This snapshot, taken on 05/03/2008, shows web content selected for preservation by The National Archives. External links, forms and search boxes may not work in archived websites.

Gwasanaethau a
budd-daliadau

Y Newyddion Diweddaraf

Adolygiad Cynllun Cymorth Ariannol (FAS) o Adnoddau Cynllun wedi’u lansio - 23 Ebrill 2007

Ar 28 Mawrth, cyhoeddodd John Hutton yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, adolygiad i archwilio os buasai triniaeth amgenach o weddill y gronfa yn y cynlluniau pensiwn sy’n cael eu heffeithio arnynt yn gallu ychwanegu at gronfa neilltuedig y Llywodraeth o’r Cynllun Cymorth Ariannol a dod a’r taliadau o’r 80% sydd wedi’u neilltuo o gronfeydd cyhoeddus yn agosach i 90% o lefelau cymorth.

Lansiwyd yr Adolygiad ar 23 Ebrill, y dyddiad y gwnaeth James Purnell, y Gweinidog Gwladol dros Ddiwygio Pensiynau, gyhoeddi cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad.

Bydd yr Adolygiad yn darparu golwg cychwynnol yn yr haf, ymgynghori’n ffurfiol yn yr hydref ac yna adrodd erbyn diwedd 2007.

Mae Andrew Young, Actiwari Cyfarwyddo yn Adran Actiwari’r Llywodraeth yn arwain yr adolygiad. Mae’n cael ei gynghori gan banel o arbenigwyr blaenllaw allanol sydd wedi cael eu casglu ynghyd yn arbennig i ddarparu profiad mewn meysydd allweddol.

Mae’r Tîm Adolygu eisoes wedi cyfarfod â rhai hapddaliwyr allweddol ac yn cysylltu ac eraill gyda hyn i ddweud wrthynt am yr adolygiad ac i wahodd eu cyfraniadau, yn cynnwys sut y gallai  gwariant cyllid heb fod yn gyhoeddus arall sydd eisoes heb gael ei ddosrannu gael ei ddefnyddio i gynyddu lefelau cymorth.

Yn y cyfamser, byddem yn hoffi gwahodd awgrymiadau ar y defnydd gorau o adnoddau’r cynllun gan bartïon â diddordeb, ac hefyd awgrymiadau ar sut y gallai gwariant cyllid heb fod yn gyhoeddus arall sydd heb gael ei ddosrannu eisoes gael ei ddefnyddio i gynyddu lefelau cymorth. Hyd nes y ceir cysylltiad ffurfiol gan y Tîm Adolygu gellir anfon rhain i’r cyfeiriad ebost hwn adelphi.fas-review@dwp.gsi.gov.uk.

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am y Review.

Llythyr oddi wrth James Purnell, Y Gweinidog Gwladol dros Ddiwygio Pensiynau, osodwyd yn y Tŷ ar 23 Ebrill 2007

Datganiad gweinidogol oddi wrth y Gweinidog dros Ddiwygio Pensiynau, James Purnell

Rwyf wedi derbyn cynrychioladau oddi wrth ymddiriedolwyr o nifer fechan o gynlluniau pensiwn sydd mewn trafodaeth gyda chyflogwyr mewn perthynas â methdaliad a chymhwyster ar gyfer y Cynllun Cymorth Ariannol, y buasent yn hoffi cael rhagor o amser i gwblhau'r broses hon.

Rwyf felly'n bwriadu ymestyn y dyddiad torbwynt ar gyfer digwyddiadau methdaliad i 31 Awst 2007. Byddaf yn dod a'r diwygiadau priodol ymlaen mewn amser. Yn y cyfamser ni fyddaf yn cymryd sylw o'r dyddiad torbwynt cyfredol a byddaf yn ystyried os bydd angen unrhyw estyniad ychwanegol pellach na 31 Awst 2007.

Read the press release

Rheoliadau y Cynllun Cymorth Ariannol (Diwygiadau Amrywiol) wedi'u osod yn y Senedd

Mae'r Llywodraeth wedi gosod rheoliadau y Cynllun Cymorth Ariannol (Diwygiadau Amrywiol) 2006 gerbron y Senedd. Disgwylir i'r rheoliadau, a fydd ymhlith pethau eraill, yn dod â'r estyniad i FAS a gyhoeddwyd ym mhapur gwyn mis Mai, 'Sicrwydd mewn Ymddeoliad' ddod i rym erbyn diwedd y flwyddyn (yn amodol ar gymeradwyaeth y senedd). Cyhoeddodd y Llywodraeth rheoliadau drafft ym mis Gorffennaf a gellir dod o hyd i'n hymateb yma. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r rhai a roddodd o'u hamser i gyfrannu.

Gweinidog yn cyflwyno canfyddiadau’r Adolygiad o Weinyddiaeth y Cynllun Cymorth Ariannol i’r Senedd

Ar 6 Mehefin, cyhoeddodd y Gweinidog Gwladol dros Ddiwygio Pensiynau, James Purnell, fanylion am yr adolygiad o weinyddiaeth y Cynllun Cymorth Ariannol (FAS) a dywedodd y byddai’n adrodd erbyn diwedd Gorffennaf.

Ystyriodd yr adolygiad yr hyn y gellir ei wneud i sicrhau’r ffordd orau o weinyddu ac o reoli’r Cynllun er mwyn sicrhau bod pawb sy’n gymwys yn cael taliadau cyn gynted ag y bo modd. Ystyriodd yr adolygiad hefyd sut y gellir sicrhau’r modd mwyaf cost-effeithiol o weithredu’r Cynllun ac ystod lawn o opsiynau ar gyfer ei leoliad trefniadol. Ni ystyriodd yr adolygiad y rhesymeg y tu ôl i’r Cynllun, y modd y caiff ei gyllido neu ei gynllunio nac unrhyw faterion deddfwriaethol eraill.

Hysbysodd y Gweinidog Gwladol dros Ddiwygio Pensiynau y Senedd am ganlyniad yr adolygiad (118KB)PDF ar 24 Gorffennaf. Ymhlith y prif ganfyddiadau roedd:

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cymorth Ariannol wedi’i Gyhoeddi

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, yn rhinwedd ei swydd fel Rheolwr Cynllun y Cynllun Cymorth Ariannol, wedi cyflwyno adroddiad blynyddol cyntaf y Cynllun i’r Senedd. Mae’r adroddiad blynyddol yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Medi 2005 (pan ddechreuodd y Cynllun weithredu) a 31 Mawrth 2006. Darllenwch yr adroddiad.

Mae’r Gweinidog dros Ddiwygio Pensiynau hefyd wedi ysgrifennu at Aelodau Seneddol gyda manylion o’r adolygiad arfaethedig o weinyddiaeth y Cynllun Cymorth Ariannol, a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 25 Mai 2006. Bydd yr adolygiad yn ystyried opsiynau ar gyfer sicrhau’r modd gorau o weinyddu ac o reoli’r Cynllun er mwyn sicrhau bod pawb sy’n gymwys yn cael taliadau cyn gynted ag y bo modd. Bydd yr adolygiad yn adrodd cyn diwedd mis Gorffennaf. Dylai ymddiriedolwyr barhau i ddelio ag Uned Weithredol yr FAS yn ôl yr arfer.

Y Llywodraeth yn cyhoeddi estyniad i’r Cynllun Cymorth Ariannol

Fel rhan o bapur gwyn y Llywodraeth, ";Sicrwydd mewn Ymddeoliad: tuag at system bensiynau newydd";, rydym wedi cyhoeddi y bwriadwn estyn cymhwysedd am y Cynllun Cymorth Ariannol (FAS) i aelodau cynlluniau pensiwn cymwys a oedd o fewn 15 mlynedd i gyrraedd oedran pensiwn eu cynllun ar 14 Mai 2004. Bydd yr FAS
nawr yn helpu rhyw 40,000 o bobl a gollodd eu pensiwn am i’w cynllun ddirwyn i ben heb ddigon o gyllid ac am nad oedd modd i’w cyflogwr dalu’r gwahaniaeth.

Caiff aelodau a oedd hyd at 7 mlynedd o gyrraedd oedran pensiwn eu cynllun eu hystyried am ychwanegiad o ryw 80% o’u pensiwn disgwyliedig. Caiff y rhai a oedd rhwng 7 a 15 mlynedd o gyrraedd oedran pensiwn eu cynllun y gellid disgwyl, yn fwyaf rhesymol, iddynt ategu eu hincwm ymddeol, eu hystyried am ychwanegiad o ryw 65% o’u pensiwn disgwyliedig os ydynt rhwng 7 ac 11 mlynedd o gyrraedd oedran pensiwn eu cynllun, a 50% rhwng 12 a 15 mlynedd.

Mae hyn yn golygu y caiff yr holl aelodau cymwys y mae oedran pensiwn eu cynllun yn 65 oed, sy’n cyrraedd 65 oed hyd at Mai 2019 eu hystyried am gymorth, tra chaiff y rhai y mae oedran pensiwn eu cynllun yn 60 oed eu hystyried hyd at 2024.

Gellir mynd at y papur gwyn llawn yn www.dwp.gov.uk/pensionsreform.

Byddwn yn cyhoeddi rheoliadau i weithredu’r newidiadau cyn gynted ag y bo modd ac yn ymgynghori arnynt yn ystod yr haf. Gobeithio y daw’r newidiadau i rym ddiwedd yr hydref, gan sicrhau y gall pawb sy’n gymwys ac sy’n cyrraedd 65 oed yn ystod y blynyddoedd nesaf gael cymorth lle bo’n briodol. Os hoffech gymryd rhan yn y broses ymgynghori, ysgrifennwch atom yn FAS Consultation, DWP, 3rd Floor Adelphi, 1- 11 John Adam Street, Llundain, WC2N 6HT.

Gwybodaeth bwysig i Aelodau Cynlluniau Pensiwn Cymwys

Beth sy’n digwydd ar ôl i gynllun Gymhwyso am yr FAS

Caiff pob cynllun a fu’n llwyddiannus yn Cymhwyso am yr FAS eu dangos ar y rhestr o Gynlluniau Pensiwn Cymwys.

Cam nesaf y broses yw pennu cymhwysedd aelodau unigol cynlluniau am daliadau oddi wrth yr FAS.

Os ydych chi’n aelod o gynllun sydd wedi’i gynnwys yn y rhestr o Gynlluniau Pensiwn Cymwys, bydd un o’r ddwy sefyllfa ddilynol yn berthnasol i chi:

Dilynwch y cyswllt sy’n berthnasol i chi i ddysgu mwy.

Newyddion blaenorol

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.