This snapshot, taken on 07/04/2010, shows web content selected for preservation by The National Archives. External links, forms and search boxes may not work in archived websites.

Adran Gwaith a Phensiynau

Tools menu


Chwilio'r safle

Site navigation

Polisi


Newyddion diweddaraf

Rheolaethau Pensiynau (Ymrestru Awtomatig) 2009: Ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad

24 Medi 2009

Heddiw rydym yn cyhoeddi Ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad: Rheolaethau Pensiynau (Ymrestru Awtomatig) 2009, rydym wedi ymgynghori arno yn gynharach y flwyddyn hon (Mawrth – Mehefin 2009)

Papur ymgynghori ar Ddiwygio Pensiwn yn y Gweithle: Cwblhau’r Darlun

24 Medi 2009

Heddiw mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi dogfen ymgynghori mewn cysylltiad Â'r rheolaethau a wnaethpwyd drwy ddefnyddio’r pwerau oedd wedi’u cynnwys yn y Ddeddf Pensiynau 2008. Mae’r rheolaethau hyn yn cwmpasu:

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn parhau tan y 5 Tachwedd.

Bydd asesiad effaith yn cael ei gyhoeddi ochr wrth ochr i’r ddogfen ymgynghori hon.

Papur ymgynghori ar ddefnydd Dewisiadau Diofyn ym Mhensiynau Gweithle Personol a'r defnydd o Grwpiau Pensiynau Personol Hunanfuddsodiad ar gyfer Ymrestru Awtomatig

24 Medi 2009

Rydym yn ymgynghori ar y canllawiau draft sy’n berthnasol i’r diwygiadau a gyflwynwyd yn y Ddeddf Pensiynau 2008:

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn parhau tan yr 17 Rnagfyr.

Diwygiadau Pensiwn y Wladwriaeth - pecyn briffio i ymgynghorwyr

30 Ebrill 2009

Nod y pecyn hwn yw cynorthwyo unrhyw ymgynghorydd i esbonio i'w cwsmeriaid sydd am ddeall sut y gall newidiadau i Bensiynau'r Wladwriaeth sy'n dod yn weithredol o'r 6 Ebrill 2010 effeithio arnynt. Bydd y newidiadau hyn yn gwneud Pensiynau'r Wladwriaeth yn symlach, tecach ac ar gael yn ehangach a chaiff y newidiadau hyn effeithiau sylweddol.

Ymgynghoriad pensiynau ar y rheolau a chynllun gorchymyn drafft

28 Ebrill 2009

Heddiw cyflwynodd y Llywodraeth dogfen ymgynghorol sy'n gosod allan yr argymhellion ar gyfer y fframwaith cyfreithiol o'r cynllun cyfrifon personol - y rheolau a chynllun gorchymyn. Mae'r cynllun cyfrifon personol yn rhan allweddol o ddiwygiad pensiwn y Llywodraeth a bydd yn helpu miliynau o bobl i gynilo ar gyfer eu hymddeoliad am y tro cyntaf - bydd nifer ohonynt yn cael incwm cymedrol. Mae hwn yn gyhoeddiad ar y cyd gyda'r Awdurdod Dosbarthu Cyfrifon Personol.

Dogfen ymgynghorol ar Ymrestru Awtomatig ac i alluogi'r Rheoleiddiwr Pensiynau i ddirprwyo rhai pwerau cydymffurfio

12 Mawrth 2009

Heddiw cyflwynodd y Llywodraeth ddogfen ymgynghorol drafft ar y Rheolaethau Pensiynau (Ymrestru Awtomatig) 2009 a wnaed o dan Adran 1 Rhan o'r Ddeddf Pensiynau 2008 a'r Rheolaethau Rheoleiddiwr Pensiynau (Dirprwyo Pwerau) 2009 drafft a wnaed o dan Ran 5 o'r Ddeddf. Mae asesiad effaith o'r Rheolaethau Pensiynau (Ymrestru Awtomatig) 2009 yn cael ei gyhoeddi gyda'r ddogfen ymgynghorol hon.

Y Ddeddf Pensiynau 2008

26 Tachwedd 2008

Mae'r Ddeddf Pensiynau 2008 yn gwneud yn gyfreithlon y diwygiadau i'r system pensiwn preifat sydd wedi'i anelu at annog pobl i adeiladu incwm pensiwn preifat fel atodiad i'w Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol pan maent yn ymddeol. Bydd y mwyafrif o'r mesurau yn y Ddeddf yn dod i rym o 2012.

Dogfen ymgynghorol ar rannu risg

5 Mehefin 2008

Mae gan y llywodraeth ddiddordeb mewn gofyn am farn ar rannu risg o fewn cynlluniau pensiynau galwedigaethol a heddiw maent wedi cyhoeddi dogfen ymgynghorol (2MB) PDF. Cyhoeddwyd asesiad effaith (76KB) PDF gyda'r ddogfen ymgynghorol.

Mae'r cyfnod ymgynghorol yn dod i ben ar 28 Awst 2008.

Ymgynghoriad - Pwerau'r Rheolydd Pensiynau

25 Ebrill 2008

Ymgynghoriad ar gynyddu pwerau'r Rheoleiddiwyr Pensiynau

14 Ebrill 2008

Mae'r Llywodraeth wedi cynnig newidiadau i bwerau'r Rheoleiddiwr Pensiynau mewn perthynas i gynlluniau pensiwn galwedigaethol, er mwyn cynyddu'r diogelwch i aelodau cynllun pensiwn. Bydd dogfen ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi yn fuan ac unrhyw ddeddfwriaeth ddilynol yn cael ei gyflwyno cyn gynted  phosibl.

Cyhoeddi Adolygiad Thoresen

3 Mawrth 2008

Mae Otto Thoresen wedi cyhoeddi'r adroddiad terfynol o'i Adolygiad o Gyngor Ariannol Cyffredinol sy'n ymchwilio glaslunio ar gyfer gwasanaeth cyngor ar arian cenedlaethol, fel bod pobl yn gallu gwneud penderfyniadau gwell ynglŶn  materion arian, yn cynnwys pensiynau.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall rhai cysylltiadau eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.