Goroeswyr a’r Cynllun Cymorth Ariannol (FAS)
Beth yw goroeswr?
Ar gyfer FAS, goroeswr yw’r wraig, gwr neu bartner sifil sy’n goroesi aelod neu gyn aelod o gynllun pensiwn cymwys a fu farw ar ôl i’r cynllun gychwyn dirwyn i ben
Mae hyn yn golygu, i oroeswr gael ei ystyried ar gyfer FAS, byddai angen i’w diweddar bartner (‘yr aelod’) gyfarfod y criteria oedran ar gyfer FAS. Yn gyfredol mae hyn yn golygu eu bod wedi bod o fewn tair blynedd o oedran ymddeol arferol eu cynllun pensiwn, neu’n hyn, ar 14 Mai 2004, mae’r estyniad FAS, a ddaeth i rym ar 15 Rhagfyr 2006, yn ymestyn y criteria oedran ymddeol arferol i’r rhai sydd o fewn 15 mlynedd o oedran ymddeol arferol eu cynllun ar 14 Mai 2004 ac i’w goroeswyr.
Gall taliadau i oroeswyr ddechrau heb ystyried oed y goroeswr.
Beth all goroeswr ddisgwyl gan FAS?
Bydd goroeswyr yn derbyn taliad gan FAS yn unig os buasai’r aelod wedi derbyn taliad FAS. Er enghraifft, mae’n bosib y gallai aelod fod yn gymwys ar gyfer FAS drwy gyfarfod â’r criteria oedran ond ni fuasent wedi derbyn taliad oherwydd roeddent eisoes yn derbyn dros 80% o’u pensiwn disgwyliedig o’u cynllun.
Mae’r swm y bydd goroeswr yn ei dderbyn gan FAS yn dibynnu ar pa mor bell oedd eu partner diweddar o’u hoedran ymddeol arferol ar 14 Mai 2004. Mae’r estyniad o FAS yn creu tri grwp ar wahan o aelodau cymwys:
- Grwp 1 aelodau – o fewn 7 mlynedd o oedran ymddeol arferol eu cynllun pensiwn ar 14 Mai 2004 a fydd yn elwa wrth i FAS ychwanegu at eu pensiynau hyd at 80% o’u ‘pensiwn disgwyliedig’ (yn destun i de minimis a cap);
- Grwp 2 aelodau – rhwng 7 ac 11 mlynedd a fydd yn cael eu hystyried ar gyfer ychwanegiad o tua 65% o’u ‘pensiwn disgwyliedig’ (yn destun i de minimis a cap);
- Grwp 3 aelodau – rhwng 12 a 15 mlynedd a fydd yn cael eu hystyried ar gyfer ychwanegiad o tua 50% o’u ‘pensiwn disgwyliedig’ (yn destun i de minimis a cap).
Mae’r estyniad i FAS yn golygu fod goroeswyr o’r grwpiau hyn o aelodau cymwys hefyd yn dod yn gymwys ar gyfer FAS.
Rydym yn deall, yn gyffredinol, fod cynlluniau pensiwn yn cynnig buddion goroeswyr o gwmpas 50% o hawliad yr aelod ac mae cynllun FAS yn adlewyrchu hyn .
Beth am goroewsyr priod yr aelodau sydd wedi marw cyn i’r dirwyn i ben ddechrau?
Bydd goroeswyr aelodau cynlluniau pensiwn a fu farw cyn i’r cynllun gychwyn dirwyn i ben yn ‘aelodau cymwys’ at bwrpas FAS, yn eu hawl eu hunan, cyn belled a’u bod yn cyfarfod y criteria cymwys. Mae hyn oherwydd y buasent wedi bod yn gymwys i daliadau pensiwn eu hunain o’r cynllun cyn iddo gychwyn dirwyn i ben.
Ar pa oedran mae goroeswr yn gymwys i daliadau FAS?
Yn arferol mae aelod cymwys yn gorfod aros tan 65 oed hyd nes iddynt dderbyn taliad FAS, nid yw goroeswr yn gorfod gwneud hyn.
Mae goroeswr i aelod cymwys yn dod i hawl ar gyfer taliadau o p’un bynnag yw’r diweddaraf o:
- 4 Mai 2004; neu
- y diwrnod ar ôl y diwrnod pan fu’r aelod cymwys farw.
- Mae taliadau yn cael eu hôl ddyddio i’r dyddiad y daeth y goroeswr yn gymwys.
Sut mae taliadau goroeswr yn cael eu cyfrifo?
Mae FAS yn gallu cyfrifo taliadau blynyddol pan mae cynllun pensiwn wedi cyflawni ei ymrwymiadau i aelod, sydd yn arferol pan mae’r dirwyn i ben wedi’i gwblhau. Penderfynir taliadau blynyddol ar gyfer goroeswyr drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau, sy’n gyffredinol yn dibynnu os bu aelodau cymwys farw yn ystod y dirwyn i ben neu wedi cwblhau’r dirwyn i ben.
- Dull A: os yw aelod cymwys yn marw wedi cwblhau’r dirwyn i ben, yn arferol bydd eu goroeswr yn derbyn hanner y swm roedd yr aelod cymwys yn ei dderbyn, neu a fyddai wedi ei dderbyn, gan FAS.
- Dull B: os yw aelod cymwys yn marw cyn i’r dirwyn i ben gael ei gwblhau, y swm arferol o gymorth sy’n daladwy i’r rhai sy’n ei goroesi fydd 50% o ‘bensiwn disgwyliedig’ yr aelod wedi’i luosi â 0.8, 0.65 neu 0.5 (yn dibynnu ar y grwp y byddai’r aelod cymwys yn perthyn iddo), namyn y ‘gwir bensiwn’ y bydd y goroeswr yn ei dderbyn o gynllun yr aelod pan mae’r cynllun yn cwblhau y dirwyn i ben.
Mae’r rheol cap a de-minimis yn berthnasol yn mhob achos.
Mae’r taliadau cyntaf yn cael eu talu ar ddisgresiwn y Rheolwr Cynllun FAS ple rydym yn disgwyl i ymrwymiadau y cynllun gael eu cyflawni ac felly ni allwn gyfrifo taliadau blynyddol.
O dan yr estyniad, y swm o gymorth sy’n daladwy i’r rhai sydd yn eu goroesi:
- ple roedd aelod cymwys hwnnw a fu farw yn aelod cymwys o Grwp1 fydd 50% o’r pensiwn disgwyliedig x 60%, llai unrhyw daliadau pensiwn dros dro a dalwyd gan y cynllun i’r goroeswr (hwn yw’r un cyfrifiad sy’n cael ei osod i oroeswyr FAS cyfredol).
- mewn unrhyw achos arall (Grwp 2 & 3) – 50% o’r pensiwn disgwyliedig x 50% llai y pensiwn dros dro taladwy i’r goroeswr hwnnw.
- Eto gosodir rheolau cap a de minimis.
Pan ddown i asesu y taliadau blynyddol ar gyfer y goroeswyr hyn rydym yn disgwyl fod Dull B fel y’i disgrifir uchod yn cael ei osod a bydd unrhyw daliadau cyntaf sydd eisoes wedi’u talu i’r goroeswr yn cael ei gymryd i ystyriaeth.
Beth ddylwn i ei wneud i gael taliad fel goroeswr?
Os oedd eich priod neu bartner sifil eisoes yn derbyn FAS yna dylai eich manylion fod gennym, a dylai taliadau i chi ddechrau ar unwaith. Os oedd eich priod neu bartner sifil wedi bod yn derbyn FAS ond nid ydych chi yn ei dderbyn, yna dylech gysylltu â ni ar y rhif isod.
Os nad oedd eich priod neu bartner sifil yn cael FAS pan fuont farw ac nad ydych chi chwaith, yna dylech gysylltu â’ch ymddiriedolwyr cynllun i ddarganfod os ydynt wedi gwneud cais ar eich rhan chi neu eich cyn briod neu bartner sifil.
Os ydych eisiau gwybodaeth pellach ynglyn â FAS cysylltwch ag Uned Weithredol FAS:
Financial Assistance Scheme (FAS)
PO Box 702
York
YO32 9XR
Ffôn: 0845 601 9942
Ffôn testun: 0845 601 9942
Oriau agor: 9am – 5.30pm dydd Llun i ddydd Gwener