Y Cynllun Cymorth Ariannol – A ydwyf yn gymwys?
Mae’r Cynllun Cymorth Ariannol (FAS) yn cynnig cymorth ariannol i rai pobl sydd wedi colli allan ar eu pensiynau oherwydd nad oedd gan eu cynllun pensiwn galwedigaethol gyllid digonol pan ddechreuodd ddirwyn i ben ac nad oedd eu cyflogwr yn gallu gwneud i fyny y diffygion oherwydd ei fod yn ansolfent neu nid yw’n bodoli mwyach.
I fod yn gymwys i gael taliadau o’r FAS rydych angen bod neu wedi bod yn aelod o gynllun pensiwn cymwys (neu’n goroesi aelod o’r fath) ac wedi bod o fewn 15 mlynedd o’ch oedran ymddeol arferol neu’n hyn ar 14 Mai 2004. Gall rhai sy’n goroesi aelodau cymwys dderbyn FAS pa oedran bynnag yr ydynt.
Mae’r swn rydych yn ei dderbyn gan FAS yn dibynnu ar faint mor bell roeddech o’ch oedran ymddeol arferol a faint gall eich cynllun fforddio ei dalu i chi.
- Os roeddech yn disgwyl cyrraedd eich oedran ymddeol arferol ar unrhyw adeg hyd at ac yn cynnwys 14 Mai 2011 bydd y FAS yn ychwanegu at unrhyw bensiwn rydych yn ei dderbyn hyd at 80% o’ch pensiwn craidd disgwyliedig;
- Os roeddech yn disgwyl cyrraedd eich oedran ymddeol arferol rhwng 15 Mai 2011 ac 14 Mai 2015 bydd y FAS yn ychwanegu at unrhyw bensiwn rydych yn ei dderbyn hyd at 65% o’ch pensiwn craidd disgwyliedig;
- Os roeddech yn disgwyl cyrraedd eich oedran ymddeol arferol rhwng 15 Mai 2015 ac 14 Mai 2019 bydd y FAS yn ychwanegu at unrhyw bensiwn rydych yn ei dderbyn hyd at 50% o’ch pensiwn craidd disgwyliedig;
Mae’r rheolau yn wahanol ar gyfer y rhai sy’n goroesi
Ym mhob achos, mae terfyn o £12,000 y flwyddyn i’r swm y bydd FAS yn ychwanegu unrhyw bensiwn iddo. Nid yw FAS yn gwneud taliadau sydd yn gweithio allan yn llai na £520 y flwyddyn (£260 ar gyfer y rhai sy’n goroesi).
Beth yw’r Cynllun Cymorth Ariannol?
Gwnaeth y Ddeddf Pensiynau 2004 ddarpariaethau ar gyfer y Cynllun Cymorth Ariannol. Mae FAS yn cynnig cymorth ariannol i rai pobl sydd wedi colli allan ar eu pensiynau oherwydd nad oedd gan eu cynllun pensiwn galwedigaethol gyllid digonol pan ddechreuodd ddirwyn i ben ac nad oedd eu cyflogwr yn gallu gwneud i fyny y diffygion oherwydd eu bod yn ansolent neu nid yw’n bodoli mwyach. Fodd bynnag, ni fydd pob aelod o bob cynllun sydd yn cyfarfod yr amod cymhwyso hwn yn derbyn cymorth gan y FAS. Nid yw FAS yn ceisio atgynhyrchu y rheolau neu fuddion o unrhyw gynllun penodol ond yn darparu cymorth i’r rhai sydd wedi colli allan ac sydd angen cymorth ar frys.
Cafodd Rheoliadau y Cynllun Cymorth Ariannol (2005) eu cymeradwyo gan Y Senedd ar 19 Gorffennaf 2005 a daeth y cynllun yn weithredol ar 1 Medi 2005. Datblygwyd y cynllun gyda chyngor pobl broffesiynol ar bensiynau, undebau llafur, cyfundrefnau diwydiant, busnesau, ac aelodau o gynlluniau pensiwn a effeithwyd arnynt ac roedd y Rheoliadau yn destun i ymgynghoriad cyhoeddus. Daeth y Cynllun Cymorth Ariannol (Diwygiadau Amrywiol) (2006) a ymestynnodd y Cynllun i bobl o fewn 15 mlynedd o’u hoedran ymddeol arferol ar 14 Mai 2004 i rym ar 15 Rhagfyr 2006.
Gweinyddir FAS gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac mae’n cael ei reoli gan Uned Weithredol genedlaethol FAS (FAS OU). Mae’r Llywodraeth wedi clustnodi dros £2 biliwn i’r Cynllun.
O Ebrill 2005, mae aelodau o gynlluniau pensiwn galwedigaethol wedi cael eu diogelu drwy’r Gronfa Diogelu Pensiwn
Faint fydd y FAS yn fy nhalu?
Bydd hyn yn dibynnu ar faint byddwch yn ei dderbyn o’ch cynllun pensiwn a’ch oed mewn perthynas i’ch oed ymddeol arferol o 14 Mai 2004. Mae FAS yn ychwanegu at unrhyw bensiwn rydych yn ei dderbyn gan eich cynllun i lefel sydd yn ddibynol ar pa mor agos roeddech i oedran ymddeol arferol ar 14 Mai 2004. Mae rheolau gwahanol yn bodoli ar gyfer gwragedd sydd yn goroesi, gwyr a phartneriaid sifil aelodau sy’n gymwys. Gallwch ddarllen eglurhad manwl o sut rydym yn cyfrifo cymorth i aelodau a’r rhai sy’n goroesi
Yn gyffredinol:
- Os roeddech yn disgwyl cyrraedd eich oedran ymddeol arferol unrhyw amser hyd at ac yn cynnwys 14 Mai 2011 bydd FAS yn ychwanegu at unrhyw bensiwn rydych yn ei dderbyn hyd at 80% o’ch pensiwn craidd disgwyliedig;
- Os roeddech yn disgwyl cyrraedd eich oedran ymddeol arferol rhwng 15 Mai 2011 a 14 Mai 2015 bydd y Cynllun Cymorth Ariannol yn ychwanegu at unrhyw bensiwn rydych yn ei dderbyn hyd at 65% o’ch pensiwn craidd disgwyliedig;
- Os ydych yn disgwyl cyrraedd eich oedran ymddeol arferol rhwng 15 Mai 2015 a 14 Mai 2019 bydd y Cynllun Cymorth Ariannol yn ychwanegu at unrhyw bensiwn rydych yn ei dderbyn hyd at 50% o’ch pensiwn craidd disgwyliedig;
Mae’r rheolau yn wahanol ar gyfer y rhai sy’n goroesi
Ym mhob achos mae terfyn o £12,000 y flwyddyn i’r swm y bydd FAS yn ychwanegu unrhyw bensiwn iddo. Nid yw FAS yn gwneud taliadau sydd yn gweithio allan yn llai na £520 y flwyddyn (£260 ar gyfer y rhai sy’n goroesi).
Gwneir taliadau FAS yn fisol i mewn i’ch banc, cymdeithas adeiladu, neu gyfrif cerdyn swyddfa’r post. Bydd unrhyw FAS sydd yn ddyledus i chi mewn ôl ddyled yn cael ei dalu fel cyfandaliad. Mae FAS yn drethadwy o’i darddiad ac fe’i cymerir i ystyriaeth pan yn cyfrifio budd-daliadau perthnasol i incwm fel Cymhorthdal Incwm, Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai a Threth Cyngor a Lwfans Ceisio Gwaith (Yn Seiliedig ar Waith).
Pa bryd fyddai’n cael FAS?
I’r rhan fwyaf o bobl, mae taliadau FAS yn dechrau o’u penblwydd yn 65 oed neu 14 Mai 2004, Pa un bynnag yw’r diweddaraf. Gall y bobl sy’n goroesi aelodau cymhwysol a’r rhai ag afiechyd terfynol gael eu talu heb ystyried eu hoedran.
Gall FAS ond gwneud taliadau i chi mae data ar eich pensiwn wedi cael ei dderbyn gan eich ymddiriedolwyr cynllun neu weinyddwr sydd fel arfer ar, neu’n agos at gyflawni dirwyn y cynllun i ben.
Mae gan rheolwr FAS y rhyddid i wneud ‘taliadau cychwynnol’ i aelodau cymwys o’r cynlluniau sydd yn parhau i ddirwyn i ben sydd wedi cyrraedd 65 oed, ple mae’n ystyried fod yr ymddiriedolwr yn gwneud taliadau cynllun dros dro ar lefel rhesymol i’r aelodau hynny. Gall y rhai sy’n goroesi a’r rhai ag afiechyd terfynol hefyd dderbyn taliadau cychwynnol.
Pan gynghorir cynllun ei fod yn gymwys am FAS, mae’r ymddiriedolwyr a/neu y gweinyddwyr hefyd yn cael gwybod y gallent ofyn am daliadau cychwynnol ar ran aelodau perthnasol. Os ydynt yn datgan diddordeb yna byddem yn gofyn iddynt ddarparu gwybodaeth am yr aelodau hynny, lefelau o unrhyw daliadau dros dro maent yn eu gwneud eisoes ac amcangyfrif o bensiwn disgwyliedig yr aelodau hynny.
Mae cyfrifo’r taliadau cychwynnol yn dilyn fformiwla tebyg i gyfrifo taliadau blynyddol. Fodd bynnag maent yn darparu ychwanegiad hyd at 60% yn hytrach na 80% o’r hawliadau pensiwn craidd disgwyliedig. Mae hyn oherwydd na fydd y cyfradd blwydd-dal terfynol ar gael i aelod o gynllun yn cael ei ddiogelu hyd nes i gynllun gwblhau’r dirwyn i ben. Dim ond goroeswyr, y rhai sydd ag afiechyd terfynol ac aelodau sydd yn disgwyl cyrraedd eu hoedran ymddeol arferol ar neu cyn 14 Mai 2011 all dderbyn taliad cychwynnol.
Bydd taliad cychwynnol yn ychwanegu at unrhyw bensiwn dros dro y gall y cynllun fod yn ei dalu. Gosodir cap o £12,000 a’r rheol de minimis o £520 pob blwyddyn yn yr un ffordd ar gyfer taliadau cychwynnol fel ag y maent yn ei wneud gyda thaliadau blynyddol.
Beth yw’r newidiadau allweddol i FAS?
Mae’r Rheoliadau
y Cynllun Cymorth Ariannol (Diwygiadau Amrywiol) (2006)
a
ddaeth i rym ar 14 Rhagfyr 2006 wedi gwneud nifer o newidiadau i’r
Cynllun Cymorth Ariannol. Mae crynodeb o’r elfennau allweddol isod:
- Cymhwyster ar gyfer cymorth yn cael ei ymestyn i aelodau a oedd o fewn 15 mlynedd o’u hoedran ymddeol arferol ar 14 Mai 2004;
- Mae’r dyddiad ple mae achlysur methdalu mewn perthynas â’r cyflogwr mewn perthynas â chynllun wedi gorfod digwydd er mwyn i gynllun fod yn gymwys ar gyfer FAS, wedi’i osod ar 28 Chwefror 2007. Mae cynlluniau a allai fod yn gymwys o ganlyniad i’r newid hwn yn cael eu hannog i gysylltu ag Uned Weithredol FAS cyn gynted a phosibl;
- Mae darpariaeth yn cael ei wneud ar gyfer cyflogwr mewn perthynas â chynllun nad yw’n ffurfiol wedi cael achlysur methdalu at bwrpas FAS cyn belled a bod rheolwr y cynllun yn fodlon fod gwerth eu hasedion yn llai na’r swm o’i hymrwymiadau, na all dalu ei ddyledion fel maent yn dod yn ddyledus, ac nad yw’n debygol o barhau fel busnes gweithredol.
- Mae darpariaeth yn cael ei wneud ar gyfer cyflogwr mewn perthynas a chynllun sydd wedi cael achlysur methdalu dramor fod rheolwr y cynllun yn fodlon o ran sylwedd i achlysur methdalu cymhwysol hefyd i gael ei drin fel ei fod wedi cael achlysur ansolfedd cymhwysol cyn belled a bod rheolwr y cynllun hefyd yn fodlon nad yw’r cyflogwr hwnnw yn debygol o barhau fel busnes gweithredol. Mae’n rhaid i hyn a’r amod sy’n berthnasol i gyflogwr nad yw wedi cael achlysur methdalu fod wedi digwydd ar neu cyn 28 Chwefror 2007.
- Mae darpariaeth yn cael ei wneud ar gyfer yr hawl i adolygiad ac apêl penderfyniad os yw aelod ag afiechyd terfynol ai peidio.
Mae’r taflenni Financial
Assistance Scheme - a guide for individual scheme members (FAS P1) (60KB)
,
ac Financial
Assistance Scheme - an in-depth guide for trustees and pension professionals
(FAS P2) (89KB)
,
yn rhoi manylion pellach.