This snapshot taken on 05/09/2007, shows web content selected for preservation by The National Archives. External links, forms and search boxes may not work in archived websites.

Cabinet Office

Cabinet Office
|
a service of the Cabinet Office

Main navigation

Y Llywodraeth yn penodi Cymro newydd i Fwrdd y Comisiwn Elusennau

12 Gorffennaf 2007
CAB/061/07b

Comisiwn Elusennau

Cyhoeddodd Phil Hope, Y Gweinidog dros y Trydydd Sector, fod y pumed aelod Bwrdd newydd, a'r un olaf, wedi cael ei benodi heddiw i ymuno â'r Comisiwn Elusennau yr haf hwn.

Yr aelod Bwrdd newydd sydd â phrofiad arbennig o'r sector gwirfoddol ac elusennol yng Nghymru yw Simon Jones. Mae Simon yn cadeirio Rhwydwaith Cefnogi Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru ac Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro. Roedd yn Brif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru am ddeng mlynedd. Mae cefndir cryf gan Simon ym maes adfywio a datblygu cymunedol yng Nghymru a bu'n aelod anweithredol o sawl Bwrdd.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn dilyn darpariaeth a wnaed yn Neddf Elusennau 2006 i'r Comisiwn Elusennau fod yn gorff corfforaethol, ac i'w Fwrdd gael ei ehangu i uchafswm o naw aelod. Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 27 Chwefror 2007. Mae'r penodiad hwn wedi cael ei gadarnhau yn dilyn ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd Simon yn eistedd wrth ochr yr aelodau Bwrdd presennol, John Williams, Tess Woodcraft a Lindsay Driscoll. Bydd yn ymuno â'r aelodau Bwrdd newydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar sef Sharmila Nebhrajani, Dr Andrew Purkis OBE, Theo Sowa a Simon Wethered, a fydd yn dechrau eu swyddi yn ddiweddarach yr haf hwn.

Dywedodd Phil Hope, Y Gweinidog dros y Trydydd Sector:

“Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Simon Jones wedi cael ei benodi i Fwrdd y Comisiwn Elusennau. Bydd profiad eang Simon o'r trydydd sector yng Nghymru yn gaffaeliad i Fwrdd y Comisiwn. Mae'r aelodau Bwrdd newydd yn ymuno â'r Comisiwn ar adeg bwysig, ac rwy'n sicr y bydd eu doniau a'u profiad helaeth o fudd mawr i'r Comisiwn wrth iddo fynd ati i weithredu'r Ddeddf Elusennau.”

Dywedodd y Fonesig Suzi Leather, Cadeirydd y Comisiwn Elusennau:

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous a heriol i'r Comisiwn Elusennau, wrth i ni ymgymryd â'n cyfrifoldebau newydd. Mae'r cyd–destun y mae elusennau'n gweithio ynddo yng Nghymru yn cynnig sialensiau a chyfleoedd arbennig a bydd profiad helaeth Simon o'r sector yng Nghymru yn allweddol wrth i ni geisio cyflawni ein rôl o gynyddu effeithiolrwydd elusennau yno.”

Diwedd

Nodiadau i olygyddion

  1. Y Comisiwn Elusennau yw'r rheolydd annibynnol ar gyfer gweithgarwch elusennol yng Nghymru a Lloegr. Gweler www.charitycommission.gov.uk am wybodaeth bellach neu ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0845 300 0218.
  2. Penodwyd Phil Hope fel Y Gweinidog dros y Trydydd Sector, yn atebol i Ed Miliband, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn yn Swyddfa'r Cabinet, yn ystod yr ad–drefnu ar 28 Mehefin 2007.
  3. Mae Deddf Elusennau 2006 yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Comisiwn Elusennau gael o leiaf bump, ac nid mwy na naw, aelod Bwrdd gan gynnwys y Cadeirydd. Rhaid i o leiaf ddau aelod feddu ar gymwysterau cyfreithiol a dylai o leiaf un aelod fod yn ymwybodol o'r sefyllfa yng Nghymru, a chael ei benodi yn dilyn ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
  4. Mae Simon Jones yn ymgynghorydd ar gyfer Canolfan Cydweithredol Cymru lle yr oedd yn Brif Weithredwr tan 2004. Mae'n gyn–Gadeirydd y Comisiwn Annibynnol a fu'n adolygu Cynllun Sector Gwirfoddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd mae'n cadeirio Rhwydwaith Cefnogi Cymunedau yn Gyntaf ac mae ganddo brofiad helaeth o'r cyfryngau, gan gynnwys gweithio fel cyflwynydd ar Radio Cymru

I gael mwy o wybodaeth am y stori hon cysylltwch â: Sush Amar ar 020 7674 2462 yn y Comisiwn Elusennau, neu Steve Coomber yn Swyddfa'r Wasg Swyddfa'r Cabinet ar 020 7276 0317.

Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Cabinet
70 Whitehall
LLUNDAIN
SW1A 2AS

Ffôn: 020 7276 0317 – Ffacs: 020 7276 0618

www.swyddfa-cabinet.gov.uk

Ffôn tu allan i oriau gwaith 07699 113300 a gofynnwch am rif galwr 721338