Datganiad hygyrchedd
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am sicrhau bod yr ystod ehangaf posibl o bobl yn credu bod y wefan hon yn hawdd ei defnyddio, neu'n "hygyrch". Rydym wrthi'n gweithio i wella hygyrchedd ein gwefan.
Hygyrchedd ein safle
Caiff ein gwefan ei phrofi'n rheolaidd er mwyn sicrhau ei bod yn cyrraedd safon hygyrchedd y llywodraeth.
Gelwir y safon yn lefel A-Ddwbl o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We W3C.
Mae mwyafrif o'r safle yn cyrraedd Lefel A-Ddwbl. Fodd bynnag, nid yw ambell ran o'r safle ac ambell wasanaeth y gellir cael mynediad ato ar y safle hwn wedi cyrraedd y safon hon. Rydym yn gweithio i wella'r meysydd hyn.
Cymorth hygyrchedd
Mae nifer o nodweddion ar gael ar eich cyfrifiadur i wneud y wefan hon yn haws ei defnyddio.
Newid maint y testun ar y wefan hon
I newid maint y testun:
- Dewisiwch Text Size o'r ddewislen View. (Mewn rhai porwyr mae'n bosibl y gelwir Text Size yn Text Zoom neu'n Zoom)
- Dewiswch y maint sydd ei hangen arnoch o'r ddewislen Text Size.
Cyngor hygyrchedd i ddefnyddwyr Apple Mac
Mae system weithredu Apple Mac yn cynnwys llawer o opsiynau hygyrchedd, gan gynnwys newid maint testun, testun-i-lafar a dewisiadau bysellfwrdd yn lle swyddogaethau llygoden.
- Ewch i adran hygyrchedd gwefan Apple.
Cymorth gyda dogfennau PDF
Gallwch lwytho dogfennau i lawr ar Fformat Dogfen Gludadwy (PDF) drwy ddefnyddio Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.
Weithiau nodir dogfennau PDF gyda'r eicon hwn.![]()
Os nad yw eich meddalwedd darllen sgrîn (er enghraifft porwr gwe a alluogir gan sain) yn cyd-fynd ag Adobe Reader, mae Adobe yn darparu adnodd ar-lein am ddim sy'n trosi cynnwys ffeiliau PDF yn destun - fel y gall y rhan fwyaf o raglenni darllen sgrîn eu deall.
Newid golwg y wefan hon
Os ydych am newid lliw y testun neu'r cefndir, newid y ffont neu ddileu delweddau, darllenwch newid golwg y wefan hon.
Delweddau
Mae gan y rhan fwyaf o'r delweddau ar y wefan hon destun arall sy'n disgrifio eu cynnwys neu eu swyddogaeth. Nid yw delweddau a ddefnyddir mewn graffeg addurnol neu at ddibenion cynllun yn cynnwys testun arall.
Rhagor o gymorth
Am ragor o gymorth o ran newid eich porwr, eich system weithredu, neu osodiadau eich cyfrifiadur i weld gwefannau mewn ffordd fwy hygyrch, ewch i My Web My Way y BBC.
Manylion cyswllt
Rydym yn croesawu adborth ar hygyrchedd a defnyddioldeb ein safle.
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, os ydych yn cael anhawster defnyddio unrhyw ran o’n gwefan neu i gael copi o’n polisi hygyrchedd, cysylltwch â ni.