Datganiad i'r Wasg
Penodiad Cadeirydd Newydd Sianel Pedwar Cymru (S4C)
Mae'r Ysgrifennydd Diwylliant Tessa Jowell wedi penodi John Walter Jones OBE yn Gadeirydd newydd Awdurdod S4C. Hyd tymor y penodiad yw pedair blynedd, o 1 Ebrill 2006 i 31 Mawrth 2010.
Mae John Walter Jones yn cymryd yr awennau oddi wrth Elan Closs Stephens, sy'n gadael ddiwedd Mawrth ar ôl wyth mlynedd yn ei swydd.
Mae John ar hyn o bryd yn aelod o Awdurdod S4C. Bu'n Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 1988 a'i ymddeoliad yn 2004. Mae'n aelod o Bwyllgor Llywio Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008 ac yn gefnogwr brwd o'r Mudiad Ysgolion Meithrin. Bu John yn aelod o Banel Gwylwyr yr Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn cynghori ar y trosglwyddo i deledu digidol.
Urddwyd John yn aelod o'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004.
Meddai John Walter Jones, "Rwy'n edrych ymlaen at adeiladu ar gyfraniad aruthrol Elan Closs Stephens i S4C. Yn ystod fy nghyfnod fel Cadeirydd bydd llawer o gyfleoedd i S4C ond rwy'n cydnabod hefyd y byddwn ni'n wynebu cwestiynau heriol. Yn yr amgylchedd dra newidiol hon, bydd Awdurdod S4C yn sicrhau bod y gwasanaeth yn cwrdd â disgwyliadau ein cynulleidfaoedd."
Meddai Tessa Jowell:
"Rwyf wrth fy modd bod John wedi cytuno i fod yn Gadeirydd newydd S4C. Bydd ei ymroddiad i'r sianel ac i'r iaith Gymraeg yn sicrhau bod S4C yn parhau i ddarparu gwasanaeth hollbwysig i bobl Cymru. Edrychaf ymlaen at gydweithio ag ef.
"A hoffwn i hefyd ddiolch i ragflaenydd John, Elan Closs Stephens, am ei gwaith caled a'i hymroddiad hi dros yr wyth mlynedd diwethaf. Ni ellir gorbwysleiso ei chyfraniad i faterion Cymreig ac rwy'n dymuno pob llwyddiant iddi yn ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol."
Nid yw John Walter Jones wedi ymgymryd ag unrhyw weithgaredd gwleidyddol arwyddocaol yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Nodiadau i'r Golygyddion
1. Sefydlwyd S4C i ddarparu gwasanaeth teledu Cymraeg o ystod eang ac o safon uchel. Mae Awdurdod S4C, fel corff rheoleiddio, yn gyfrifol am sicrhau bod S4C ac S4C digidol (y gwasanaeth digidol) yn cael eu gweithredu fel gwasanaethau cyhoeddus a bod trefniadau rheoli effeithiol, gan gynnwys rheoli ariannol, mewn lle ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a masnachol S4C.
2. Ar analog, mae gan S4C ddyletswydd i ddarparu gwasanaeth rhaglenni o ystod eang, amrywiol ac o safon uchel gyda nifer helaeth o raglenni yn y Gymraeg. Yn ystod yr oriau brig (rhwng 18.30 a 22.00) rhaid i'r mwyafrif o'r rhaglenni fod yn y Gymraeg. Rhaid i'r rhaglenni Saesneg fel arfer fod yn rhaglenni sy'n cael eu darlledu ar Channel 4. Ar ddigidol, mae gan S4C ddyletswydd i ddarparu gwasanaeth rhaglenni o ystod eang, amrywiol ac o safon uchel, gyda chanran sylweddol o raglenni yn cael ei darlledu yn y Gymraeg. Mae S4C hefyd yn darparu darllediadau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gwasanaethau ychwanegol ar ei gwasanaeth digidol arall, S4C2.
3. Mae S4C yn cael ei ariannu ar ffurf grant, sy'n cael ei bennu yn ôl fformiwla a amlinellir yn Neddf Ddarlledu 1996. Yn 2006 grant S4C yw £90.857m.
4. Y tâl ar gyfer y swydd yw £49,520 a threuliau.
5. Penodwyd John Walter Jones yn Gadeirydd Awdurdod S4C yn unol â Chôd Ymarfer Swyddfa'r Comisiynydd ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus.
6. Gwneir yr holl benodiadau cyhoeddus ar sail haeddiant ac nid yw gweithgaredd gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses o ddewis.
|