Adolygiad FAS o Asedau Cynllun
Yn ei lythyr at Aelodau Seneddol ar 23 Ebrill 2007 lansiodd y Gweinidog Gwladol dros Ddiwygio Pensiynau, James Purnell, adolygiad i archwilio p'un a ellid trin arian sy'n weddill mewn cynlluniau pensiwn yr effeithir arnynt mewn ffordd amgen er mwyn ategu'r arian a ymrwymwyd gan y Llywdoraeth tuag at y Cynllun Cymorth Ariannol.
Andrew Young o Adran Actiwari'r Llywodraeth a arweiniodd yr adolygiad ac fe'i cynghorwyd gan banel o arbenigwyr allanol amlwg, a roddodd gymorth ar draws ystod eang o feysydd arbenigol a thechnegol.
Gallwch ddarllen rhagor ar aelodau'r tim adolygu.
Gallwch ddarllen y cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad.
Adroddiad terfynol
Cyhoeddwyd Adroddiad
terfynol
(1.32MB)
ar 17 Rhagfyr 2007.
Yn yr adroddiad terfynol hwn mae tîm yr Adolygiad yn edrych ar:
- gwerth asedau mewn cynlluniau FAS, eu perchenogaeth a'u stiwardiaeth;
- defnyddiau posibl o'r asedau hyn a ph'un a oes opsiynau ar gyfer cynyddu gwerth;
- symleiddio'r strwythur buddiannau mewn FAS;
- costau FAS;
- ffynonellau ariannu di-dreth; a
- cynlluniau pensiwn sydd wedi dirwyn i ben heb ddigon o arian ynddynt gyda chyflogwyr diddyled.
Cyhoeddwyd adroddiad
dros dro yr Adolygiad (420KB)
ar
16 Gorffennaf 2007.