| |
YMGYNGHORIAD
CYHOEDDUS AR GYNNIG Y COMISIWN AR GYFER CYFARWYDDEB YNGHYLCH AMODAU GWAITH
GWEITHWYR (ASIANTAETH) DROS DRO
Ar
ôl gweld chwalu trafodaethau’r partneriaid cymdeithasol ar gytundeb
fframwaith ar gyfer gwaith asiantaeth dros dro (GADD) ym Mai 2001, roedd
Comisiwn Ewrop wedi bod yn gweithio ar gynnig ar gyfer cyfarwyddeb ynghylch GADD.
Cyhoeddodd y Comisiwn eu cynnig ar 20 Mawrth 2002.
Nod cyffredinol y cynnig yw gwella ansawdd GADD trwy fynnu bod gweithwyr
asiantaeth dros dro yn cael eu trin heb fod yn llai ffafriol na gweithwyr
parhaol cymaradwy o fewn y fenter y neilltuir y gweithiwr dros dro iddi.
Arfaetha hefyd sefydlu fframwaith Ewropeaidd ar gyfer defnyddio GADD.
Diben
y ddogfen hon yw rhoi cyfle i gyfranogion gyflwyno sylwadau ar gynnig y Comisiwn.
Mae’r cynnig ar hyn o bryd yn cael ei ystyried gan Gyngor y Gweinidogion (y
mae’r DU yn aelod ohono, fel gwladwriaethau aelodol eraill UE) a Senedd Ewrop.
Yn fwyaf arbennig, mae gan y Llywodraeth ddiddordeb ym marn asiantaethau gwaith
dros dro, cyflogwyr a gweithwyr asiantaeth a’r rhai sy’n eu cynrychioli o
ran yr effaith a gaiff y cynnig ar waith asiantaeth dros dro yn y DU. Gall yr
wybodaeth hon gyfrannu at asesiad o effeithiau tebygol y cynnig ar farchnad
lafur y DU.
Mae’r
ddogfen hon yn cynnwys crynodeb byr o brif ofynion cynnig y Comisiwn a chrynodeb
o’r Asesiad o’i Effeithiau Rheoleiddiol. Hwyrach yr hoffech astudio’r
cynnig ei hun neu ddarllen y Memorandwm Esboniadol (16Kb)
ac Asesiad llawn yr Effeithiau Rheoleiddiol (102Kb).
Mae’r
cynnig yn dibynnu ar y drefn gyd-benderfynu – hynny yw, bod rhaid i Gyngor y
Gweinidogion a Senedd Ewrop gytuno arno os yw i ddod yn gyfraith. Os derbynnir y
cynnig fel cyfarwyddeb, fe bennir dyddiad trawsosod a fyddai’n rhoi i
wladwriaethau aelodol, gan gynnwys y DU, ysbaid benodol o amser (o leiaf 2
flynedd fel arfer) i basio deddfwriaeth briodol.
Gellir
trefnu i’ch ymateb i’r ddogfen ymgynghori hon fod ar gael yn gyhoeddus yn ei
grynswth neu’n rhannol yn ôl ewyllys yr Adran. Os nad ydych am i unrhyw ran
o’ch ymateb (gan gynnwys eich hunaniaeth) gael ei gwneud yn gyhoeddus, rhaid
ichi ddweud yn yr ymateb pa rannau yr ydych am inni eu cadw’n gyfrinachol. Lle
na fynnir cyfrinachedd, gellir trefnu i ymatebion fod ar gael i unrhyw ymholydd
neu gael eu cyhoeddi trwy unrhyw ddull.
Gallwn
ddarparu fersiynau print bras a fersiynau tâp o’r papur ymgynghori hwn –
cysylltwch ag Anita Thomas os bydd angen y rhain arnoch.
Dylid
anfon sylwadau ar gynnig y Comisiwn cyn gynted â phosibl a heb fod yn
ddiweddarach na 18 Hydref 2002 at:
Anita
Thomas
E-bost: Anita.Thomas@dti.gsi.gov.uk
Department
of Trade and Industry
UG82,
Europe and Flexibility Branch
Employment
Relations Directorate
1
Victoria Street, Llundain SW1H 0ET
Cynnig
y Comisiwn
Mae’r
cynnig yn dilyn ymagwedd sy’n debyg i gyfarwyddebau presennol, a gafodd eu
trafod gan Bartneriaid Cymdeithasol UE, ar Waith Rhan-amser a Gwaith Tymor
Penodedig. Amcanion datganedig y cynnig
yw gwella ansawdd gwaith asiantaeth dros dro trwy gymhwyso egwyddor triniaeth
gyfartal at weithwyr asiantaeth dros dro a sefydlu fframwaith addas ar gyfer
manteisio ar waith asiantaeth dros dro yn UE. Mae’n gymwys i weithwyr a gaiff
eu cyflogi gan asiantaethau gwaith dros dro a’u hanfon i gwmnïau cleient i
weithio o dan oruchwyliaeth y cwmnïau cleient hynny.
Prif
ofynion y cynnig yw:
-
Na
ddylid rhoi i weithiwr asiantaeth a anfonir i weithio o dan reolaeth cwmni
cleient amodau gwaith sylfaenol sy’n llai ffafriol nag amodau gweithiwr
parhaol tebyg o fewn y cwmni cleient, oni bai fod cyfiawnhad gwrthrychol
dros hynny.
-
Amodau
gwaith sylfaenol y gyfarwyddeb fel a ganlyn: hyd y dydd gwaith, cyfnodau
gorffwys, gwaith nos, gwyliau tâl a gwyliau cyhoeddus; cyflog;
gwaith a wneir gan ferched beichiog a mamau sy’n rhoi’r fron, plant a
phobl ifanc; a chamau a gymerir i ymladd gwahaniaethu annheg ar sail rhyw,
hil neu darddiad ethnig, crefydd neu gredo, anabledd, oedran neu dueddiad
rhywiol.
-
Bod
modd i wladwriaethau aelodol ddewis peidio â chymhwyso’r gofyniad hwn o
ran triniaeth gyfartal lle caiff gweithwyr asiantaeth dros dro eu cyflogi o
dan gontractau parhaol (sef, lle telir gweithwyr asiantaeth dros dro gan yr
asiantaeth rhwng aseiniadau), lle ceir cytundebau ar y cyd sy’n darparu ar
gyfer gweithwyr asiantaeth dros dro, neu lle gall aseiniadau gweithwyr
asiantaeth dros dro gael eu cyflawni o fewn chwe wythnos neu lai.
-
Y
dylai gwladwriaethau aelodol adolygu o dro i dro y cyfyngiadau a osodir ar
ddefnyddio gweithwyr asiantaeth dros dro a chymryd camau penodedig i’w
gwneud yn haws iddynt ddod o hyd i swyddi parhaol.
-
Y
dylai cwmnïau sy’n manteisio ar y drefn hon roi i weithwyr asiantaeth
dros dro fynediad i’r ‘gwasanaethau cymdeithasol’ a ddarperir ar gyfer
gweithwyr parhaol.
-
Y
dylid rhoi gwybod i weithwyr asiantaeth am swyddi parhaol sy’n dod yn wag
o fewn cwmni sy’n perthyn i’r drefn.
-
Y
dylai cymalau sy’n gwahardd neu sydd o ran effaith yn atal ffurfio
contractau, ar ddiwedd aseiniad y gweithiwr, rhwng gweithiwr asiantaeth a
chwmni sy’n perthyn i’r drefn fod yn ddi-rym.
-
Y
byddai’n rhaid i gwmnïau sy’n defnyddio gweithwyr asiantaeth sôn am y
ffordd y manteisir ar GADD wrth roi gwybodaeth am y sefyllfa gyflogaeth o
fewn y cwmni i gyrff gwybodaeth gweithwyr a chyrff ymgynghori.
Gwaith
Asiantaeth yn y D.U.
Amcangyfrifir
bod 700,000 o weithwyr asiantaeth yn y DU yn dilyn aseiniadau dros dro ar unrhyw
adeg arbennig, h.y. tua 2.8% o’r gweithlu. Mae
gwaith asiantaeth yn bodoli ers dechrau’r ganrif ddiwethaf a chaiff ei
reoleiddio gan Ddeddf Asiantaethau Cyflogi 1973 a Rheoliadau Ymddygiad
Asiantaethau Cyflogi a Rheoliadau Busnesau Cyflogi 1976 (sy’n cael eu hadolygu
ar hyn o bryd). Gorfodir y rhain gan Swyddfa Arolygwyr Safonau Asiantaethau
Cyflogi’r DTI. Yn ogystal, mae hawliau
cyflogaeth sylfaenol arbennig, fel y lleiafswm cyflog cenedlaethol, y rheoliadau
amser gweithio a’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, wedi cael eu cymhwyso’n
benodol at weithwyr asiantaeth, a gall hawliau statudol eraill fod yn gymwys,
gan ddibynnu ar natur y berthynas rhwng yr asiantaeth a’r gweithiwr.
Byddai
cynnig y Comisiwn yn mynnu newidiadau sylweddol i ddeddfwriaeth gyfredol y DU,
yn bennaf i ymgorffori’r rhwymedigaeth dim-gwahaniaethu.
Ar hyn o bryd, caiff cyflog ac amodau gweithwyr asiantaeth eu gosod gan
yr asiantaeth yn unol ag egwyddorion y farchnad neu gytundebau ar y cyd, a
hynny’n gyffredinol heb gyfeirio at yr amodau o fewn y fenter y cânt eu
hanfon i weithio iddi dros dro.
Dadl
y Comisiwn yw y byddai’r gyfarwyddeb yn gwella amodau gwaith gweithwyr
asiantaeth ac felly’n cynyddu cyflenwad gweithwyr asiantaeth.
Mae’r Llywodraeth yn awyddus na ddylai’r gyfarwyddeb achosi
gostyngiad yn y galw am weithwyr asiantaeth, gyda chanlyniadau negyddol i
weithwyr asiantaeth a mentrau sy’n rhan o’r drefn yn nhermau cyfleoedd
gwaith ac ystwythder y farchnad lafur. Gall
gwaith asiantaeth fod yn ffordd ddefnyddiol i weithwyr ymuno â’r farchnad
lafur, yn enwedig lle mae swyddi parhaol yn y cwestiwn. Gall hybu ystwythder y
farchnad lafur mewn ffyrdd sydd o fudd i fusnesau a gweithwyr fel ei gilydd.
Gall hefyd roi i weithwyr sydd am reoli neu amrywio eu patrymau gwaith fwy o
ddewis na gwaith parhaol. Mae fframwaith
rheoleiddiol presennol y DU yn cynnig cydbwysedd rhwng ystwythder a diogelwch i
weithwyr asiantaeth, a byddai’r Llywodraeth yn hoffi sicrhau bod y gyfarwyddeb
arfaethedig yn weddol gydnaws â hynny.
Rydym
felly yn ceisio sylwadau, yn enwedig gan weithwyr asiantaeth dros dro,
asiantaethau, cyflogwyr a chymdeithasau sy’n cynrychioli cyflogwyr a gweithwyr,
ar yr effaith y gallai’r cynigion ei chael ar ddefnydd ac argaeledd gwaith
asiantaeth dros dro yn y DU. Wrth leisio barn, a fyddech cystal â nodi a ydych
yn cynrychioli gweithwyr asiantaeth, asiantaethau, cyflogwyr neu eraill? Yn
arbennig, byddem yn croesawu:
-
Sylwadau
am effaith y cynigion ar farchnad lafur y DU yn ei chrynswth a thystiolaeth
o’r effaith honno;
-
Tystiolaeth
o effaith debygol y cynigion ar gyfraddau cyflogaeth, cyfleoedd i rai’n
chwilio am waith ac amodau gweithio gweithwyr asiantaeth;
-
Sylwadau
am eu hardrawiad ar arferion cyfredol y DU a thystiolaeth o hynny, gan
gynnwys, os bydd modd, enghreifftiau neu astudiaethau o achosion unigol;
-
Unrhyw
dystiolaeth o broblemau gyda gwaith asiantaeth dros dro yn y DU;
-
Sylwadau
am unrhyw bosibiliadau eraill yn lle rheoleiddio a fyddai’n bodloni
amcanion y Gyfarwyddeb arfaethedig neu broblemau canfyddedig eraill gyda
gwaith asiantaeth dros dro.
Cyfarwyddiaeth
Cysylltiadau Cyflogaeth
Cangen
Ewrop ac Ystwythder
DTI
CYNNIG AR GYFER
CYFARWYDDEB GAN SENEDD EWROP A’R CYNGOR AR AMODAU GWAITH I WEITHWYR ASIANTAETH
DROS DRO - ASESIAD O’R EFFEITHIAU RHEOLEIDDIOL
Crynodeb
Pwnc
Ardrawiad
economaidd Cyfarwyddeb arfaethedig UE ar amodau gwaith gweithwyr asiantaeth dros
dro.
Amcanion
Ysgogir cynnig y Comisiwn gan
bryder y gall gweithwyr asiantaeth dros dro gael eu trin yn llai ffafriol na
gweithwyr parhaol neu weithwyr tymor-penodedig cymaradwy.
Mae
amcanion penodol y cynnig yn ddeublyg:
-
gwella
ansawdd gwaith asiantaeth dros dro trwy gymhwyso egwyddor dim-gwahaniaethu.
-
sefydlu
fframwaith addas ar gyfer defnyddio gwaith asiantaeth dros dro er mwyn
cyfrannu at weithrediad llyfn y farchnad lafur.
Y
niferoedd yr effeithir arnynt
Amcangyfrifwn fod tua 700,000
o bobl yn dilyn gwaith asiantaeth dros dro ar unrhyw adeg arbennig yn y DU.
Effeithiau
posibl y Gyfarwyddeb ar y farchnad lafur
-
Gallai’r
Gyfarwyddeb arfaethedig arwain at well cyflog ac amodau gwaith eraill i
weithwyr asiantaeth, gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau unigol a thermau manwl
y Gyfarwyddeb.
-
Felly,
gallai mwy o bobl ymuno â’r farchnad lafur fel gweithwyr asiantaeth,
oherwydd gwell amodau gwaith.
-
Ond
gallai mentrau leihau eu galw am weithwyr asiantaeth os bydd
asiantaethau’n trosglwyddo rhai o’u costau uwch i fentrau sy’n perthyn
i’r drefn, ar ffurf ffioedd uwch.
-
Fodd
bynnag, bydd rhai mentrau sy’n rhan o’r drefn yn gwneud dewis
gweithredol i ddefnyddio gweithwyr asiantaeth dros dro i gynnal ystwythder y
gweithle, a allai gyfyngu ar y lleihad mewn galw er gwaethaf cost uwch
gweithwyr asiantaeth.
-
Gallai
fod goblygiadau ystwythder i’r sgil-effeithiau hyn o ran galw a chyflenwad.
-
Ni
allwn fesur yr effeithiau hyn ac felly nid oes modd rhagfynegi’r ardrawiad
cyffredinol ar y farchnad lafur i weithwyr asiantaeth. Byddem yn croesawu
tystiolaeth bellach o’r effeithiau tebygol.
Buddion
Amcangyfrifwn y gallai rhwng 210,000 a 290,000 o weithwyr
asiantaeth fod ar eu helw o’r Gyfarwyddeb yn sgil y canlynol:
-
Gallai
gweithwyr asiantaeth fod ar eu helw o rhwng £164m a £226m y
flwyddyn pe ceid gwared â phob gwahaniaethu o ran cyflog.
-
Amcangyfrifir
y bydd gweithwyr asiantaeth ar eu helw o rhwng £21m a £29m y
flwyddyn yn sgil gwell mynediad i hyfforddiant.
-
Yn
yr un modd, amcangyfrifir y gallai hyfforddiant arwain at well cynhyrchedd
i’r mentrau sy’n dilyn y drefn hon, yn ôl gwerth o rhwng £98m a
£272m y flwyddyn.
-
Amcangyfrifir
y gallai 335 o fentrau o dan y drefn hon arbed rhyw £2.8m y flwyddyn
i gyd, trwy wella’r ffordd y llenwir swyddi gwag.
-
Amcangyfrifir
y gallai asiantaethau dderbyn refeniw o rhwng £21m a £45m y
flwyddyn yn sgil gwell trefn ar gyfer llenwi swyddi gwag, pe bai’r
Gyfarwyddeb arfaethedig yn hybu atyniad gwaith asiantaeth dros dro.
-
Ceir
buddion i’r trethdalwr o rhwng £41m a £57m y flwyddyn
oherwydd incwm treth uwch a chyfraniadau yswiriant gwladol yng nghyswllt
cyflogau uwch i weithwyr asiantaeth.
Gallai
fod buddion eraill hefyd, fel mwy o sicrwydd gwaith i weithwyr asiantaeth a
chynnydd yn atyniad gwaith asiantaeth, er ei bod yn anodd mesur y rhain.
Costau
Amcangyfrifwn y bydd costau
cyfan y Gyfarwyddeb fel a ganlyn:
-
O
gael gwared â phob gwahaniaethu mewn cyflog, y gost i asiantaethau fyddai
rhwng £43m a £118m y flwyddyn.
-
Amcangyfrifir
y gallai’r cynnydd mewn costau hyfforddi i asiantaethau fod rhwng £2m
a £6m y flwyddyn, a rhwng £11m a £15m y flwyddyn i
unrhyw fentrau sy’n dod o dan y drefn hon.
-
Amcangyfrifir
y collir rhwng £35m a £70m y flwyddyn, neu 1%-3% o
drosiant busnes blynyddol y diwydiant, ar ffurf refeniw o ffioedd
trosglwyddo rhwng gwaith dros dro i waith parhaol.
-
Amcangyfrifir
y byddai mentrau sy’n ymuno â’r drefn hon yn wynebu ffioedd uwch yn
sgil trosglwyddo costau asiantaeth o rhwng £239m a £387m y
flwyddyn.
-
Byddai
cyflogwyr yn ysgwyddo cost gyfan o £0.8m yn sgil ceisiadau
ychwanegol i Dribiwnlysoedd Cyflogaeth.
-
Deuai
cost ychwanegol o £0.2m i ran y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Cyflogaeth
yn sgil ceisiadau.
-
Byddai
asiantaethau yn wynebu cost weinyddol unwaith-ac-am-byth o rhwng £1.4m
a £3.2m.
Gallai
fod costau eraill sy’n anodd eu mesur, megis mwy o fynd a dod ymhlith
gweithwyr asiantaeth, cyfleoedd gwaith parhaol yn cael eu gwadu oherwydd pwysau
niferoedd, a mwy o ansicrwydd gwaith i weithwyr parhaol sy’n gweithio ochr yn
ochr â gweithwyr asiantaeth.
Busnesau
bach
Cwmnïau bach yn bennaf yw
cynnwys diwydiant yr asiantaethau cyflogi preifat yn y DU, felly mae’n bosibl
y gall y Gyfarwyddeb effeithio ar asiantaethau bach i raddau ehangach nag ar
asiantaethau mawr mewn termau cymharol. Fodd bynnag, dim ond rhyw 1.5 % o gwmnïau
bach y DU y mae asiantaethau bach yn cyfrif amdanynt, felly ni fydd yr effaith
ar sector y busnesau bach yn ei grynswth yn drom iawn. Ceir nifer anghymesur o
gwmnïau mawr sy’n manteisio ar wasanaeth asiantaethau, felly fe effeithid i
raddau cymharol lai ar gwmnïau bach gan unrhyw gynnydd mewn costau.
|