This snapshot taken on 27/07/2008, shows web content selected for preservation by The National Archives. External links, forms and search boxes may not work in archived websites.

Amdanom Ni

Y Gwir Anrhydeddus Stephen Timms AS

Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles

Penodwyd Stephen Timms fel Ysgrifennydd Gwladol dros Gyflogaeth a Lles yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ym mis Ionawr. Tan hynny’n, roedd yn Weinidog dros Gystadleurwyddd o fis Mehefin 2007 yn yr Adran Busnes, Menter a Diwygio a  Rheoleiddio. Cyn hynny roedd yn Brif Ysgrifennydd i’r Trysorlys, yn dilyn ei rôl fel Gweinidog dros Ddiwygio Pensiynau. Ymhlith ei swyddi gweinidogol eraill yw Ysgrifennydd Ariannol i’r Trysorlys; Gweinidog dros e-Fasnach a Chystadleurwydd a Gweinidog dros Ynni, e-fasnanch a Gwasanaethau Post  yn yr Adran Fasnach a Diwydiant; Gweinidog Gwladol dros Safonau Ysgolion; a’r Ysgrifennydd Gwladol ac Is-ysgrifennydd Seneddol yn yr Adran Nawdd Cymdeithasol.

Ymunodd Stephen â’r Senedd yn 1994 fel Aelod Seneddol ar gyfer Gogledd Dwyrain Newham, ac mae wedi bod yn AS ar gyfer East Ham ers 1997.  Roedd yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Andrew Smith o fis Fai 1997 i fis Fawrth 1998, a Mo Mowlam o Fawrth i Orffennaf 1998.

Ganwyd Stephen yn 1955. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Farnborough ac astudiodd  mathemateg yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt. Mae wedi byw yn Bwrdeistref Dwyrain Llundain Newham ers 1979 a phriododd Hui-Leng ym mis Gorffennaf 1986. Cyn dechrau yn y Senedd, gweithiodd Stehen yn y diwydiant telegyfathrebu am 15 mlynedd, yn gyntaf i Logica ac yna i Ovum. Cafodd ei ethol i Gyngor Newham yn 1984 a roedd yn Arweinwr y Cyngor o 1990 i 1994.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.