This snapshot, taken on 12/05/2010, shows web content selected for preservation by The National Archives. External links, forms and search boxes may not work in archived websites.

Treftadaeth y Byd i’r Genedl: gwybodaeth i ymgeiswyr ar gyfer rhestr betrus newydd y Deyrnas Unedig

Mae Llywodraeth y DU yn paratoi Rhestr Betrus newydd o safleoedd naturiol, diwylliannol a chymysg i’w henwebu ar gyfer Rhestr Treftadaeth y Byd UNESCO.   Cyflwynir Rhestr Betrus newydd y DU i UNESCO yn 2011 gyda golwg ar fwrw ymlaen gydag enwebiadau o’r rhestr newydd o 2012.

Mae statws Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO’n cydnabod arwyddocâd gwirioneddol fyd-eang lleoedd o’r fath.  Mae’n fraint ac anrhydedd a gall ddod â manteision cymdeithasol ac economaidd.  Am fod rhaid i bob Safle Treftadaeth y Byd fod o bwysigrwydd gwirioneddol fyd-eang, mae Rhestr Treftadaeth y Byd o reidrwydd yn ddethol iawn ac ni fydd llawer o leoedd o arwyddocâd cenedlaethol, neu hyd yn oed ryngwladol, yn cyrraedd y rhestr.

Mae statws o’r fath hefyd yn dod â chyfrifoldebau o ran diogelu, gwarchod a throsglwyddo Gwerth Byd-eang Neilltuol y safle i genedlaethau’r dyfodol. Mae paratoi enwebiad a rheoli safleoedd yn y tymor hir yn gostus. Ni ddylid tanbrisio’r ymrwymiadau hyn a dylid eu hystyried yn ofalus cyn i unrhyw gais gael ei wneud. 

Gwahoddir ceisiadau ar y ffurflen gais gan Awdurdodau Lleol ac eraill ledled y DU, Tiriogaethau Tramor a Thiriogaethau Dibynnol y Goron, ac fe’u hasesir gan banel o arbenigwyr annibynnol a benodir gan y Llywodraeth.  Cyflwynir Rhestr i Weinidogion i'w chymeradwyo cyn iddi fynd ymlaen i UNESCO yn 2011.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Mehefin 2010. 

brig


English version

Pecyn cais

Mae’r pecyn cais yn cynnwys taflenni gwybodaeth gefndirol ar Dreftadaeth y Byd a’i chyd-destun gyda’r ffurflen gais a thaflenni cyfarwyddyd ar ei llenwi, a sut i geisio cyfarwyddyd cyffredinol pellach. Mae Taflen wybodaeth 10 yn rhestr o ffynonellau gwybodaeth bellach a gwefannau defnyddiol. Anogir ymgeiswyr yn gryf i ddarllen y pecyn cyfan yn ofalus cyn llenwi’r ffurflen gais.

Dylid lawrlwytho’r ffurflen cyn ei llenwi. Dylech gyfeirio hefyd at y Nodyn Cyfarwyddyd ar lenwi;r ffurflen gais

Ffurflenni cais 

Nodiadau cyfarwyddyd    

brig

Taflenni gwybodaeth   

Mae’r taflenni gwybodaeth yn cynnwys yr adrannau a ganlyn:

  1. UNESCO 
  2. Y Confensiwn ar Ddiogelu Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd (1972) - Confensiwn Treftadaeth y Byd.
  3. Pwy sy’n gwneud beth:  Llywodraethau Gwladol, Pwyllgor Treftadaeth y Byd a’i gynghorwyr.
  4. Beth yw Safle Treftadaeth y Byd? 
  5. Beth yw’r Rhestr Betrus?
  6. Gofynion cynnwys ar Restr Treftadaeth y Byd.
  7. Meini prawf UNESCO wrth asesu Gwerth Byd-eang Neilltuol.
  8. Polisi a blaenoriaethau UNESCO ar gyfer Safleoedd Treftadaeth y Byd yn y dyfodol.
  9. Polisi’r DU ar Safleoedd Treftadaeth y Byd.
  10. Ffynonellau gwybodaeth (gwefannau a chyhoeddiadau).

brig


Sut i ymateb

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 11 Mehefin 2010. Dylech e-bostio eich ceisiaau a dogfennau atodol i UKTL.Application@culture.gsi.gov.uk.
Sylwer: Ni dderbynnir e-byst dros 12MB

Dylid anfon unrhyw ddeunydd na ellir ei anfon trwy ddulliau electronig i;r cyfeiriad a ganlyn:
World Heritage Team,
Department for Culture, Media and Sport
2-4 Cockspur Street
London
SW1 5DH

Rhyddid gwybodaeth

Gellir cyhoeddi atebion, oni bai eich bod yn gofyn inni beidio. Yn ogystal o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gall pob gwybodaeth mewn ymatebion, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, fod yn agored i'w chyhoeddi neu i'w datgelu. Os bydd unrhyw ohebydd yn gofyn am gyfrinachedd ni ellir gwarantu hyn, ac ni fydd ond yn bosibl os ystyrir ei bod yn briodol o dan y ddeddfwriaeth.


Mae’r dogfennau hyn ar gael ar-lein mewn fformat Adobe Acrobat (.pdf)

These documents are available online in Adobe Acrobat (.pdf) format.

Get Adobe Reader

Back to main

Back to top