Gwybodaeth o’r Archif
Rhestr ddangosol o gynlluniau a allai fod yn gymwys
Lluniwyd y rhestr hon ar sail gwybodaeth a ddarparwyd i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) gan gynrychiolwyr cynlluniau at ddibenion ymarfer casglu data`r Cynllun Cymorth Ariannol (FAS) a gynhaliwyd rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2004. Felly, efallai na fydd yn cynnwys cynlluniau y gallai DWP fod wedi derbyn gwybodaeth amdanynt naill ai cyn neu ar ôl y dyddiadau hynny. Yn ogystal, nid yw’r rhestr yn cynnwys unrhyw gynllun y cafodd DWP wybodaeth annigonol neu anghyson amdano yn ystod yr ymarfer. Yr enwau a ddarparwyd gan broffesiynolion cynlluniau yw enwau’r cynlluniau sy’n ymddangos ar y rhestr. Efallai y caiff cynlluniau eu galw wrth enwau gwahanol. Dylid ceisio unrhyw eglurhad am y pwynt hwn oddi wrth ymddiriedolwyr y cynllun perthnasol.
Nid yw’r wybodaeth y mae DWP wedi’i chael am y cynlluniau hyn wedi cael ei gwirio. Felly, os yw cynllun wedi’i gynnwys ar neu’i eithrio o’r rhestr hon, nid yw hynny’n pennu a fyddai’r cynllun yn gynllun pensiwn cymwys at ddibenion yr FAS. Bydd angen rhagor o wybodaeth oddi wrth y cynlluniau hynny sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr er mwyn pennu y gallai’r cynlluniau hynny fod yn gynlluniau pensiwn cymwys at ddibenion yr FAS. Yn yr un modd, bydd cynlluniau nad ydynt wedi’u cynnwys ar y rhestr yn cael cyfle i ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol maes o law. Caiff y rhestr hon ei haddasu yn unol â hynny a gellid trosglwyddo enwau i restrau eraill wrth i ragor o wybodaeth ddod i law ac wrth i gynlluniau eraill gael eu hystyried ar gyfer FAS.