This snapshot, taken on 05/03/2008, shows web content selected for preservation by The National Archives. External links, forms and search boxes may not work in archived websites.

Gwasanaethau a
budd-daliadau

Geirfa

Dylai'r adran hon eich helpu i ddeall rhai o'r termau a ddefnyddir ar y wefan hon ac mewn perthynas â'r Cynllun Cymorth Ariannol. Ni fwriedir iddo ddisodli neu addasu unrhyw ddiffiniadau a geir mewn mannau eraill, fel mewn cyfreithiau, rheoliadau, ffurflenni a chyfarwyddiadau, neu mewn rheolau cynlluniau.

brig y dudalen

A

Aelod Cymwys - At ddibenion yr FAS, aelod yw hwn fel y'i diffinnir yn Rheoliadau'r Cynllun Cymorth Ariannol (Rheoliad 12).

Aelod Etifeddol - Lle bydd aelod o gynllun pensiwn yn marw CYN y bydd yn dechrau dirwyn i ben, efallai y bydd eu buddion o'r cynllun wedi'u trosglwyddo i fuddiolwr a enwebwyd ganddo/i. At ddibenion yr FAS, mae'r person hwn, i bob pwrpas, yn dod yn aelod o'r cynllun ac fe'i gelwir yn 'aelod etifeddol'. Fodd bynnag, ni fydd goroeswyr aelodau etifeddol yn gymwys am daliadau gan yr FAS pan fydd yr aelod etifeddol yn marw.

Aelod Gohiriedig - Aelod nad yw'n aelod gweithredol mwyach ond sydd â buddion wedi'u cadw yn y cynllun o hyd a fydd yn daladwy yn ddiweddarach. Efallai bod yr aelod wedi gadael gwasanaeth y cyflogwr, neu wedi dewis gadael y cynllun.

Aelod Gweithredol - Person yw hwn sydd mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun pensiwn galwedigaethol.

Aelod sy'n Bensiynwr - Rhywun sydd wedi ymddeol o'r cynllun ac sydd ar hyn o bryd yn derbyn, neu â hawl i dderbyn, pensiwn gan y cynllun.

Ailbrisio - Pan gaiff ei ddefnyddio gan gynlluniau, mae ailbrisio'n cyfeirio at godiadau i fuddion pensiwn a ohirir, h.y. rhwng yr amser mae aelod yn gadael y cynllun a'r amser y bydd eu pensiwn yn dechrau cael ei dalu. Hefyd, bydd yr FAS yn ailbrisio hawliau pensiwn a ohirir ac yn ailbrisio'r swm y mae aelodau cymwys yn debygol o'i dderbyn o'r dyddiad y caiff ei gyfrifo i'r dyddiad y caiff ei dalu.

Asedion - Popeth y mae'r ymddiriedolwyr yn ei ddal ar ran y cynllun pensiwn. Gallant gynnwys buddsoddiadau, balansau ac unrhyw symiau sy'n ddyledus i'r cynllun.

brig y dudalen

B

Blwydd-dal - Buddsoddiad o arian yw hwn, sy'n rhoi hawl i'r buddsoddwr i gyfres o symiau cyfartal bob blwyddyn.

Buddiolwr - Mae hyn yn cyfeirio at bob aelod cymwys o gynlluniau pensiwn cymwys gan gynnwys aelodau gohiriedig, aelodau gweithredol, aelodau sy'n bensiynwyr, 'aelodau etifeddol' ac aelodau 'credyd pensiwn'. Mae 'Buddiolwr' hefyd yn cyfeirio at oroeswyr cymwys aelodau cymwys o gynlluniau pensiwn cymwys a fu farw ar ôl i'r cynllun ddechrau dirwyn i ben.

Buddion Pensiwn Craidd - Dyma'r buddion yr addawodd cynllun pensiwn eu talu i aelod yn llawn pan fydd yn ymddeol.

brig y dudalen

C

Corff Cyhoeddus Anadrannol - Corff yw hwn sy'n chwarae rhan ym mhrosesau llywodraeth y wlad, ond nad yw'n adran o'r llywodraeth, nac yn rhan o un, ac sy'n gweithredu ar hyd braich i Weinidogion.

Credyd Pensiwn - Dyma'r swm o hawl i fuddion sydd gan gyn-ŵr neu gyn-wraig i aelod o gynllun hawl iddo ar ôl gorchymyn rhannu pensiwn.

Cyfradd Gronni - Mewn cynllun pensiwn budd a ddiffinnir, dyma'r gyfradd y mae buddion pensiwn yn cronni ar gyfer yr aelod. Byddant yn derbyn swm penodol am bob blwyddyn o wasanaeth pensiynadwy.

Cynllun Pensiwn a Gontractir Allan - Cynllun pensiwn yw hwn sy'n ymroi i ddarparu buddion penodol i aelodau, neu eu gwŷr neu wragedd gweddw, yn hytrach na'r rhai a gaiff eu darparu gan y Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS). Telir Cyfraniadau Yswiriant Gwladol is gan neu mewn perthynas ag aelodau cynllun a gontractiwyd allan ac nid ydynt yn cyfranogi yn SERPS yn ystod y cyfnod cyflogaeth hwnnw.

Cynllun Pensiwn Budd a Ddiffinnir (DB) - Cynlluniau yw'r rhain lle caiff buddion aelodau eu pennu gan fformwla, sydd fel arfer yn cynnwys cyflog a/neu wasanaeth gyda'r cyflogwr. Y math mwyaf cyffredin o gynllun pensiwn budd a ddiffinnir yw cynllun cyflog terfynol.

Cynllun Pensiwn Cyfraniadau a Ddiffinnir (DC) - Cynlluniau yw'r rhain lle caiff buddion aelodau eu cyfrifo yn ôl faint o arian a roddir yn y gronfa bensiwn ar ran yr aelod, faint mae'r gronfa bensiwn wedi cynyddu a pha gyfradd o flwydd-dal sydd ar gael pan fydd yr aelod yn ymddeol. Gelwir y math hwn o gynllun yn gynllun prynu arian hefyd.

Cynllun Pensiwn Cymwys - At ddibenion yr FAS, cynllun pensiwn yw hwn fel y'i diffinnir yn Rheoliadau'r Cynllun Cymorth Ariannol (Rheoliad 9).

Cynllun Pensiwn Galwedigaethol - Cynllun yw hwn a drefnir gan gyflogwr i ddarparu buddion pensiwn i'w weithwyr.

Cynrychiolydd a Benodir gan Aelod - Cynrychiolydd a benodir gan y buddiolwr i weithredu ar ei r(h)an yw hwn (e.e. penodai ayb).

Cynrychiolydd a Benodir i Gynllun - Cynrychiolydd yw hwn a benodir gan y buddiolwr i hysbysu rheolwr y cynllun am y manylion y mae eu hangen.

D

Digwyddiad Ansolfedd Cymwys - Digwyddiad ansolfedd yw hwn sy'n bodloni'r gofynion a nodir yn Rheoliadau'r Cynllun Cymorth Ariannol [gweler Rheoliadau'r FAS neu'r daflen FAS P2 am ragor o fanylion].

Digwyddiadau Ansolfedd - Dyma'r digwyddiadau ansolfedd a nodir yn Rheoliadau'r Cynllun Cymorth Ariannol. [gweler Rheoliadau'r FAS neu'r daflen FAS P2 am ragor o fanylion]

Dirwyn i ben - Bydd cynllun yn dirwyn i ben pan gaiff ei derfynu a phan gaiff yr asedion eu defnyddio i ddiogelu buddion aelodau mewn man arall, yn aml drwy brynu blwydd-daliadau uniongyrchol a gohiriedig gan gwmni yswiriant. Ar ôl gorffen dirwyn i ben, ni fydd y cynllun yn bodoli mwyach.

brig y dudalen

G

Goroeswr - Mae goroeswr yr FAS naill ai'n briod neu'n bartner sifil (o fis Rhagfyr 2005 pan ddaeth y gyfraith newydd i rym) i aelod cymwys cynllun cymwys. Bydd goroeswyr yn derbyn incwm llawn gan y cynllun pensiwn cymwys a'r FAS, sy'n gyfwerth ag o leiaf 50% o gyfanswm yr incwm y byddai'r aelod wedi'i dderbyn pe bai wedi byw.

Gweinyddwr - Person yw hwn sy'n gyfrifol am weinyddu'r cynllun pensiwn o ddydd i ddydd.

brig y dudalen

M

Mynegai Prisiau Adwerthu - Y mynegai cyffredinol o brisiau adwerthu (ar gyfer pob eitem), a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mynegeio - Ffordd y caiff pensiynau a delir a/neu fuddion a gedwir eu cynyddu'n rheolaidd drwy gyfeirio at fynegeion prisiau neu enillion.

brig y dudalen

O

Oedran ymddeol arferol - Dyma'r oedran a bennir yn rheolau'r cynllun fel yr oedran pan gaiff aelod ymddeol fel rheol. Mae Canllawiau Cyllid a Thollau EM yn datgan ei bod yn un o amodau cael cymeradwyaeth o ran treth bod rheolau cynllun yn pennu un oedran ar gyfer pob aelod pan gaiff yr aelod hwnnw ymddeol fel rheol.

brig y dudalen

P

Partner Sifil - Daeth y Deddf Partneriaethau Sifil 2004 i rym ar 5 Rhagfyr 2005. Bydd hyn yn newid y ffordd rydym yn trin cyplau un rhyw. Ers hynny, caiff pobl o'r un rhyw sydd wedi ffurfio partneriaeth sifil eu trin, cymaint â phosibl, yr un fath â chyplau priod. Caiff cyplau un rhyw sy'n byw gyda'i gilydd fel partneriaid sifil (ond sydd heb ffurfio partneriaeth sifil) eu trin yr un fath â chyplau dibriod.

Prynu'n ôl Tybiedig - Mewn rhai amgylchiadau, gall aelodau o gynllun pensiwn a gontractiwyd allan ddewis adfer rhai o'u Hawliau Cynllun y Wladwriaeth, neu eu hadfer i gyd. Yr enw ar y broses hon yw 'Prynu'n ôl Tybiedig'.

brig y dudalen

Rh

Rheolwr y Cynllun - Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gwaith a Phensiynau yw hwn yn gweithredu o fewn ei swyddogaeth fel rheolwr y Cynllun Cymorth Ariannol.

Rhif TPR (OPRA) - Dyma rif Y Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR) ac mae'n rhif (8 digid fel arfer) a roddir i gynlluniau ar ôl iddynt gofrestru â'r Rheoleiddiwr Pensiynau. Gelwid y rhif TPR yn y gorffennol yn rif OPRA.

Rhif y Swyddfa Cynlluniau Pensiwn (PSO) - Y PSO oedd adran Cyllid y Wlad a oedd yn cymeradwyo cynlluniau pensiwn o dan y ddeddfwriaeth dreth berthnasol. Caiff pob cynllun a gyflwynir rif, a elwir yn rif PSO.

Rhwymedigaethau - Dyma'r symiau y bydd yn rhaid i gynllun pensiwn eu talu nawr neu rywbryd yn y dyfodol. Y rhwymedigaeth fwyaf cyffredin yw talu pensiynau aelodau.

brig y dudalen

T

Taliad Cychwynnol - Pan fydd aelod yn troi'n 65 oed, ond bydd eu cynllun yn dal i ddirwyn i ben, efallai y bydd ganddynt hawl i daliadau cynnar gan yr FAS. Yr enw ar y rhain yw 'taliadau cychwynnol' a chânt eu hychwanegu at ba daliadau bynnag dros dro y mae'r cynllun yn eu gwneud. Nid oes hawl am adolygiad yn erbyn y swm a delir (hyd yn oed os penderfyniad yr FAS yw peidio â thalu o gwbl).

brig y dudalen

W

Wedi dirwyn i ben - Dyma pryd fydd y cynllun ddim yn bodoli mwyach ac ar ôl i'r rhwymedigaethau gael eu talu.

brig y dudalen

Y

Ymddiriedolwr - Person neu Gwmni yw ymddiriedolwr sy'n gweithredu ar wahân i gyflogwr, sy'n dal asedion ar ran buddiolwyr y cynllun. Ymddiriedolwyr sy'n gyfrifol am sicrhau y caiff y cynllun pensiwn ei redeg yn briodol a bod buddion aelodau yn ddiogel. Mae'n rhaid iddynt ddilyn y cyfreithiau sy'n berthnasol i ymddiriedolaethau.

Ymddiriedolwr Annibynnol (anstatudol) - Ymddiriedolwr proffesiynol sydd heb gysylltiad â'r cyflogwr ac nad yw'n aelod o'r cynllun. Gallai fod yn gwmni ymddiriedolwyr corfforaethol neu'n unigolyn. Eu gwaith yw cynnig ymddiriedolaeth a gwasanaethau ymddiriedolwyr i nifer o gynlluniau pensiwn digysylltiad ac anghysylltiedig.

Ymddiriedolwr Annibynnol (statudol) - Ymddiriedolwr a benodir yn unol ag adrannau 22-26 o Ddeddf Pensiynau 1995, i gynllun lle penodwyd ymarferwr ansolfedd dros gyflogwr.

Ymgynghorydd Proffesiynol - Unrhyw archwilydd, actwari, rheolwr cynllun neu ymgynghorydd cyfreithiol a benodir gan reolwyr neu ymddiriedolwyr cynllun.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.