Atodiad C: Rheoli Dyled
1 CYFLWYNIAD
1.1 Ein Busnes
Mae Rheoli Dyled yn rhan o Is-adran Gwasanaethau Ariannol y Gyfarwyddiaeth Cyllid Grwp ac mae’n darparu gwasanaeth rheoli ac adennill dyledion ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Prif nodau’r sefydliad Rheoli Dyled yw:
- Cynorthwyo’r Adran Gwaith a Phensiynau i leihau’r colledion a ddaw yn sgÎl twyll a gwallau drwy gasglu dyledion mewn ffordd effeithlon ac effeithiol; a
- Darparu sefydliad rheoli ac adennill dyledion cyfunol a hygyrch.
Yn ogystal, bydd Rheoli Dyled yn cydymffurfio Â’r canllawiau a nodir yn yr Atodiad hwn a’r rhai o fewn Cynllun Iaith Gymraeg yr Adran Gwaith a Phensiynau pan fo’n effeithio ar fusnes Rheoli Dyled.
Ar hyn o bryd mae Rheoli Dyled yn gweithredu dros 120 o unedau er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, gyda 5 ohonynt yng Nghymru. Bydd y gwasanaeth yn gweithredu o 10 Canolfan Dyled ganolog erbyn 2005, gydag un wedi’i lleoli ym Mhorth yng Nghymru er mwyn gwasanaethu Cwsmeriaid Cymraeg.
1.2 Ein Diben
Mae Rheoli Dyled yn wasanaeth cwsmeriaid ac yn wasanaeth a rennir, a’i swyddogaeth yw darparu gwasanaeth rheoli ac adennill dyledion ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Prif flaenoriaethau Rheoli Dyled yw:
- Cynyddu nifer y dyledion sy’n cael eu hadennill;
- Lleihau stociau dyled yn yr hirdymor;
- Gwella rheolaeth ariannol y broses o’i dechrau i’w diwedd;
- Gwella’r broses cyfrifo dyledion a dileu cymwysterau archwilio; a
- Gwella effeithlonrwydd cyffredinol y sefydliad Dyled drwy sefydlu Canolfannau Dyled.
Er mwyn cyflawni gweledigaeth Rheoli Dyled sef ‘rhagoriaeth wrth reoli dyledion’ mae’r sefydliad yn dilyn rhaglen sylweddol o newid. CrËwyd y Rhaglen Dyledion mewn ymateb i Weinidogion, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus o ran proses rheoli dyledion yr hen Adran Nawdd Cymdeithasol. Mae’r stoc ddyled bresennol dros £1 biliwn ac mae’n cynyddu. Mae strategaeth y Rhaglen yn ceisio moderneiddio’r broses rheoli dyled a chyfrifo dyledion drwy gyflwyno strwythurau trefniadol a systemau rheoli gwybodaeth newydd. Mae’r prif amcanion yn cynnwys:
- Gweithredu’r Model Gorau Posibl ar gyfer rheoli dyledion;
- Cydymffurfio  safonau cyfrifo a gofynion archwilio;
- Adennill mwy o ordaliadau a lleihau’r balans dyledion sy’n weddill;
- Gwella gwasanaethau cwsmeriaid i ddyledwyr;
- Rheolaethau busnes a rheolaethau ariannol gwell;
- Gwell effeithlonrwydd a lleihau’r costau uned wrth adennill gordaliadau.
1.3 Trefniadaeth
Mae gwasanaethau cyfredol Rheoli Dyled yn cynnwys:
- Rheoli ac adennill gordaliadau budd-dal. Gwneir gordaliadau yn sgÎl cyfeiriadau gan sefydliadau cleientiaid, y Ganolfan Byd Gwaith a’r Gwasanaeth Pensiwn yn bennaf.
- Casglu taliadau cynhaliaeth sydd y tu allan i awdurdod yr Asiantaeth Cynnal Plant.
- Gwasanaeth rheolaeth ariannol a chyfrifo dyledion ar draws yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae’r gweithrediadau arbenigol canolog yn cynnwys:
- Adennill o Ystadau
Mae’r uned hon yn adennill gordaliadau sy’n deillio o asedau nas datgelwyd a ganfuir ar Ôl marwolaeth, adennill gordaliadau presennol o ystadau a chasglu iawndal a ddyfarnwyd i’r Adran Gwaith a Phensiynau drwy lys yr ynadon. - Recovery Group Scotland
Mae’r uned hon yn adennill gordaliadau budd-dal a benthyciadau’r Gronfa Gymdeithasol a gyflwynir gan Swyddfeydd yr Alban, yn casglu iawndal a delir drwy llys Siryf ac yn adennill gordaliadau a benthyciadau’r Gronfa Gymdeithasol ar Ôl marwolaeth. - Yr Uned Adennill Iawndal
Mae’r uned hon yn adennill symiau o fudd-daliadau a delir yn sgÎl anaf, damwain neu salwch pan fo taliad iawndal dyblyg dilynol yn cael ei wneud. Mae hefyd yn adennill costau ysbytai’r GIG ar gyfer trin anafiadau yn sgÎl damweiniau ffordd. - Y Grwp Adennill Canolog
Mae gan yr uned hon dair prif swyddogaeth. Mae’n adennill gordaliadau pan na fydd Cwsmeriaid yn derbyn y Budd-dal priodol, yn adennill benthyciadau’r Gronfa Gymdeithasol sy’n briodol ar gyfer achosion sifil ac yn casglu taliadau cynhaliaeth nas cynhwysir o fewn awdurdod yr Asiantaeth Cynnal Plant.
Cyflwyno Canolfannau Dyled
Mae trefniadaeth a strwythur Rheoli Dyled yn newid yn sylweddol, yn enwedig y broses o gyfuno sefydliad gwahanol yn wasanaeth ariannol proffesiynol. Elfen allweddol o’r strategaeth hon yw sefydlu 10 o Ganolfannau Dyled penodol gan ddisodli’r unedau cyfredol.
O fewn y Rhaglen Dyledion gynhwysfawr, lluniwyd Project Gweithredu’r Ganolfan Dyled er mwyn cyflwyno 10 o Ganolfannau Dyled. Bydd y cynllun gweithredu yn cwmpasu’r broses iteraidd o gyflwyno Canolfannau Dyled erbyn diwedd 2005. Bydd Canolfan Dyled Porth yn rheoli dyledion Rhanbarth Swyddfa Llywodraeth Cymru.
2 CYFLENWI
2.1 PolisÏau a Mentrau Newydd
Bydd Rheoli Dyled yn ceisio sicrhau bod yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal yn ystod camau cynllunio a gweithredu polisÏau a mentrau newydd.
Nod Rheoli Dyled fydd cynnig gwasanaeth cyfartal i bawb sy’n defnyddio ein sefydliad pa iaith bynnag y byddant yn dewis ei defnyddio.
3 DELIO Â’R CYHOEDD SY’N SIARAD CYMRAEG
3.1 Yr Effaith ar Ein Cwsmeriaid
- Mae ein Cwsmeriaid Rheoli Dyled yn cael eu heffeithio’n bennaf yn ystod y broses gyfreithiol o adennill gordaliadau.
- Ni cheir cyfleusterau Rheoli Dyled dros y cownter i’r cyhoedd.
- Fel arfer, cysylltir drwy ohebiaeth ysgrifenedig yn gyntaf, ac yn dilyn hynny dros y ffÔn a thrwy llythyrau pellach fel y bo’n briodol.
- Defnyddir y peiriant ffacs a’r e-bost hefyd fel y bo’n briodol.
- Ym mhob achos pan fydd y Cwsmer wedi dewis y Gymraeg fel eu dewis iaith byddwn yn dosbarthu’r holl ohebiaeth ddilynol yn Gymraeg.
3.2 Cyfathrebu
Bydd Rheoli Dyled yn ceisio sicrhau bod pawb sy’n cysylltu Â’r sefydliad (yn ysgrifenedig, dros y ffÔn, e-bost, y Rhyngrwyd ac unrhyw gyfrwng arall) yn gallu gwneud hynny yn Gymraeg neu’n Saesneg ac yn cael eu hannog i wneud hynny.
3.3 Cyfathrebu ysgrifenedig (gan gynnwys cyfathrebu electronig)
“Unedau Rheoli Dyled yng Nghymruâ€
- Bydd yr holl ohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg gan gwsmeriaid yng Nghymru yn cael ei hateb yn Gymraeg o fewn yr un cyfraddau amser  gohebiaeth a ysgrifennir yn Saesneg.
- Croesewir aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru i gyfathrebu  Rheoli Dyled yn eu dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg).
- Ein nod yw darparu ein gwasanaeth llawn i gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.
- Bydd rhestr o’r siaradwyr Cymraeg mewn swyddfeydd ar gael er mwyn cynorthwyo hyn.
- Bydd canllawiau ar gael i’r staff, a chaiff ymwybyddiaeth o Ddeddf yr Iaith Gymraeg ei chynnwys yn y pecyn sefydlu staff.
- Bydd y broses sefydlu staff yn croesawu ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg er mwyn cynorthwyo’r broses o ddarparu’r cynllun hwn.
- Bydd penawdau llythyrau a thaflenni ffacs yn ddwyieithog pan fyddwn yn cysylltu  chwsmeriaid sy’n byw yng Nghymru.
- Pan fu’n rhaid i ni anfon llythyrau a gynhyrchir ar gyfrifiadur yn Saesneg yn unig, byddwn yn anfon llythyrau dilynol yn Gymraeg pan wneir cais am hynny.
“Unedau Rheoli Dyled Canolog Cenedlaethol y tu allan i Gymru â€
- Ein nod yw darparu gwasanaeth priodol yn Gymraeg.
- Pan na fyddwn yn gallu ateb ceisiadau am wasanaeth Cymraeg yn lleol, byddwn yn defnyddio gwasanaethau swyddfeydd Rheoli Dyled yng Nghymru neu Unedau DWP gan gynnwys Uned yr Iaith Gymraeg.
3.4 Galwadau FfÔn
“Unedau Rheoli Dyled yng Nghymruâ€
- Bydd aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru yn gallu siarad  Rheoli Dyled yn eu dewis iaith ac yn cael eu hannog i wneud hynny.
- Bydd cyfarchion cychwynnol y switsfwrdd a’r peiriant ateb yn ddwyieithog.
- Pan geir siaradwyr Cymraeg yn ein swyddfeydd, byddwn yn ateb galwadau ffÔn llinell uniongyrchol gan gwsmeriaid yn ddwyieithog.
- Pan na fydd aelod o’r staff yn gallu parhau Â’r alwad ffÔn yn Gymraeg, bydd yr alwad yn cael ei throsglwyddo i aelod o’r staff sy’n siarad Cymraeg yn yr un swyddfa lle bynnag y bo’n bosibl.
- Pan na fyddwn yn gallu ateb ceisiadau am wasanaeth Cymraeg yn lleol, byddwn yn defnyddio Unedau DWP gan gynnwys gofyn i Uned yr Iaith Gymraeg ffonio’r cwsmer yn Ôl.
“Unedau Rheoli Dyled Canolog Cenedlaethol y tu allan i Gymru â€
- Ein nod yw darparu gwasanaeth priodol yn Gymraeg.
- Pan na fyddwn yn gallu ateb ceisiadau am wasanaeth Cymraeg yn lleol, byddwn yn defnyddio gwasanaethau swyddfeydd Rheoli Dyled yng Nghymru neu Unedau DWP allanol gan gynnwys gofyn Uned yr Iaith Gymraeg ffonio’r cwsmer yn Ôl.
4 GWEITHREDU A MONITRO
4.1 Staffio
- Nod Rheoli Dyled yw darparu ein gwasanaeth llawn yn Gymraeg. Er mwyn cyflawni hyn, bydd rhestr o’r siaradwyr Cymraeg mewn swyddfeydd ar gael.
- Bydd canllawiau ar gael i’r staff, a chaiff ymwybyddiaeth o Ddeddf yr Iaith Gymraeg ei chynnwys yn y pecyn sefydlu staff a gynigir i staff a leolir yng Nghymru.
- Bydd y broses recriwtio staff yn croesawu ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg er mwyn cyrraedd y nodau a gynhwysir yn yr Atodiad hwn.
- Bydd ceisiadau am wasanaeth Cymraeg a dderbynnir gan swyddfeydd y tu allan i Gymru yn cael eu hateb drwy ddefnyddio staff sy’n siarad Cymraeg a leolir mewn swyddfeydd yng Nghymru, lle y bo’n briodol.
4.2 Dysgu Cymraeg
Mae Rheoli Dyled yn ymrwymedig i annog a chynorthwyo aelodau o staff a leolir mewn swyddfeydd yng Nghymru i ddysgu Cymraeg neu wella eu gallu i siarad Cymraeg, er mwyn bodloni’r ymrwymiadau a gynhwysir o fewn yr Atodiad hwn.
4.3 Recriwtio
- Bydd y gallu i siarad Cymraeg a Saesneg yn cael ei ystyried yn ogystal ag amrywiaeth o sgiliau eraill wrth benodi staff mewn swyddfeydd yng Nghymru.
- Bydd sgiliau iaith Gymraeg yn cael eu hamlygu fel ffactor a fyddyn cael ei ystyried mewn hysbysebion ar gyfer swyddi gwag mewn swyddfeydd Rheoli Dyled yng Nghymru.
- Bydd ymarferion recriwtio allanol ar gyfer swyddi gwag Rheoli Dyled mewn swyddfeydd yng Nghymru yn cael eu hysbysebu yn Gymraeg ac yn Saesneg yn y wasg.
4.4 Contractwyr Allanol
- Bydd unrhyw wasanaeth a ddarperir gan Rheoli Dyled mewn perthynas Â’i fusnes yng Nghymru sy’n cynnwys asiantau, ymgynghorwyr neu gontractwyr yn ceisio cyrraedd y safonau a nodir yn yr Atodiad hwn yn yr un modd.
- Yn ei ddogfennau tendro a gyflwynir i ddarparwyr allanol, bydd Rheoli Dyled yn nodi’r gofyniad i gydymffurfio  Chynllun Iaith Gymraeg yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r darpariaethau a nodir yn yr Atodiad hwn.
4.5 Monitro
- Y Pennaeth Dyled sy’n bennaf gyfrifol am sicrhau bod Rheoli Dyled yn bodloni’r ymrwymiadau a nodir yn y ddogfen hon.
- Bydd yr archwiliadau o’r camau cydymffurfio a gymerwyd yn cael eu cadw yn unol  chanllawiau cadw dogfennau yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Bydd adroddiad monitro a sicrhau cydymffurfiad yn cael ei gyflwyno i’r Pennaeth Dyledion yn flynyddol. Bydd hwn:
- Yn deillio o’r broses monitro rheolaeth barhaus gyda sicrwydd gan bob Uwch Reolwr Gweithredol  chyfrifoldeb dros unedau yng Nghymru neu unedau cenedlaethol canolog sy’n delio  chwsmeriaid yng Nghymru;
- Yn cadarnhau bod y safonau a gynhwysir yng nghynllun yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Atodiad hwn yn cael eu cyrraedd;
- Yn nodi eithriadau pan na chyrhaeddwyd safonau a’r camau cydymffurfio a gymerwyd yn sgÎl hynny; ac
- Yn galluogi’r broses o gwblhau adroddiad eithrio blynyddol pan fo hynny’n angenrheidiol gan yr Ysgrifennydd Parhaol neu Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
4.6 Cwynion
- Gellir cwyno am y gwasanaeth Cymraeg a ddarperir gan Rheoli Dyled drwy’r sianeli arferol.
- Byddwn yn delio  chwynion o’r fath yn yr un modd, a byddant yn cael eu datrys o fewn yr un cyfraddau amser  chwynion eraill sy’n ymwneud  darpariaeth gwasanaeth Rheoli Dyled.
- Y rheolwr priodol fydd yn delio  chwynion sy’n ymwneud  methu  chydymffurfio Â’r mesurau a nodir yn y Cynllun a’r Atodiad hwn yn unol ag arweiniad yr Adran Gwaith a Phensiynau. Y tÎm rheoli lleol fydd yn gyfrifol am hyn i ddechrau gyda gweithdrefnau dwysÁu arferol lle y bo’n briodol.
- Cynllun Iaith Gymraeg PDF (172KB)
Roedd yr holl wybodaeth ar y safle hwn yn gywir ar amser y cyhoeddiad ac yn amodol ar © Hawlfraint y Goron
