Dyddiadau dechrau cyffredin
Er cymharol fychan y mae rheoliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau yn effeithio ar fusnesau, yr Adran oedd un o'r rhai cyntaf i fabwysiadu polisi'r Llywodraeth y dylai rheoliadau domestig sy'n cael effaith ar fusnes ddechrau ar un o ddau ddyddiad (6 Ebrill a 1 Hydref) bob blwyddyn. Mae hwn yn cyfyngu’r dyddiadau y gellir cyflawni newidiadau rheoliadol, gan sicrhau y bydd busnesau yn cynllunio ar gyfer mesurau newydd ac yn eu gweithredu yn fwy effeithiol.
Fodd bynnag, ambell waith, bu'n angenrheidiol cyflwyno rhywfaint o ddeddfwriaeth ychydig yn gynharach na 6 Ebrill er mwyn cydlynu â dechrau blwyddyn gyfrifo'r Gronfa Ddiogelu Pensiynau (1 Ebrill).
Datganiad o reoliadau ar ddod sy'n effeithio ar fusnesau, elusennau neu'r sector gwirfoddol – 2009
Caiff y sefyllfa hon ei hadolygu'n barhaus.
Yn dod i rym ar 6 Ebrill 2009
- Rheoliadau Pensiynau Galwedigaethol, Personol a Rhanddeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) 2009
Mae'r rheoliadau hyn yn galluogi rhai cynlluniau pensiwn galwedigaethol i leihau costau
