Mae'r Dystysgrif Perfformiad Ynni yn rhoi gwybodaeth i berchnogion tai, i denantiaid ac i brynwyr am effeithlonrwydd ynni eu heiddo. Mae'n rhoi gradd safonol o 'A' i 'G' i'r adeilad, yn ôl pa mor effeithlon ydyw o safbwynt ynni ac allyriadau carbon. Ar hyn o bryd, 'A' yw'r mwyaf effeithlon a 'D' yw'r lefel ganolig.
Enghraifft o graff sgôr effeithlonrwydd ynni ar gyfer cartrefi
Caiff Tystysgrifau Perfformiad Ynni eu mesur gan ddefnyddio'r un cyfrifiadau ar gyfer pob cartref, fel y gallwch gymharu effeithlonrwydd ynni gwahanol adeiladau.
Mae rhan o'r Dystysgrif Perfformiad Ynni yn adroddiad a fydd yn rhestru'r gyfradd bosibl y gallai eich cartref ei chael, pe byddech yn gwneud y newidiadau a argymhellir. Mae'r adroddiad yn rhestru'r canlynol:
Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon:
Nid oes rhaid i chi weithredu ar yr argymhellion a gynhwysir yn yr adroddiad argymhellion. Fodd bynnag, os penderfynwch wneud hynny, gallai wneud eich eiddo'n fwy deniadol ar gyfer ei werthu neu ei rentu, drwy ei wneud yn effeithlon o ran ynni.
I gael mwy o wybodaeth am arbed ynni a bod yn gymwys i gael grantiau effeithlonrwydd ynni, dilynwch y ddolen isod.
Mae'r gyfraith yn dweud ei bod yn rhaid cael Tystysgrif Perfformiad Ynni pan fydd adeilad yn cael ei adeiladu, ei werthu neu ei rentu.
Pobl sy'n prynu neu'n gwerthu tŷ
Mae angen i bawb sy'n gwerthu tŷ sicrhau eu bod yn darparu Pecyn Gwybodaeth am y Cartref sy'n cynnwys Tystysgrif Perfformiad Ynni i brynwyr posibl.
Rhaid i'r Dystysgrif Perfformiad Ynni fod ar gael i brynwyr posibl - am ddim.
Adeiladwyr
Rhaid darparu Tystysgrif Perfformiad Ynni i bobl sydd wedi prynu tŷ sydd newydd ei adeiladu.
Landlordiaid
Os ydych chi'n landlord, bydd angen i chi sicrhau bod Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gael i ddarpar denantiaid y tro cyntaf y byddwch yn gosod cartref ar ôl 1 Hydref 2008. Dim ond ar gyfer eiddo hunangynhwysol y mae angen cael Tystysgrif Perfformiad Ynni, ac mae'n ddilys am 10 mlynedd.
Nid oes angen cael Tystysgrif Perfformiad Ynni pan fydd tenant yn rhentu ystafell ac yn rhannu cyfleusterau.
Tenantiaid
Os oes gennych ddiddordeb mewn rhentu eiddo mae'n ofynnol bod Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gael i chi am ddim. Dim ond ar gyfer eiddo hunangynhwysol y mae angen Tystysgrif Perfformiad Ynni, ac mae'n ddilys am 10 mlynedd.
Os ydych yn ddarpar denant, nod oes angen Tystysgrif Perfformiad Ynni pan fyddwch yn rhentu ystafell ac yn rhannu cyfleusterau.
Os nad ydych yn un o'r categorïau uchod
Hyd yn oed os nad yw un o'r categorïau uchod yn berthnasol i chi, gallwch ddal wneud cais am Dystysgrif Perfformiad Ynni a chael un. Gallech fod â nifer o resymau dros hyn - efallai eich bod am wybod beth yw effeithlonrwydd ynni eich cartref ac am sicrhau'r gwelliannau a argymhellir gan yr adroddiad, er enghraifft.
I gael gwybod mwy am gynnwys Tystysgrif Perfformiad Ynni, dilynwch y ddolen isod.
Dim ond i Gymru a Lloegr y mae Tystysgrifau Perfformiad Ynni yn berthnasol. Mae Gogledd Iwerddon a'r Alban yn cynhyrchu eu rheoliadau eu hunain. I gael manylion mwy cyffredinol ar y gwahaniaethau yn neddfwriaeth gwahanol rannau o'r DU, dilynwch y ddolen isod.
Dim ond yn dilyn arolwg gan Asesydd Ynni Domestig wedi'i 'achredu' y gellir cael Tystysgrif Perfformiad Ynni. Defnyddir Tystysgrifau Perfformiad Ynni i gasglu gwybodaeth safonol am yr eiddo - er enghraifft, ei faint a'i systemau gwresogi/dŵr poeth. Yna caiff y wybodaeth ei bwydo i raglen feddalwedd wedi'i chymeradwyo gan y llywodraeth sy'n llunio'r Dystysgrif Perfformiad Ynni.
Defnyddiwch y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth am y canlynol:
Caiff pris Tystysgrif Perfformiad Ynni ei bennu gan y sefydliadau achrededig sy'n eu cyhoeddi. Pan gewch Becyn Gwybodaeth am y Cartref, dylai'r gost gyffredinol gynnwys cost Tystysgrif Perfformiad Ynni. Os byddwch yn gwneud cais am Dystysgrif Perfformiad Ynni ar ei phen ei hun yna'r gost ar gyfer y tŷ cyffredin fydd tua £100.
Mae cael Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer tŷ maint cyffredin yn debygol o gymryd yr un faint o amser ag adroddiad prisio tai sy'n gorfod cael ei baratoi pan fydd eiddo'n mynd ar werth. Bydd yr union amser yn amrywio o eiddo i eiddo.
Mae'n rhaid i rai adeiladau cyhoeddus gael Tystysgrif Ynni i'w Harddangos sy'n cynnwys gwybodaeth debyg i'r wybodaeth a geir ar Dystysgrifau Perfformiad Ynni er mwyn galluogi ymwelwyr a defnyddwyr yr adeilad i weld y gyfradd effeithlonrwydd ynni.
O fis Hydref 2008 ymlaen, bydd yn rhaid i berchnogion adeiladau masnachol hefyd ddarparu Tystysgrif Perfformiad Ynni pan fyddant yn prynu, yn gwerthu neu'n gosod adeiladau masnachol.