This snapshot, taken on 05/03/2008, shows web content selected for preservation by The National Archives. External links, forms and search boxes may not work in archived websites.

Gwasanaethau a
budd-daliadau

Sut rydym ni’n casglu ac yn defnyddio’r data sydd gennym

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn casglu gwybodaeth at ddibenion delio â nawdd cymdeithasol, cynhaliaeth plant, niwed trwy frechiad, cyflogaeth a hyfforddiant, polisi pensiynau preifat, cynllunio i ymddeol a’r Cynllun Cymorth Ariannol. Mae’r wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn dibynnu ar y rheswm dros eich busnes gyda ni, ond gallwn ddefnyddio’r wybodaeth at unrhyw un o’r dibenion hyn.

Gallwn gadarnhau gwybodaeth amdanoch chi gyda gwybodaeth arall sydd gennym. Gallwn gael gwybodaeth amdanoch oddi wrth bobl eraill a rhai sefydliadau eraill, pan fydd y gyfraith yn caniatáu hynny, er mwyn:

Ymhlith y sefydliadau eraill hyn mae adrannau’r llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff yn y sector preifat fel banciau a sefydliadau a allai fenthyg arian i chi. Ni fyddwn yn rhoi gwybodaeth amdanoch chi i unrhyw un y tu allan i’n hadran oni bai bod y gyfraith yn caniatáu hynny.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n rheoli data at ddibenion y Ddeddf Diogelu Data.

Os ydych chi am wybod mwy am ba wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, neu am y modd rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth, cysylltwch ag Uned Weithredol y Cynllun Cymorth Ariannol .

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.