Cysylltu â Ni
Bwriedir y manylion cyswllt canlynol ar gyfer proffesiynolion mewn diwydiant a phartïon sydd â diddordeb sy’n chwilio am arweiniad a gwybodaeth gyffredinol am y Cynllun Cymorth Ariannol (FAS).
Dylai aelodau cynlluniau pensiwn sydd ag unrhyw ymholiadau am eu cynllun pensiwn, neu am eu hawl i bensiwn, gysylltu ag ymddiriedolwyr eu cynllun neu weinyddwr eu cynllun yn y lle cyntaf.
Lleolir Uned Weithredol y Cynllun Cymorth Ariannol (FAS OU) yn:
Financial Assistance Scheme
PO Box 702
York
YO32 9XR
Ffôn: 0845 6019941
E-bost: FAS-Operational-Unit@dwp.gsi.gov.uk
Os hoffech i rywun ymateb i’ch e-bost, rhowch gyfeiriad a rhif ffôn cyswllt er mwyn i ni allu ymateb yn y modd mwyaf priodol.
| Ein polisi e-bost Mae’r cyfleuster e-bost hwn yn fodd o wneud ymholiadau cyffredinol. Nid yw’n llwybr diogel ar gyfer anfon gwybodaeth bersonol. Nid oes modd gohebu’n hir ag unigolyn drwy e-bost. Fodd bynnag, os byddwch chi’n cysylltu â ni drwy e-bost a’n bod yn methu ymateb yn yr un modd, byddwn ni’n ymateb drwy gyfryngau eraill, fel y ffôn neu drwy’r post. |
Ffôn testun: 0845 601 9942 (os oes gennych anawsterau gyda’ch lleferydd neu’ch clyw)
Rhif ffôn os byddwch chi’n ffonio o dramor (+44)1904 702230
Mae’r FAS OU ar agor rhwng 9.00am a 5.30pm Llun-Gwener. Sylwch y byddwn o bosibl yn recordio galwadau at ddibenion hyfforddi staff ac er mwyn sicrhau lefelau gwasanaeth cyson.