This snapshot, taken on 05/03/2008, shows web content selected for preservation by The National Archives. External links, forms and search boxes may not work in archived websites.

Gwasanaethau a
budd-daliadau

Cyfrifiad o daliadau FAS dan y drefn gyfredol

Cymhwyster

I gael ei ystyried ar gyfer taliadau cymorth gan y Cynllun Cymorth Ariannol (FAS) mae’n rhaid i aelod fod yn perthyn neu wedi bod yn perthyn i gynllun pensiwn cymwys ac wedi bod o fewn 3 blynedd o oedran ymddeol arferol eu cynllun neu’n hyn ar 14 Mai 2004. Gall goroeswyr yr aelodau sy’n gymwys ac yn marw ar ôl dechrau’r dirwyn i ben hefyd gael eu hystyried ar gyfer taliadau.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd taliadau FAS terfynol (“taliadau blynyddol”) yn ychwanegu at bensiynau terfynol cynllun aelodau cymwys hyd at 80% o’u “pensiwn disgwyliedig”, a benderfynnir gan reolau FAS. Mae’r taliadau’n amodol ar weithrediad cap a’r rheol de minimis.

Mathau o daliad

Yn gyffredinol, nid yw’r wybodaeth ar raddfa lawn colled unigolyn ar gael hyd nes i gynllun fod yn agos i gwblhau’r dirwyn i ben. Hyd nes y bydd y fath wybodaeth ar gael nid ydym yn gallu asesu lefel terfynol o gymorth buddiolwr.

Gan fod cwblhau’r broses o ddirwyn i ben yn gallu cymryd nifer o flynyddoedd, mae ‘taliadau cychwynnol’ yn ein galluogi i ddechrau talu peth arian i aelodau cymwys neu i’r rhai sy’n eu goroesi sydd yn gymwys i gael cymorth cyn i’w cynllun ddirwyn i ben. Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr cynllun wneud cais am y fath daliadau. I aelodau cymwys, mae taliadau o’r fath yn ychwanegu at unrhyw bensiwn dros dro sydd yn cael ei dalu gan y cynllun pensiwn hyd at 60% o’u ‘pensiwn disgwyliedig

Cyfrifo y ‘pensiwn disgwyliedig’

Mae’r ‘pensiwn disgwyliedig’ (ar gyfer taliadau cychwynnol a thaliadau blynyddol) yn cael eu cyfrifo mewn gwahanol ffyrdd yn dibynnu os cyfrifir cymorth mewn perthynas ag aelod a oedd yn bensiynwr neu nad oedd yn bensiynwr ar ddechrau’r dirwyn i ben. Yn y ddau achos, penderfynir ar y ‘pensiwn disgwyliedig’ drwy gyfeirio at ‘ddyddiad ardystiad’. Mae’r dyddiad ardystiad yn dibynnu ar y wybodaeth a ddelir gan y cynlluniau ar fuddion aelodau. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd y dyddiad ple mae’r cyfradd blwydd-dal (neu pensiwn dros dro yn achos taliadau cychwynnol ) sydd yn cael ei ddarparu gan ymddiriedolwyr yn gywir.

Ar gyfer aelod nad yw’n bensiynwr, rydym yn ailbrisio cyfradd eu pensiwn cronedig o’r adeg mae eu gwasanaeth pensiynadwy yn dod i ben hyd at y ‘dyddiad ardystiad’ i ddarparu eu ‘pensiwn disgwyliedig’. Darperir manylion pellach isod ar sut mae’r ‘pensiwn disgwyliedig’ ar gyfer person nad yw’n bensiynwr yn cael ei benderfynu.

Ar gyfer aelod sy’n bensiynwr, y ‘pensiwn disgwyliedig’ yw’r gyfradd o bensiwn nad yw wedi’i ostwng a fyddai’n daladwy ar adeg y ‘dyddiad ardystio’ os na fyddai’r cynllun wedi dechrau dirwyn i ben.

Ni fyddwn yn cymryd y cynnydd mewn pensiynau y tu hwnt i’r dyddiad ardystio nac unrhyw nodweddion eraill o gynllun yr aelod, fel lefel buddion y goroeswr, i ystyriaeth wrth benderfynu’r ‘pensiwn disgwyliedig’.

Ailbrisio’r ‘pensiwn disgwyliedig’

Ar gyfer aelod FAS cymwys nodweddiadol – un nad oedd yn derbyn pensiwn yn union cyn y dirwyn i ben – byddwn yn penderfynu ‘pensiwn disgwyliedig’ ar draws dau gyfnod ar wahan ar ddwy gyfradd gwahanol:

Y cyfnod ailbrisio cyntaf

Ar gyfer y cyfnod ailbrisio cyntaf rydym yn ailbrisio swm y pensiwn mae aelod o gynllun wedi’i gronni hyd at y dyddiad y gadawsant wasanaeth yn unol ag adrannau perthnasol y Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993 (‘Deddf 1993’). Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu y bydd gwahanol gyfrannau o bensiynau aelodau yn ailbrisio ar gwahanol gyfraddau ar draws y cyfnod hwn ond bydd y cyfraddau’n cydweddu â’r ffordd y buasai’r cyfrannau rheiny o bensiwn wedi cael eu hailbrisio gan y cynllun cymwys.

Lleifaswm Pensiwn Gwarantedig

Yn ystod y cyfnod ailbrisio cyntaf bydd unrhyw Leiafswm Pensiwn Gwarantedig (GMP) mae’r aelod wedi’i gronni’n cael ei ailbrisio yn un o dair ffordd a osodir gan Ddeddf 1993, un ai:

Bydd y dull ddefnyddir mewn unrhyw achos penodol yn dibynnu ar ddull y buasai’r cynllun cymwys wedi’i ddefnyddio.

Ailbrisio dros gyfnod y GMP

Yn ystod y cyfnod ailbrisio cyntaf, bydd unrhyw bensiwn sy’n fwy na’r GMP oedd yn amodol i’w ailbrisio o fewn rheolau’r cynllun cymwys yn cael ei ailbrisio yn unol a’r gorchymyn ailbrisio perthnasol gweithredol dan Ddeddf 1993. Eto, yn gyffredinol, mae hyn yn debygol o gymharu a’r gyfradd ailbrisio fuasai wedi cael ei defnyddio ar gyfer y gyfran hwnnw o bensiwn gan gynllun cymwys yr aelod yn ystod y cyfnod hwnnw.

Yr ail gyfnod ailbrisio

Ar gyfer yr ail gyfnod ailbrisio, bydd swm y pensiwn roedd yr aelod o’r cynllun wedi’i gronni yn eu cynllun hyd at y dyddiad y gadawsant y gwasanaeth â’r swm ailbrisio benderfynwyd dan y cyfnod ailbrisio cyntaf yn cael ei ailbrisio’n unol â phrisiau. Yn benodol, rydym yn defnyddio’r cofnodion yn y Mynegrif Prisiau Adwerthol sy’n cyd-fynd â’r cyfnodau deufis cyn i’r cynllun gychwyn dirwyn i ben a deufis cyn y dyddiad ardystiad. Canlyniad y cyfrifiad hwnnw (yn amodol â’r cap) yw’r ‘pensiwn disgwyliedig’ FAS. Yna didynnir y pensiwn cynllun o’r 80% (neu yn achos taliadau cychwynnol 60%) o’r ‘pensiwn disgwyliedig’ i roi’r gyfradd cymorth FAS ar y dyddiad ardystiad.

Buddion cynllun na ellir eu hailbrisio

Gall fod gan rhai aelodau fuddion nad oeddent yn amodol ar gyfer eu hailbrisio dan reolau eu cynllun cymwys. Os oes gan aelodau fuddion o’r fath yna ni fyddwn yn ailbrisio’r buddion rheiny yn y cyfnod ailbrisio cyntaf na’r ail.

Ailbrisio’r taliad FAS

Os yw’r taliad FAS yn daladwy o ddyddiad sy’n fis neu fwy wedi’r dyddiad ardystiad yna bydd y cymorth yn cael ei ailbrisio hyd at y dyddiad taladwy hwnnw. Mae’r cyfradd ailbriso rydym yn ei ddefnyddio yn unol â phrisiau. Defnyddir cofnodion o’r Mynegrif Prisiau Adwerthol yn unol â’r dyddiadau deufis cyn y dyddiad ardystiad a deufis cyn y dyddiad taliad.

Enghraifft wedi’i weithio allan

Yr hyn sy’n dilyn yw enghraifft o sut mae’r broses FAS yn gymwys ar gyfer amgylchiadau aelodau unigol cynllun.

Amgylchiadau

Cyfnod ailbrisio cyntaf

Ailbrisio’n gymwys o’r dyddiad y gadawodd yr aelod y cynllun hyd at y diwrnod cyn cychwyn y dirwyn i ben.

GMP

Y cyfnod ailbrisio yw o’r flwyddyn dreth (6 Ebrill i’r 5 Ebrill cynwysedig) y gadawodd yr aelod cyflogaeth wedi’i eithrio, hyd at y flwyddyn dreth y cychwynnodd y dirwyn i ben. Mae cyfraddau gwahanol o ailbrisio’n gymwys os cyrhaeddodd yr aelod oedran taliad GMP yn ystod y cyfnod hwnnw. Dylid defnyddio’n gynyddol y gyfradd flynyddol berthnasol gyfatebol i’r dyddiad y gadawodd yr aelod wasanaeth i’r cyfnod ailbrisio.

Y flwyddyn dreth ar gyfer gadael y gwasanaeth oedd 1994-95. Y flwyddyn dreth y cychwynnodd y cynllun ddirwyn i ben oedd 2002-03. Mae’r aelod yn cyrraedd oedran pensiwn GMP ar 4 Rhagfyr 2007 ac felly nid oedd wedi cyrraedd yr oedran hwn cyn i’r cynllun ddechrau dirwyn i ben. Felly mae’r ailbrisio am wyth mlynedd.

Gan fod yr aelod wedi gadael gwasanaeth gweithredol yn y flwyddyn dreth 1994-95 mae’r gyfradd flynyddol ar gyfer 6 Ebrill 1993 hyd at 5 Ebrill 1997 yn gymwys, sef 7.0%. Yr ailbrisio ar gyfer yr elfen GMP o bensiwn yr aelod yn yr achos hwn yw 107% – 100% = 71.8%.

Felly, yn yr achos hwn swm ailbrisio’r GMP fuasai 71.8% o £300, sy’n £215.40

Ailbrisio pensiwn yn uwch na’r GMP

Caiff y gyfradd flynyddol o ailbrisio pensiwn sy’n uwch na’r GMP ei ailbrisio’n unol â’r gorchymyn ailbrisio perthnasol cymwys i’r flwyddyn galendr y gadawodd yr aelod wasanaeth pensiynadwy a’r flwyddyn galendr y cychwynnodd y cynllun ddirwyn i ben. Mae’r cyfnod ailbrisio’n gymwys ar gyfer blynyddoedd calendr cyfan yn unig.

Y flwyddyn calendr ar gyfer gadael gwasanaeth yn yr achos hwn yw 1994 a cychwynnodd y cynllun ddirwyn i ben yn y flwyddyn calendr 2003. Mae with mlynedd gyflwn o ailbrisio’n gymwys. Mae’r gorchymyn ailbrisio wnaed yn Nhachwedd 2002 ac yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2002 (Occupational Pensions (Revaluation) Order 2002 (SI2002/2951)) yn gymwys. Mae hyn yn rhoi ffactor ailbrisio o 22.5% ar gyfer cyfnod ailbrisio o wyth mlynedd yn diweddu yn 2003. Felly, yn yr achos hwn swm yr ailbrisio ar gyfer ailbrisio’r pensiwn sy’n uwch na’r GMP fuasai £300 x 22.5%, sy’n £67.50.

Ail gyfnod ailbrisio

Caiff y GMP a’r swm cyfanswm ailbrisio sy’n uwch na’r GMP a’r cyfanswm ailbrisio ar gyfer y cyfnod ailbrisio cyntaf ei hailbrisio yn unol â phrisiau.

Gwneir hyn yn unol â newidiadau yn y Mynegrif Prisiau Adwerthol (RPI) gan ddefnyddio’r fformiwla ganlynol:

(100 wrth a rhanedig gan b) minws 100

Ple mae a yn gofnod RPI deufis cyn y dyddiad ardystiad (yn yr achos hwn 196.5 ar Ebrill 2006) a b yw’r cofnod RPI deufis cyn cychwyn y dirwyn i ben (yn yr achos hwn 178.4 ar Ionawr 2003).

Yn yr achos hwn (100 x 196.5 rhanedig gan 178.4) - 100 = 10.15%; a

(£300 + £215.40 + £300 + £67.50) x 110.15% = £972.50

Cyfanswm pensiwn disgwyliedig = £972.50

Cymorth FAS ar ddyddiad ardystiad

Dyma enghraifft o daliad FAS terfynol sy’n ychwanegu at bensiwn cynllun hyd at 80% o’r ‘pensiwn disgwyliedig’.

Felly, yn yr achos hwn swm y cymorth FAS ar ddyddiad yr ardystiad fuasai £972.5 x 80% - £100 = £678.

Taliad FAS = £678 y flwyddyn

Ailbrisio’r taliad FAS

Os oes mis neu fwy rhwng y dyddiad ardystiad a’r dyddiad taliad FAS yna caiff y cyfradd cymorth FAS ar ddyddiad yr ardystiad ei ailbrisio cyn iddo ddod yn daladwy. Yn yr achos hwn buasai’r cymorth FAS o £678 yn cael ei ailbrisio o 19 Mehefin 2006 hyd at 4 Rhagfyr 2007. Buasai’r ailbrisio’n cael ei gymhwyso’n unol â phrisiau fel y’i disgrifir mewn perthynas â’r ail gyfnod ailbrisio uchod.

Ôl ddyddio taliadau

Mewn achosion ple mae cyfrifo taliadau FAS yn digwydd wedi’r dyddiad y daeth aelod yn gymwys ar gyfer FAS, caiff y cymorth FAS ei ôl ddyddio i gwmpasu’r cyfnod perthnasol. Nid yw ôl ddyddio’n gymwys yn yr enghraifft hwn gan fod hawl yr aelod yn cychwyn yn Rhagfyr 2007 a’r dyddiad ardystiad yw Mehefin 2006.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.