This snapshot, taken on 05/03/2008, shows web content selected for preservation by The National Archives. External links, forms and search boxes may not work in archived websites.

Gwasanaethau a
budd-daliadau

Gwneud cais am adolygiad

Os bydd Rheolwr y Cynllun yn gwneud penderfyniad sy’n effeithio arnoch chi, bydd yn anfon ei benderfyniad atoch yn ysgrifenedig. Yr enw ar y penderfyniad ysgrifenedig yw ";penderfyniad adolygadwy";.

Os ydych o’r farn bod ein penderfyniad yn anghywir, neu os nad ydych chi’n deall y penderfyniad adolygadwy, gallwch ofyn i ni ei esbonio naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig. Os nad ydych chi’n fodlon â’r esboniad, gallwch ofyn i ni ei ystyried eto. Yr enw ar hyn yw adolygiad.

Ar gyfer rhai penderfyniadau, efallai y byddwch yn gallu apelio hefyd i gorff annibynnol a all newid y penderfyniad os byddant yn cytuno’i fod yn anghywir. Ewch i’r adran Gwneud cais am apêl.

Mae nifer o faterion y mae’n rhaid i Reolwr y Cynllun eu hystyried er mwyn penderfynu a fydd unigolyn yn gymwys am daliad gan y Cynllun Cymorth Ariannol (FAS) ai peidio. Y rhain yw:

Pwy gaiff wneud cais am adolygiad?

Ar gyfer penderfyniadau am Hysbysu Cynllun a Chymhwyster Cynllun, pan fydd cynllun heb orffen dirwyn i ben, gall adolygiad gael ei geisio gan:

Ar gyfer penderfyniadau am Hysbysu Cynllun a Chymhwyster Cynllun, pan fydd y cynllun wedi dirwyn i ben, gall adolygiad gael ei geisio gan

Ar gyfer penderfyniadau am Gymhwyster Aelod ac Asesiad o Aelod, gall adolygiad gael ei geisio gan:

Gall unrhyw un a all ofyn am adolygiad ysgrifennu at Reolwr y Cynllun i ofyn i rywun gael ei benodi i weithredu fel cynrychiolydd iddynt at ddibenion yr adolygiad. Gall Rheolwr y Cynllun hefyd ddewis penodi cynrychiolydd o dan rai amgylchiadau.

Sut i wneud cais am adolygiad neu esboniad

Os hoffech drafod penderfyniad, neu ofyn i ni ei esbonio, cysylltwch â ni yn Uned Weithredol yr FAS (FAS OU).

I wneud cais am adolygiad, dylech gysylltu â ni cyn gynted â phosibl ar ôl cael y penderfyniad (adolygadwy) ysgrifenedig oddi wrth Reolwr y Cynllun. Os yw’r adolygiad yn ymwneud â phenderfyniad o ran Hysbysu Cynllun neu Gymhwyster Cynllun, mae’n rhaid gwneud y cais cyn pen deufis i’r dyddiad a ddangosir ar ben y penderfyniad (adolygadwy) ysgrifenedig.

Os yw’r adolygiad yn ymwneud â phenderfyniad o ran Cymhwyster Aelod neu Asesiad o Aelod, mae’n rhaid gwneud y cais cyn pen mis i’r dyddiad a ddangosir ar ben y penderfyniad (adolygadwy) ysgrifenedig.

Os gwneir cais am adolygiad y tu allan i’r terfynau amser hyn, mae’n rhaid i chi esbonio pam na wnaed y cais hwn o fewn y terfyn amser.

O dan amgylchiadau eithriadol, mae`n bosibl y byddwn yn adolygu penderfyniad sy’n ymwneud â Hysbysu Cynllun neu Gymhwyster Cynllun y tu allan i’r terfynau amser arferol. Ni fyddwn ni’n gwneud hyn ond os bydd Rheolwr y Cynllun o’r farn ei fod yn rhesymol, a dim hwyrach na 12 mis ar ôl dyddiad ein penderfyniad (adolygadwy) ysgrifenedig.

Os hoffech wneud cais am adolygiad, dylech ysgrifennu atom yn yr FAS OU. Mae’n rhaid i chi gynnwys y wybodaeth ganlynol yn eich llythyr:

Caiff penderfyniadau sy’n ymwneud â Hysbysu Cynllun neu Gymhwyster Cynllun eu cyhoeddi ar y wefan hon (gweler yr adran Cynlluniau Pensiwn Cymwys ac a Hysbyswyd). Fel arfer, bydd yr ymddiriedolwyr neu’r rheolwyr yn gofyn i ni adolygu penderfyniadau sy’n ymwneud â Hysbysu Cynllun neu Gymhwyster Cynllun. Os nad yw’r ymddiriedolwyr neu’r rheolwyr yn fodlon â phenderfyniad, byddant yn gofyn i ni ei adolygu. Os ydych chi’n rheolwr cynllun ac o’r farn bod penderfyniad sy’n ymwneud â Hysbysu Cynllun yn anghywir, efallai y byddwch chi am gysylltu ag ymddiriedolwyr neu reolwyr y cynllun i drafod eich pryderon ac i holi a fydd yr ymddiriedolwyr neu’r rheolwyr yn gofyn i ni adolygu’r penderfyniad ai peidio. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael drwy gysylltu â’r FAS OU.

Ar gyfer cynllun pensiwn galwedigaethol, os bydd Rheolwr y Cynllun yn cael dau gais neu fwy i adolygu penderfyniad am Gymhwyster y Cynllun neu Hysbysu’r Cynllun, ac os gwneir y ceisiadau am yr un rhesymau a`u hategu gan yr un dystiolaeth ar y cyfan, gall roi un penderfyniad o adolygiad ar gyfer y ceisiadau hynny.

Sylwer, gallwch chi wirio a ydyn ni wedi cael cais am adolygiad ar eich cynllun pensiwn drwy fynd i’r tudalennau am Gynlluniau Pensiwn Cymwys ac a Hysbyswyd. Os ydyn ni wedi cael cais, dynodir hynny gan y llythyren "R" ar ddiwedd enw’r cynllun.

Person sydd â Diddordeb – Cynrychiolaethau Ysgrifenedig

Mae "Person sydd â diddordeb" yn fuddiolwr posibl neu’n fuddiolwr cynllun pensiwn neu ei g/chynrychiolydd a, lle bo’r cynllun pensiwn heb orffen dirwyn i ben, ymddiriedolwr neu reolwr y cynllun hwnnw. Os ydych chi o’r farn eich bod chi’n bodloni’r diffiniad hwn a bod gennych rywfaint o wybodaeth y dylai`r rheolwr cynllun Cymorth Ariannol, yn eich barn chi, ei hystyried mewn perthynas ag adolygiad sy’n mynd rhagddo, anfonwch eich sylwadau at reolwr y cynllun.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.