This snapshot, taken on 14/02/2006, shows web content selected for preservation by The National Archives. External links, forms and search boxes may not work in archived websites.
Department of Trade and Industry
HOME PAGE | TEXT ONLY | SITE INDEX | FEEDBACK | CONTACT
GO GO GO
 



CYMRAEG

GWEFAN GYMRAEG

Yr Adran Masnach a Diwydiant

(English text)

 

Cyflwyniad

Cafodd Cynllun Iaith Gymraeg yr Adran Masnach a Diwydiant ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 30 Awst 2000 a daeth i rym ffurfiol ar 1 Tachwedd 2000. Yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae Cynllun y DTI yn gosod ymrwymiadau i sicrhau bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal yng ngwasanaethau’r DTI i’r cyhoedd yng Nghymru, lle bynnag y bo hynny’n "briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol".

Yn unol â’r Cynllun mae’r rhan hon o wefan y DTI yn darparu:

  • mynediad i destun llawn y Cynllun Cymraeg (gweler isod) - gan gynnwys cyflwyniad i’r DTI yn Gymraeg: Disgrifiad o’r Adran Masnach a Diwydiant

  • mynediad i restr o’r holl ddogfennau a gwybodaeth arall a gyhoeddir gan yr Adran yn Gymraeg

 

Cynllun yr Iaith Gymraeg

Mae Cynllun Iaith Gymraeg yr Adran Masnach a Diwydiant yn gosod ymrwymiadau sy’n sicrhau 'wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.' Er enghraifft, ceir amrywiaeth o ymrwymiadau ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd a hysbysebu’r Adran. Yn ychwanegol, bydd modd i bobl sy’n dod i gyfarfodydd cyhoeddus a drefnir gan y DTI yng Nghymru gyfrannu yn Gymraeg os dyna’u dymuniad, a bydd gohebiaeth Gymraeg yn cael ateb awtomatig yn Gymraeg.

Gellir gweld testun llawn y Cynllun trwy ddewis naill ai Cynnwys neu PDF isod.

Deunydd cyhoeddedig arall sydd ar gael yn Gymraeg

Mae Cynllun yr Iaith Gymraeg yn cynnwys amserlen weithredu fesul cam. Disgwylir y bydd pob deunydd cyhoeddedig sy’n dod o dan delerau’r Cynllun yn cwrdd ag anghenion y cyhoedd Cymraeg o fewn blwyddyn i’r Bwrdd gymeradwyo’r Cynllun. Gall deunydd sydd wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg ac sydd ar gael fel copi caled gael ei archebu trwy ddefnyddio Publications@dti. Gellir gweld y deunydd a gyfieithwyd i’r Gymraeg ac sydd ar gael ar y wefan trwy ddefnyddio’r cyswllt canlynol:


Sylwadau

Os oes gennych awgrymiadau ynghylch y rhan hon, neu’r deunydd y gall ei gynnwys o dan y Cynllun, cysylltwch â:

Graham Rowlinson
Head of Information Rights Unit
Department of Trade and Industry
Room LG 139
1, Victoria Street
London SW1H 0ET
Ffacs: 020 7215 5713
E-bost: graham.rowlinson@dti.gsi.gov.uk

Yn ôl Cynnwys Ymlaen
 


Top of page

Last Revised Date 22/06/05
Diwygio diwethaf 22/06/05