hon. Darllenwch y dudalen hon i sicrhau eich bod yn ymwybodol o ba wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio, a’r amgylchiadau y byddem yn ei rhannu â sefydliadau eraill.